Bydd y project arloesol hwn, sydd wedi derbyn gwerth £494,000 o gyllid sbarduno gan Mae’r yr Advanced Research + Invention Agency (ARIA), yn astudio sut mae rhai trychfilod yn gallu bwydo ar y llwyn gwenwynig, Rhododendron ponticum, sy'n bygwth coetiroedd a bioamrywiaeth ledled gogledd Cymru a thu hwnt.
Rhododendron ponticum yn ffurfio dryslwyni trwchus sy'n rhwystro goleuni’r haul rhag cyrraedd llawr y coetir. Mae hyn yn rhwystro llawer o blanhigion brodorol rhag tyfu a gall rwystro coed ifanc, gan gynnwys coed derw, rhag adfywio.
Ar hyn o bryd, cael gwared â rhododendron yw'r unig ffordd effeithiol o'i reoli, ond mae clirio’r dryslwyni ar raddfa fawr yn waith drud a llafurus.
Meddai Dr Benjamin Jarrett, ymchwilydd yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor, "Mae Rhododendron ponticum yn her fawr i reolwyr coetiroedd ledled y Deyrnas Unedig. Rydym eisiau deall a yw trychfilod brodorol yn gallu bwydo ar blanhigyn sy'n wenwynig i'r rhan fwyaf o rywogaethau, ac os ydynt, sut maent yn gallu gwneud hynny. Trwy astudio'r trychfilod hyn, efallai y byddwn yn datgelu ffyrdd newydd o reoli rhododendron yn y dyfodol sy'n ystyried esblygiad yn benodol."
Bydd y project yn cynnal arolwg o boblogaethau Rhododendron ledled gogledd Cymru i fesur pa mor aml y mae trychfilod brodorol yn bwyta'r planhigion. Yna bydd ymchwilwyr yn cynnal astudiaethau labordy a dadansoddiadau genetig i ymchwilio i'r mecanweithiau biolegol sy'n caniatáu i'r trychfilod hyn oddef cemegion amddiffynnol y planhigyn.
Bydd y canfyddiadau’n helpu gwyddonwyr i ddeall yn well sut mae rhywogaethau brodorol yn addasu i blanhigion ymledol. Gallai deall sut mae bywyd gwyllt brodorol yn ymateb i heriau amgylcheddol newydd fod yn gymorth i ddatblygu dulliau mwy cynaliadwy o gadwraeth ac adfer ecosystemau.
Wedi'i greu gan Ddeddf Seneddol, a'i noddi gan Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Mae ARIA yn ariannu ymchwil a datblygu arloesol mewn meysydd heb eu harchwilio'n ddigonol i gatalyddu llwybrau newydd i ffyniant i'r Deyrnas Unedig a'r byd. Mae'r sefydliad yn grymuso gwyddonwyr a pheirianwyr i ymgymryd ag ymchwil sy'n rhy ddyfaliadol, yn rhy anodd, neu'n rhy rhyngddisgyblaethol i'w dilyn mewn mannau eraill.
Cyllidir y project hwn fel rhan o gronfa cyfleoedd gwydnwch ecosystemau peirianneg ARIA, sy'n archwilio a allai cyfuno mesuriadau cydraniad uchel ag ymyriadau wedi eu targedu sy'n hybu gwydnwch wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth ac atal chwalfa ecolegol.