Roedd y bennod yn canolbwyntio ar y gwaith a wneir i adfer coedwigoedd glaw Prydain.
Ymwelodd Russell Beard, sy’n newyddiadurwr amgylcheddol, cyflwynydd a gwneuthurwr ffilmiau, â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Dolgarrog, lle mae myfyrwyr sy’n astudio am radd BSc Cadwraeth a Rheoli Coetiroedd a gradd MSc Coedwigaeth Amgylcheddol yn gwneud gwaith maes. Mae'r coetir hynafol hwn yn un o'r cynefinoedd mwyaf prin ar y ddaear.
Ymwelodd hefyd â phroject adfer coedwig law dymherus yn Sir Benfro sydd yng ngofal Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.
Yn ystod yr ymweliadau hyn, cyfarfu â'r gwyddonwyr sy'n creu dulliau arloesol i adfer a chadw yr ecosystemau diflanedig hyn, gan gyfuno ymchwil arloesol ag arferion rheolaeth coetiroedd a ffermio traddodiadol i ddod â bywyd yn ôl i goedwigoedd glaw anghofiedig Prydain.
Ymhlith y rhai a oedd yn rhan o'r rhaglen oedd John Healey, Athro Gwyddorau Coedwigaeth, Adam Dawson, Uwch Swyddog Cadwraeth, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, cyn-fyfyriwr Bangor gyda BSc Amaethgoedwigaeth, a Sophie Higgett, myfyrwraig ddoethurol yn y brifysgol sy'n arbenigo mewn adfer ecosystemau tymherus.
Meddai John Healey, Athro Gwyddorau Coedwigaeth yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor, "Roedd yn bleser gweithio gyda'r tîm o CGTN i wneud y ffilm hon. Roedd yn ddifyr iawn cael dysgu cymaint am y sgiliau technegol a’r gelfyddyd o ffilmio. Mae’r diddordeb mewn cadwraeth ac adfer coedwigoedd glaw tymherus yn y Deyrnas Unedig wedi cynyddu’n fawr. Rydym yn mawr obeithio y bydd y ffilm hon, sy'n crynhoi rhywfaint o'n hymchwil cyfredol yn y maes hwn, yn annog myfyrwyr i ymgymryd ag un o’r cyrsiau gradd hyn ym Mangor. Mae ein myfyrwyr yn gwneud gwaith maes yn rhai o goedwigoedd glaw tymherus gogledd Cymru sy'n ymddangos yn y ffilm hon.
"Mae'n wych bod llawer o'n graddedigion BSc ac MSc yn mynd ymlaen i fod yn ymchwilwyr ym maes ecoleg a chadwraeth coedwigoedd. Rydym yn hyderu y bydd ein projectau ymchwil cyfredol ar goedwigoedd glaw tymherus, gan gynnwys y rhai sy’n ymddangos yn y ffilm hon, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at adeiladu'r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen i warchod ac adfer y cynefinoedd hyn sy'n bwysig yn fyd-eang am eu bioamrywiaeth, yn wyneb yr heriau difrifol a achosir gan fyd sy'n cynhesu'n gynyddol ac yn dueddol o ddioddef sychdwr."
Meddai Sophie Higgett, ymchwilydd doethurol ym Mhrifysgol Bangor, “Roedd yn brofiad gwerth chweil iawn rhannu ein hymchwil ar adfer fforestydd glaw tymherus a’i gweld yn cael ei gyfleu i gynulleidfa ehangach. Roedd Russell a’r tîm ymddiddori’n fawr ym mhob agwedd ar ein gwaith, ac roedd yn wych ei fod yn awyddus i gael cymorth ymarferol gyda phlannu coed ar y safle arbrofol. Gobeithiwn y bydd yr ymchwil sy’n cael ei chynnal yn helpu i lywio dulliau o greu coetiroedd mewn ardaloedd lle mae rhedyn yn dominyddu, ac yn cyfrannu at gadwraeth ac adfer y cynefinoedd fforestydd glaw tymherus hynod fioamrywiol a chyfoethog mewn carbon hyn.”