Fy ngwlad:
Image of a group of Bangor Uni Forestry students standing in a forest

Project Gwersyll Ieuenctid Coedwigaeth Prifysgol Bangor 2026

Caiff y project Gwersyll Ieuenctid Coedwigaeth ei gynnal gan yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r Ysgol yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau israddedig ac ôl-radd mewn coedwigaeth ac amaethgoedwigaeth.

Ar y dudalen hon

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Ebrill 2026
Image of a field and a blue sunny sky with tents pitched
Credit:Dr Bid Webb

Gwybodaeth am y Project

Nod y project yw ysbrydoli ac ymgysylltu â phobl ifanc a’u cael i sylweddoli pa mor hanfodol yw’r rôl y mae coed yn ei chwarae yn eu bywydau, a dangos y cyfleoedd sydd ar gael, yn enwedig i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, i weithio gyda choed fel llwybr gyrfa. Nod arall i’r project yw cynnig y cyfle hwn yn benodol i bobl ifanc o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y diwydiant coedwigaeth, gan fod angen mwy o amrywiaeth yn y gweithlu er mwyn ennyn y syniadaeth amrywiol sydd ei hangen er mwyn mynd i'r afael â'r heriau amgylcheddol yr ydym yn eu hwynebu. Gobeithiwn y bydd y gwersyll yn brofiad hwyliog, trawsnewidiol, addysgiadol a gwerth chweil! 

Mae'r project wedi'i ariannu am dair blynedd gan Lywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Coedwigaeth yr Alban.  Dyma'r ail flwyddyn i'r gwersyll gael ei gynnal ac mae ar gael i bobl ifanc 18-21 oed.

Anfonwch e-bost atom

Sleid agoriadol fideo Gwersyll Coedwigaeth 2025
Fideo: Gwersyll Coedwigaeth 2025

“Roedd hi’n anodd gwybod beth i’w ddisgwyl mewn gwirionedd, gan ddod â grŵp o bobl ifanc at ei gilydd nad ydw i wedi’u cwrdd o’r blaen. Ond mewn gwirionedd, rwyf wedi bod yn falch iawn ac wedi fy synnu’n braf gan ba mor dda maen nhw wedi ymgysylltu. Mae wedi bod yn hyfryd iawn eu gweld nhw’n cael gwefr o fod ym myd natur.”

“Mae’n braf cael dod allan, yn enwedig os ydych chi mewn ardal brysur iawn. Nid yw gwersylla mor ddrwg â hynny. Rwy’n arfer â llawer o synau mawr neu symud cyson gartref. Pan rwyf yma, mae popeth yn araf iawn ac yn hamddenol, sy’n rhywbeth roeddwn i wir ei angen hefyd. Felly dyna rywbeth rwyf wedi sylwi arno – mae’n llawer arafach ac yn dawelach yma nag yn Llundain.”

“Felly pan ydych chi’n adnabod coed gwahanol, y prif beth i edrych arno yw siâp y ddeilen. Dyma’r goeden linden, ac mae’r rhain yn fwytadwy hefyd.”

“Mae Kwesia nawr…rwy’n gyfrifol am ei diogelwch. Mae hi mewn sefyllfa fregus iawn. Yna rwy’n mynd i gamu’n ôl a gadael iddi archwilio’r goeden gan ddefnyddio ei holl synhwyrau heblaw am ei golwg.”

“Mae hon mewn gwirionedd yn un ddeilen. Mae’n edrych fel ei bod yn un, dau, tri, pedwar, pump. Ond mae hon yn un ddeilen. Felly dyma beth rydym yn ei alw’n ddeilen gyfansawdd, yn wahanol i’r dderwen, sy’n ddeilen syml – dim ond un darn.”

“Roeddwn i’n rili mwynhau, tynnu yn ôl yr ochr allan o’r goeden ar ôl i mi dorri i lawr oherwydd mae’n rili diddorol i weld beth tu fewn y goeden.”

“Pan welwch chi lawer o goed Aethnen gyda’i gilydd, maen nhw i gyd yn un goeden. Maen nhw i gyd wedi’u cysylltu o dan y ddaear fel un unigolyn ac maen nhw’n anfon y rhain i fyny.”

“Rwy’n credu mai’r rhan orau i mi yw rheoli a chreu tanau. Mae’n wych bod yn ymarferol gyda rhywfaint o’r gwersyll, yn enwedig gan ei fod yn fwy gweithredol – mae pawb yn elwa ohono. Ac yna mae’r agwedd yna o fod yn gyfrifol, sicrhau bod digon o bren yn y tân fel nad yw’n mygu’n ormodol, neu nad yw’r tân yn diffodd a phobl yn oeri. Dyna’n debyg yw’r rhan orau i mi.”

“Felly unwaith rydych chi wedi gorffen eich un chi, ewch drosodd i un o’r gorsafoedd – y naill ochr neu’r llall – ond mae angen 6 ar bob ochr.”
“Dyna’r pren, welwch chi’r gwahaniaeth? Rhisgl allanol, rhisgl mewnol, pren.”

