Ysgol Fusnes Albert Gubay yn Dathlu Canlyniadau Ardderchog yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn dathlu canlyniadau rhagorol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) diweddaraf, gyda myfyrwyr yn tynnu sylw at ansawdd uchel y cymorth, y cyfleoedd dysgu a'r profiad cyffredinol a gânt ym Mhrifysgol Bangor.
Mae'r canlyniadau'n gosod yr Ysgol Fusnes ymhlith y gorau yng Nghymru ac o fewn y 25% uchaf o sefydliadau ledled y DU mewn nifer o feysydd allweddol.
Llwyddiant Cryf i Reolaeth Busnes
Cafodd y rhaglen Rheolaeth Busnes sgôr arbennig o 96% ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr, gan adlewyrchu profiadau cadarnhaol y rhai sy'n astudio yn Ysgol Fusnes Albert Gubay.
Daeth y rhaglen hefyd yn 1af yng Nghymru ac yn 20fed yn y DU am Gymorth Academaidd mewn Astudiaethau Busnes, gan ei gosod ymhlith y 25% uchaf yn y DU. Mae'r categori hwn yn mesur pa mor hawdd yw cysylltu ag aelodau staff a pha mor effeithiol ydynt wrth gefnogi dysgu a datblygiad myfyrwyr.
Safleoedd Blaenllaw ar gyfer Astudiaethau Rheolaeth
- 1af yng Nghymru am Foddhad Cyffredinol
- 92% ar gyfer Boddhad Cyffredinol
- 13eg yn y DU am Gyfleoedd Dysgu (25% uchaf)
- 2il yng Nghymru ac 17eg yn y DU am Asesu ac Adborth (25% uchaf)
- 2il yng Nghymru ac 15fed yn y DU am Drefniadaeth a Rheolaeth (25% uchaf)
Mae'r categori Cyfleoedd Dysgu yn mesur barn myfyrwyr ynghylch y cyfle i archwilio syniadau a chysyniadau'n fanwl a datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau y bydd eu hangen arnynt ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Mae Asesu ac Adborth yn ystyried pa mor dda y mae asesiadau'n galluogi myfyrwyr i ddangos yr hyn y maent wedi'i ddysgu, a pha mor aml y mae adborth yn eu helpu i wella eu gwaith.
Mae'r categori Trefniadaeth a Rheolaeth yn asesu pa mor dda y mae cyrsiau wedi'u trefnu a pha mor effeithiol y caiff unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth addysgu eu cyfathrebu i fyfyrwyr.
Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Ysgol Fusnes Albert Gubay i ddarparu profiad myfyrwyr eithriadol, gan gyfuno rhagoriaeth academaidd â chefnogaeth bersonol a ffocws cryf ar ddatblygu graddedigion sy'n barod ar gyfer y byd gwaith.