Yn ystod y sioe fyw roedd y cyflwynydd bywyd gwyllt arobryn a’r uwch ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor yn dod â byd cyfareddol siarcod yn fyw i’r gynulleidfa. Roedd y sioe yn cyfuno straeon diddorol, gwybodaeth wyddonol, a phrofiadau o'r byd go iawn er mwyn cynnig profiad addysgol trochol.
Cafodd myfyrwyr Prifysgol Bangor fynychu’r sioeau yn rhad ac am ddim, a oedd yn rhoi cyfle gwerthfawr iddynt wneud cysylltiad rhwng yr hyn y maent yn ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a ffyrdd o gyfathrebu gwyddoniaeth yn y byd go iawn a gweithgareddau allgymorth ym maes cadwraeth. Mae'r fenter yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Brifysgol i wella profiad myfyrwyr drwy bartneriaethau allanol a chyfleoedd dysgu ymarferol.
Roedd y digwyddiad yn edrych ar esblygiad siarcod o’u dechreuadau cynharaf hyd y rhywogaethau a geir heddiw, gan gynnig cyfle i gynulleidfaoedd archwilio replicâu, dannedd a genau go iawn, a ffilmiau hanesyddol. Bu Steve Backshall MBE hefyd yn sôn am ei ymwneud ei hun â rhai o ysglyfaethwyr mwyaf brawychus y cefnfor, gan roi cipolwg prin i'r mynychwyr o natur gwaith maes a heriau cadwraeth.
Yn 2023 dyfarnodd Prifysgol Bangor Ddoethuriaeth er Anrhydedd i Steve Backshall sy’n uwch ddarlithydd er anrhydedd yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol y Brifysgol. Mae ganddo berthynas hirhoedlog â'r Brifysgol ac mae’n frwd ei gefnogaeth i ymdrechion i ennyn diddordeb yn y maes ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr amgylcheddol.
Dwi bob amser wrth fy modd yn cyfarfod â myfyrwyr Prifysgol Bangor. Maen nhw wastad mor frwd ac yn llawn egni, a chan fod gan Brifysgol Bangor gymaint o enw da ym maes gwyddorau amgylcheddol a naturiol - dwi'n teimlo'n ffodus iawn cael bod yn Uwch Ddarlithydd er Anrhydedd. Mae wedi bod yn wych gallu cydweithio efo Sw Caer i gynnig cyfle i fyfyrwyr ddod draw i’r sioe fyw, treulio’r diwrnod yn y sw, a gadael, gobeithio, wedi eu hysbrydoli hyd yn oed yn fwy am fyd natur.
Tynnodd yr Athro Christian Dunn o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor sylw at bwysigrwydd profiadau o'r fath wrth gyfoethogi dysgu myfyrwyr a meithrin brwdfrydedd dros yrfaoedd amgylcheddol.
Dywedodd yr Athro Dunn, “Bu Steve nid yn unig yn gweithio gyda Sw Caer i drefnu tocynnau am ddim i’n myfyrwyr, ond fe wnaeth hefyd gadw lle iddyn nhw bob dydd yn ei sioe orlawn, a threulio amser yn cyfarfod â nhw ar ddiwedd y dydd. Roedd yn brofiad arbennig iawn i'n myfyrwyr.
"Mae'n wych gweld y myfyrwyr yn rhyngweithio â Steve. Bu’n arwr i lawer ohonyn nhw ers iddyn nhw fod yn blant, felly mae cael ei gyfarfod yn y cnawd yn gallu bod yn brofiad go emosiynol, ond mae Steve yn wych ac yn cynnal sgwrs ddifyr efo nhw bob amser. Dan ni’n ffodus iawn o’i gael yn Uwch Ddarlithydd er Anrhydedd."
Mae’r myfyrwyr wedi canmol yr ymweliad gan ddweud iddo fod yn brofiad addysgiadol ac ysbrydoledig, a disgrifio sioe Steve Backshall fel sioe hwyliog a diddorol a oedd yn llawn mewnwelediadau diddorol. Yr hyn a wnaeth y diwrnod yn arbennig o gofiadwy oedd y cyfle i gwrdd â Steve a chael treulio amser yn crwydro Sw Caer a chael gweld rhai o’r anifeiliaid mwyaf newydd.
I ambell un, roedd y profiad yn teimlo'n arbennig o arwyddocaol. Soniodd un myfyriwr am ei angerdd fel plentyn at waith Steve Backshall a dweud bod y cyfle i’w gyfarfod wrth astudio ym Mangor wedi gwneud iddo deimlo yn hapus ac yn llawn balchder.