“Templed ymlaen, tynnwch o’i amgylch. Ac yna byddwn yn defnyddio llif a chyllell i dorri i mewn i’r darn yma.”

“Roeddwn i’n gwybod y byddem yn gwersylla. Ond o ran yr hyn nad oeddwn i’n disgwyl oedd y byddwn i’n cael cymaint o hwyl. Mewn dim ond pum diwrnod, llwyddais i adeiladu perthnasoedd cryf gyda phobl, sy’n braf iawn. Llwyddais i ddod yn ffrindiau gyda phobl yn gyflym iawn. Roeddwn i’n mwynhau cerdded ddoe ar y rhos. Roedd yn braf iawn ac fe gawson ni weld yr olygfa o’r brig. Roeddwn i’n mwynhau eistedd o amgylch y tân a dim ond siarad gyda phawb, dod i adnabod pobl.”

“Rwyf wedi mwynhau eu gweld nhw’n defnyddio offer yn y goedwig, torri coeden ac yna cerfio cyllell fenyn o’r goeden honno. Roedden nhw’n gyfrifol iawn ac yn ddiogel gyda’r offer ac yn creu pethau hardd ac yna cerfio enw eu Mam a rhoi eu henwau eu hunain a ‘Gwersyll Coedwigaeth 2025’. Roedd yn hyfryd iawn eu gweld nhw’n ymgysylltu’n llawn â hynny.”

“Dw i’n meddwl… dw i’n rili hoffi pan mae’r bobl ifanc yn gofyn am cwestynau achos mae’n ddangos i ni sut maen nhw’n meddwl am bethau, meddwl am amgylchedd, meddwl am bethau maen nhw edrych…maen nhw’n edrych ar bethau.” 

Dyddiad a Lleoliad

Cynhelir y gwersyll rhwng 29 Mehefin a 5 Gorffennaf. Bydd y cyfranogwyr yn teithio i'r gwersyll ar fore 29 Mehefin a bydd y gweithgareddau’n dechrau y prynhawn hwnnw. Bydd y gwersyll yn gorffen ar fore 5 Gorffennaf a bydd y cyfranogwyr at y trên yn ôl erbyn amser cinio ar y diwrnod hwnnw er mwyn cyrraedd gartref erbyn y prynhawn/gyda'r nos. (Ceir mwy o fanylion teithio yn yr adran Cynlluniau Teithio isod)

Cynhelir y gwersyll yn: Cwmni Tai Cydweithredol Dynyn, Eglwys Fach, Machynlleth, SY20 8TF. Gallwch weld y lleoliad ar Google Maps yma. Mae'r cwmni cydweithredol wedi bod yn rhedeg yn gyfan gwbl oddi ar y grid ers 45 mlynedd, gan ddefnyddio pŵer dŵr a solar, ac mae yno 23 erw o dir wedi ei ddad-ddofi, gan gynnwys coetir, rhostir, llyn, afon a rhaeadr, ynghyd â dôl lle cynhelir y gwersyll. Mae'r tir wedi'i amgylchynu ar bob ochr gan dir gwyllt, gan greu teimlad gwirioneddol o fod yn ddiarffordd, er mai dim ond 20 munud i ffwrdd y mae tref Machynlleth (dyma lle mae'r orsaf drenau).  Mae gwersylloedd, cyrsiau, encilion a digwyddiadau wedi cael eu cynnal yma ers blynyddoedd lawer.  

Cyfleusterau'r safle

Mae gan y ddôl lle cynhelir y gwersyll gegin awyr agored ac ynddi’r cyfarpar angenrheidiol i gyd, toiled compost, cawodydd gwersyll syml, cylch tân a chysgod i gynnal digwyddiadau. Mae'r cyfleusterau'n sylfaenol ond yn ddigonol, gan olygu y cewch eich trochi llawn yn y byd naturiol.

Cyfarfod y Tîm

Gwybodaeth Defnyddiol

Bydd gweithgareddau’r gwersyll yn cynnwys dysgu am goed, coedwigoedd a rheoli coetiroedd mewn ffyrdd ymarferol, crefftau coed, gweithio yn y coed a thorri coeden gyda’ch gilydd, gemau ac ymarferion ysgafn i wneud cysylltiad â’ch gilydd ac â natur, dysgu enwau gwahanol fathau o goed, cynnau tân a choginio yn defnyddio tân, teithiau cerdded, syllu ar y sêr, fforio am fwyd, dysgu am weithio ym maes coedwigaeth, gofalu am y gwersyll gyda’ch gilydd, cymdeithasu a chael hwyl wrth y tân a llawer mwy.  Bydd amser rhydd wedi ei drefnu bob dydd i chi gael gorffwys ac ymlacio.

Rydym wedi sicrhau cyllid fel y gallwn ddarparu offer awyr agored i bawb sy’n cymryd rhan fel bod gan bawb bopeth sydd ei angen arnynt. Gallai hynny gynnwys unrhyw un o'r canlynol: siacedi a throwsusau sy’n dal dŵr, esgidiau, haenau cynnes, pebyll a matiau cysgu. 

