Mae ymchwil yn rhybuddio y gallai newid hinsawdd ddylanwadu ar y peryglon o glefydau angheuol a gludir gan gnofilod
Gall newidiadau mewn glawiad sbarduno cynnydd ym mhoblogaethau cnofilod, ac o ganlyniad, cynnydd mewn haint, yn ôl ymchwil newydd.
Mae Dr Lucinda Kirkpatrick o Brifysgol Bangor yn gyd-awdur yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y Proceedings of the National Academy of Sciences, sy'n datgelu sut y gallai hinsawdd sy'n newid effeithio ar iechyd pobl.
Roedd yr ymchwil, dan arweiniad Dr Gregory Milne (Yr Amgueddfa Byd Natur, Llundain) a Dr Lauren Attfield (Prifysgol Rhydychen) gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor, Coleg Prifysgol Llundain a sefydliadau eraill, yn cynnwys datblygu fframwaith modelu gan ddefnyddio bron i 30 mlynedd o ddata ar y llygoden aml-famat Natal (Mastomys natalensis), sef cnofil Affricanaidd eang ei ddosbarthiad a phrif gludwr y firws Lassa.
Ers 1994, mae Prifysgol Antwerp wedi bod yn casglu data ar ddal ac ail-ddal y llygoden hon: dyma'r astudiaeth hiraf ei pharhad o'i math, gan gynhyrchu data unigryw. Pan gafodd ei brofi yn erbyn mwy na 6,000 o achosion o dwymyn Lassa a gofnodwyd yn Nigeria, rhagfynegodd y model amseriad tymhorol achosion yn gywir, gan awgrymu y gallai helpu gwyddonwyr i adnabod cyfnodau lle mae mwy o beryg o’r clefyd.
Mae twymyn Lassa yn glefyd milheintiol (clefyd heintus a all ledaenu'n naturiol rhwng anifeiliaid a bodau dynol) a gludir gan gnofilod, ac mae’n endemig i Orllewin Affrica.
Gall bodau dynol gael eu heintio trwy gysylltiad â chnofilod neu fwyd heintiedig ac eitemau cartref sydd wedi'u halogi gan eu wrin neu eu carthion. Gall achosion difrifol fod yn angheuol. Felly mae deall yr amodau amgylcheddol sy'n effeithio ar yr anifeiliaid hyn yn bwysig er mwyn adnabod pryd y gallai'r peryg o ledaenu clefydau fod ar ei fwyaf.
Gan ddefnyddio mwy nag 20,000 o gnofilod a ddaliwyd yn Tanzania ochr yn ochr â data ar yr hinsawdd ac amlygiad i bathogenau, canfu'r ymchwilwyr fod glawiad yn ffactor allweddol sy'n sbarduno poblogaethau cnofilod, gyda thebyg bod amodau gwlypach yn cynyddu faint o fwyd sydd ar gael ac yn ysgogi bridio.
Dywedodd Dr Lucinda Kirkpatrick, Darlithydd ym Mhrifysgol Bangor sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Antwerp, “Mae setiau data manwl, hirdymor yn hanfodol ar gyfer gyrru datblygiadau anhygoel mewn modelu, ond ni allwn ni gymryd bodolaeth y data hwn yn ganiataol. Sylfaen y fframwaith newydd hwn yw set ddata 30 mlynedd o ddatrysiad unigryw o'r trofannau, rhanbarth sy'n dioddef llawer o afiechydon ond sydd wedi ei dan-gynrychioli yn ofnadwy mewn ymchwil hirdymor.
“Wrth i’n hecosystemau byd-eang newid yn gyflym, mae’r astudiaethau maes aml-ddegawd hyn yn bwysicach nag erioed. Fodd bynnag, mae eu cynhyrchu yn gofyn am ymrwymiad ariannol a logistaidd aruthrol a pharhaus. Os ydym ni am barhau i adeiladu'r fframweithiau arloesol hyn sy'n hanfodol ar gyfer deall ein byd sy'n newid yn gyflym, rhaid inni flaenoriaethu cyllid ar frys ar gyfer y gwaith maes hirdymor sydd ei angen.”
Dywedodd Dr Gregory Milne, ymchwilydd ôl-ddoethurol yn yr Amgueddfa Byd Natur, a gyd-arweiniodd yr astudiaeth, “Mae argyfwng y blaned yn newid yr amodau y mae pobl, bywyd gwyllt a phathogenau’n rhyngweithio ynddynt. Er mwyn deall beth mae hynny'n ei olygu i iechyd pobl, mae angen i ni ddeall y prosesau ecolegol sy'n cysylltu newid amgylcheddol â chlefyd.
“Mae ein hymchwil yn dangos sut y gall newidiadau mewn glawiad sbarduno cynnydd sydyn ym mhoblogaeth cnofilod a dylanwadu ar haint, gan helpu i esbonio pam mae risg clefydau yn amrywio dros amser. Pan wnaethon ni gymhwyso'r model i Nigeria, roedd amseriad uchafbwyntiau mewn cnofilod heintiedig yn cyfateb yn agos i amseriad tymhorol achosion o dwymyn Lassa mewn pobl.
“Mae deall sut mae newid amgylcheddol yn effeithio ar boblogaethau bywyd gwyllt yn hanfodol er mwyn rhagweld risgiau clefydau milheintiol yn y dyfodol, a gallai helpu gwyddonwyr ac awdurdodau iechyd cyhoeddus i adnabod cyfnodau lle mae mwy o berygl.”
Canfu'r ymchwilwyr hefyd y gallai'r firws barhau mewn poblogaethau cnofilod trwy basio o famau i'w hepil. Amcangyfrifodd eu model fod bron i 80% o’r achosion o feichiogrwydd heintiedig wedi arwain at y math hwn o drosglwyddiad, gan helpu'r firws i oroesi rhwng tymhorau bridio.
Profodd yr ymchwilwyr a allai eu model, a adeiladwyd gan ddefnyddio data o Tanzania lle mae twymyn Lassa yn absennol ond mae'r llygoden aml-famat yn bresennol, helpu i esbonio achosion yng Ngorllewin Affrica. Gan ddefnyddio data hinsawdd o bum talaith yn Nigeria, fe wnaethant gymharu ei ragfynegiadau â mwy na 6,000 o achosion wedi'u cadarnhau o dwymyn Lassa a gofnodwyd gan Ganolfan Rheoli ac Atal Clefydau Nigeria rhwng 2018 a 2025.
Roedd uchafbwyntiau mewn cnofilod ifanc heintiedig yn tueddu i ddigwydd tua mis cyn uchafbwyntiau mewn achosion dynol. Mewn 83% o gymariaethau, roedd yr uchafbwynt a ragfynegwyd mewn cnofilod heintiedig a'r uchafbwynt a welwyd mewn achosion dynol o fewn 28 diwrnod i'w gilydd.
Yn aml, gallai'r model ragweld amseriad achosion, ond nid eu maint, sy'n debygol o ddibynnu ar ffactorau eraill gan gynnwys arferion pobl, cyswllt â chnofilod a gwyliadwriaeth clefydau.