Canfu ymchwilwyr, gan gynnwys Dr Manuel Esperon-Rodriguez, ecolegydd trefol ym Mhrifysgol Bangor, fod llystyfiant trefol yn syndod o fwy gwydn na llystyfiant gwledig cyfagos.
Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn PNAS, yn herio'r farn bod dinasoedd yn wastad yn niweidiol i sefydlogrwydd ecosystemau ac yn tynnu sylw at rôl bosibl mannau gwyrdd trefol a reolir yn gynaliadwy o dan newid hinsawdd.
Gan ddefnyddio arsylwadau lloeren yn cwmpasu 751 o ddinasoedd ar draws 109 o wledydd rhwng 2001 a 2022, fe wnaeth y tîm ymchwil asesiad byd-eang aml-ddegawd o wytnwch llystyfiant. Bu iddynt ddiffinio gwytnwch fel gallu llystyfiant i adfer yn dilyn aflonyddwch.
Dywedodd Dr Manuel Esperon-Rodriguez, o Brifysgol Bangor, “Yr hyn a’n synnodd fwyaf oedd pa mor gyson yr oedd llystyfiant trefol yn perfformio’n well na’r ardaloedd gwledig cyfagos o ran ei allu i ddod ato’i hun ar ôl sioc hinsawdd. Mewn llawer o ddinasoedd, yn enwedig mewn rhanbarthau poeth a sych, mae'n ymddangos bod mannau gwyrdd trefol yn gweithredu fel llochesi a reolir, gan gynnal sefydlogrwydd hyd yn oed wrth i lystyfiant gwledig ddod yn fwy agored i niwed. Nid yw hyn yn golygu bod dinasoedd yn well ar gyfer natur yn eu hanfod, ond mae'n dangos y gall y ffordd rydym yn dylunio, rheoli a gofalu am wyrddni trefol amddiffyn ecosystemau yn ystyrlon rhag hinsawdd sy'n newid.”
Yn y dinasoedd a arsylwyd yn yr astudiaeth, canfuwyd bod llystyfiant mewn creiddiau trefol yn fwy gwydn na llystyfiant gwledig cyfagos mewn 78% o ddinasoedd. Roedd y fantais hon yn arbennig o amlwg mewn rhanbarthau poeth a sych, lle mae llystyfiant wedi'i gyfyngu'n fawr gan argaeledd dŵr.
Yn bwysicach fyth, mae'r bwlch gwytnwch rhwng ardaloedd trefol a gwledig wedi ehangu dros y ddau ddegawd diwethaf. Y prif reswm dros y gwahaniaeth hwn oedd gostyngiad yn y gwytnwch mewn llystyfiant gwledig, tra bod llystyfiant trefol wedi aros yn gymharol sefydlog neu wedi gwella ychydig dros amser.
Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn gyson â'r posibilrwydd y gall yr amgylchedd trefol a rheolaeth gadarn helpu i helpu llystyfiant rhag straen hinsawdd cynyddol, er nad yw'r astudiaeth yn sefydlu dyfrhau ei hun fel achos uniongyrchol.
Mae'r canfyddiadau hefyd yn datgelu newid dyfnach yn y ffordd y gellir cynnal sefydlogrwydd ecolegol mewn dinasoedd. Mewn 32% o ddinasoedd, dangosodd llystyfiant trefol “fantais ddeuol”. Hynny yw, profwyd llai o golledion gwyrddni yn ystod aflonyddwch a daeth ato’i hun yn gynt wedi hynny na llystyfiant gwledig o'i gwmpas.
Mae'r patrwm hwn yn gyson â llacio drwy reolaeth y cyfaddawd gwrthsefyll-gwytnwch arferol. Gyda'i gilydd, mae'r canlyniadau'n awgrymu, pan gefnogir gan reolaeth gynaliadwy a theg, y gall mannau gwyrdd trefol wasanaethu fel llochesi a reolir ar gyfer gwytnwch llystyfiant o dan newid hinsawdd.
Arweiniwyd yr astudiaeth, “Global divergence in urban-rural vegetation resilience driven by broken ecological trade-offs”, gan yr Athro Jin Wu o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol, Cyfadran y Gwyddorau, a'r Athro Yuyu Zhou o’r Adran Daearyddiaeth, Cyfadran Gwyddorau Cymdeithas, ym Mhrifysgol Hong Kong (HKU), gyda Dr Zhengfei Guo fel y prif awdur.