Darperir pebyll i bawb. Gall cyfranogwyr ddewis cysgu mewn pabell lai yn rhannu gydag 1 neu 2 o bobl eraill o'r un rhyw neu ddewis cysgu mewn pebyll mwy gyda hyd at 6 o bobl.

Darperir pob pryd bwyd, o’r cinio ar 29 Mehefin hyd y cinio ar 5 Gorffennaf. Bydd byrbrydau a diodydd hefyd ar gael drwy gydol y dydd. Ein nod yw darparu bwyd iach, maethlon a blasus a darparu ar gyfer gofynion dietegol gan gynnwys alergeddau, anoddefiadau a Halal.  

Rydym yn cymryd diogelwch a diogelu o ddifri ac mae gennym bolisi a gweithdrefnau diogelu cynhwysfawr. Mae'r tîm hwyluso a gofal bugeiliol wedi cael o leiaf hyfforddiant Diogelu Lefel 1.  Bydd datgeliadau’n cael eu cymryd o ddifri a bydd y weithdrefn gywir yn cael ei dilyn os bydd unrhyw broblemau’n codi. Mae gennym Arweinydd Gofal Bugeiliol pwrpasol a fydd yn berson dibynadwy y gellir troi ato / ati gydag unrhyw broblemau sy'n codi, yn ychwanegol at hwyluswyr y gwersyll.  Caiff pob gweithgaredd ei asesu'n llawn am risg a rhoddir sgwrs diogelwch offer cyn defnyddio unrhyw offer a bydd pob gweithgaredd yn cael eu goruchwylio’n llawn.

Byddwn yn talu am gostau tocynnau trên dwyffordd o’r brif orsaf drenau agosaf at gartref cyfranogwyr i orsaf Machynlleth.  Byddwn ni yn archebu’r tocynnau trên i chi ac yn eu hanfon atoch ymlaen llaw. Os bydd mwy nag un person yn teithio o'r un orsaf, byddwn yn cysylltu’r tocynnau er mwyn i chi gael teithio gyda’ch gilydd.

Bydd pawb yn cael eu casglu o Orsaf Machynlleth er mwyn teithio i'r safle gyda'ch gilydd mewn bws mini. Bydd y bws mini yn dod â phawb o'r safle i Orsaf Machynlleth ar 5 Gorffennaf. (byddwn yn darparu pecyn bwyd i bawb).

Gyda'n gilydd byddwn yn creu diwylliant o gysylltiad a gofal yn y gwersyll, sy'n golygu bod yn llwyr bresennol gyda'r naill a’r llall. I’n cynorthwyo i wneud hynny gallwn fanteisio ar y cyfle i ddiffodd ein teclynnau a thynnu ein sylw oddi ar y cyfryngau cymdeithasol a'r byd digidol. Felly, byddwn yn gofyn i bawb roi eu ffonau i ni ar ddiwrnod llawn cyntaf y gwersyll (er mwyn i chi gael ffonio adref i ddweud eich bod wedi cyrraedd yn ddiogel ac ati os oes angen) a yna byddwn yn eu cadw'n ddiogel. Nodwch mai cyfyngedig iawn ydy’r signal ffôn sydd i’w gael ar y safle. Gweler yr adran ‘Mewn Argyfwng’ isod i wybod sut mae cysylltu dros y ffôn mewn argyfwng. Byddwn hefyd yn pennu amser i bawb fynd i’r gwely i bawb fod yn llawn egni ar gyfer gweithgareddau'r dydd. 

Rydym yn disgwyl i bawb ymddwyn yn barchus ac yn garedig tuag at ei gilydd, gan gydweithio ac ymgysylltu â'r gweithgareddau mewn modd diogel. Mae gennym bolisi dim alcohol a dim cyffuriau y byddwn yn cadw ato’n gaeth - byddwn yn gofyn i unrhyw un fydd ag alcohol neu gyffuriau yn eu meddiant i adael.

Byddwn, ar y cyd, yn llunio cytundebau pellach gyda'n gilydd ar ddechrau'r gwersyll i wneud yn siŵr bod anghenion pawb yn cael eu diwallu a bod pawb yn teimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel.

Bydd gwneuthurwr ffilmiau ar y safle yn ystod y gwersyll yn cofnodi rhywfaint o’r adegau arbennig a gawn mewn ffordd mor ddisylw â phosibl. Bydd y fideos a'r lluniau hyn yn cael eu defnyddio i hyrwyddo gwersylloedd tebyg yn y dyfodol ac i ddenu mwy o gyllid i ni fedru cynnig cyfleoedd o’r fath i fwy o bobl ifanc yn y dyfodol. Mater i chi yn llwyr ydy a ydych yn fodlon cael eich ffilmio ai peidio, a dim ond os ydych yn cydsynio y byddwch yn cael eich ffilmio.

Os oes argyfwng gartref, mae modd cysylltu â'r maes gwersylla a gyda’r hwyluswyr. Os bydd argyfwng yn y gwersyll, byddwn yn cysylltu â pherson cyswllt dynodedig y cyfranogwyr.