Yr Athro Khaled Hussainey wedi'i Ethol yn Gymrawd yr Academi Gwyddorau Cymdeithas
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn falch iawn o gyhoeddi bod yr Athro Khaled Hussainey wedi'i ethol yn Gymrawd yr Academi Gwyddorau Cymdeithas (FAcSS), yn dilyn enwebiad gan y British Accounting & Finance Association (BAFA).
Dyfernir y Gymrodoriaeth i wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw y mae eu gwaith wedi gwneud cyfraniad sylweddol at wyddoniaeth gymdeithasol er budd y cyhoedd. Mae'r Athro Hussainey wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad sylweddol at ymchwil a datblygiad academaidd mewn cyfrifeg a chyllid.
Mae cael eich ethol i'r Gymrodoriaeth yn un o'r anrhydeddau uchaf yn y gwyddorau cymdeithasol, gan gydnabod rhagoriaeth mewn ymchwil, effaith polisi, addysg ac ymarfer proffesiynol.
Dywedodd yr Athro Hussainey:
"Rwy’n falch iawn o gael fy ethol yn Gymrawd yr Academi Gwyddorau Cymdeithas, mae’n anrhydedd mawr. Mae'r gydnabyddiaeth fawreddog hon yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn fy ngyrfa academaidd ac yn cryfhau fy ymrwymiad i hyrwyddo ymchwil sy'n hysbysu ymarfer proffesiynol ac yn darparu budd cyhoeddus ystyrlon.
Mae'r cyrhaeddiad hwn hefyd yn adlewyrchu cefnogaeth a chyfraniadau'r nifer o gydweithwyr yr ydw i wedi cael y fraint o weithio gyda nhw dros y 25 mlynedd diwethaf. Mae eu syniadau, eu cydweithrediad a'u hymroddiad wedi cyfoethogi fy nhaith academaidd yn fawr.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’r Academi Gwyddorau Cymdeithas am yr anrhydedd nodedig hon, i’r British Accounting & Finance Association am fy enwebu, ac i Ysgol Fusnes Albert Gubay a Phrifysgol Bangor am eu cefnogaeth amhrisiadwy. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu ymchwil ym maes gwyddorau cymdeithas er budd busnesau, cymdeithas a'r cyhoedd yn ehangach."
Mae ethol yr Athro Hussainey yn Gymrawd yn adlewyrchu cryfder ac effaith y gymuned ymchwil yn Ysgol Fusnes Albert Gubay a Phrifysgol Bangor. Mae ei waith yn parhau i gyfrannu at ddatblygiad gwybodaeth mewn cyfrifeg a chyllid wrth gefnogi ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy'n fuddiol i sefydliadau, llunwyr polisi a chymdeithas.