Fel sy’n wir am y syniadau gorau i gyd - dechreuodd hwn mewn tafarn yn 2020, ac mae wedi tyfu i fod yn rhywbeth go iawn oherwydd ymdrech tîm rhyfeddol a chefnogaeth rhai sefydliadau ac unigolion gwych. Nawr ein bod wedi cael caniatâd cynllunio, byddwn yn gallu creu cynefin gwlyptir ardderchog gan gynnwys dolydd gwlyb - sydd bellach yn brin iawn yn y Deyrnas Unedig - i bobl Caer ei fwynhau. Fel gwyddonydd gwlyptiroedd ym Mhrifysgol Bangor, rwy’n gobeithio y bydd y project hwn yn helpu pobl i ddeall pa mor bwysig yw gwlyptiroedd nid yn unig i fywyd gwyllt ac isadeiledd ein gwlad, fel datrysiadau sy’n seiliedig ar natur, ond hefyd i’n hiechyd a’n llesiant ein hunain - nid yw’n syndod eu bod yn aml yn cael eu galw’n uwcharwyr natur!
Hyd yn hyn, mae cynllunio a datblygu Gwlyptir Caer wedi cael ei gefnogi gan dros £322,000 o gyllid gan Asiantaeth yr Amgylchedd mewn partneriaeth â Cheshire West and Chester Council a The Land Trust i dalu am waith dylunio, arolygu a modelu.
Mae gwaith casglu data ac arolygon ychwanegol wedi cael eu gwneud gan fyfyrwyr o Brifysgol Bangor.
Mae'r fenter ‘Networks for Nature’, dan arweiniad Sw Caer ac wedi'i hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, wedi rhoi £250,000 i'r project ac mae £500,000 pellach wedi'i sicrhau trwy ffynonellau ariannu amrywiol gan yr awdurdod lleol ar gyfer creu bioamrywiaeth.
Dywedodd Mr Scargill, Cadeirydd grŵp Friends of Countess of Chester Country Park, “Bydd hwn yn ychwanegiad gwych i’r parc nawr bod gennym ganiatâd cynllunio. Mae'n mynd i droi rhan o'r parc sy’n cael ei thanddefnyddio braidd yn rhywbeth arbennig iawn i bobl leol ei fwynhau am genedlaethau. Ni fydd Gwlyptir Caer yn cael ei greu dros nos, felly byddwn yn rhoi diweddariadau i ddefnyddwyr y parc a'r cyhoedd wrth i ni fynd ymlaen.”
Dywedodd Matt Clegg, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd yn y busnes lleol Binnies UK, a ddatblygodd y cynlluniau ar gyfer y gwlyptir, “Fel rhywun sy’n byw yng Nghaer ac yn defnyddio’r parc, mae wedi bod yn bleser gweithio ar ddyluniadau i broject mor gyffrous. Mae'r cynllun yn cydbwyso creu cynefinoedd, trin dŵr a mynediad cymunedol mewn ffordd a fydd yn darparu budd hirdymor – mae'n mynd i fod yn arbennig iawn.”
Canmolodd Hannah Brooks, Uwch Reolwr Cyfranogiad Cymunedol yn Sw Caer, y project, gan ddweud, “Rydym yn gweithio gyda chymunedau a phartneriaid ledled Caer ac Ellesmere Port, fel rhan o’n menter ‘Networks for Nature’, i greu tirwedd sy’n ffynnu i bobl a bywyd gwyllt ar draws y rhanbarth ehangach. Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn y bydd Gwlyptir Caer yn rhan o’r project hwn fel cynefin hanfodol i rywogaethau brodorol y Deyrnas Unedig ffynnu, yn ogystal â chynnig lle gwych i bobl ei fwynhau.
“Bydd cyllid Treftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n cefnogi’r project hwn yn galluogi The Land Trust i osod mannau gwylio fel y gall ymwelwyr â’r ardal weld yr adar hirgoes, gweision y neidr yn plymio a’r amrywiaeth eang o blanhigion gwlyptir yn agos.”
Wrth roi ei gefnogaeth, dywedodd Mark Easedale, Rheolwr Amgylchedd Ardal yn Asiantaeth yr Amgylchedd, “Drwy ddarparu cyllid ochr yn ochr â chefnogaeth dechnegol, rydym yn falch o helpu i gyflawni project sy’n gwella ansawdd dŵr, yn creu cynefin gwlyptir gwerthfawr ac yn cysylltu pobl Caer yn well â natur.”
Dywedodd Alan Carter, Prif Weithredwr The Land Trust, “Mae The Land Trust wrth ei bodd gyda’r cam pwysig hwn yn nes at ddechrau gweithio ar broject Gwlyptir Caer. Bydd y cynefinoedd gwlyptir newydd a gwell yn darparu manteision gwirioneddol i fioamrywiaeth, a bydd yr isadeiledd arfaethedig ar gyfer ymwelwyr yn gwella mynediad a mwynhad i ymwelwyr o bob cwr o'r cymunedau lleol.”
Gobeithir y bydd y gwaith paratoi yn dechrau ar y safle haf 2027.