Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig
Pam Astudio Coedwigaeth?
Mae coedwigoedd yn hanfodol i'r ecosystem fyd-eang ac maent yn gorchuddio 30% o arwynebedd tir y byd. Mae coedwigaeth yn ymwneud â deall a rheoli'r coedwigoedd hyn yn gynaliadwy er budd cymdeithas. Mae ein graddau'n eich paratoi ar gyfer yr her o reoli coedwigoedd a'r holl fuddion y gallant eu darparu, ar adeg o newid amgylcheddol byd-eang.
Yn ein haddysgu defnyddir ein lleoliad unigryw yn helaeth trwy gyfuno darlithoedd traddodiadol â theithiau maes sy'n dangos materion ymarferol go iawn yn ymwneud â choedwigaeth a materion amgylcheddol cyfredol. Mae ein rhwydweithiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol helaeth a'n rhaglenni ymchwil yn caniatáu inni ddarparu addysgu o ansawdd uchel sy'n rhoi sylw i faterion cyfoes. Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau yn y Deyrnas Unedig, ac yn cyflwyno myfyrwyr iddynt. Ymhlith y rhain mae Cyfoeth Naturiol Cymru,Y Comisiwn Coedwigaeth,Coed Cadw,Forest Research a Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig.
Mae llawer o'n cyrsiau wedi'u hachredu gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig ac yn cyflawni gofynion mynediad i Aelodaeth Broffesiynol yn rhannol.
Mae'r addysgu a'r cyrsiau y mae Bangor yn eu cynnig heb eu hail.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Coedwigaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Coedwigaeth llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Coedwigaeth ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Coedwigaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Coedwigaeth
Rydym ar flaen y gad ym maes ymchwil coedwigaeth ryngwladol ac mae gennym enw rhagorol am ein gweithgareddau ymchwil. Mae ein myfyrwyr a'n staff academaidd yn cydweithio'n gyson â sefydliadau rhyngwladol megis y Tropical Agricultural Research and Higher Education Center, Costa Rica (CATIE), y Center for International Forestry Research, Indonesia (CIFOR), a'r World Agroforestry Centre (ICRAF).
Mae ein tîm ymchwil yn amlddisgyblaethol ac yn cynnwys pob agwedd ar ddisgyblaeth coedwigaeth. Mae gennym raglenni ymchwil gweithredol sy'n ymchwilio i goedwigoedd boreal a throfannol, a phopeth a geir rhyngddynt. Mae ein gwaith yn ymwneud â choedwigoedd ac addasu i newid hinsawdd, lliniaru, datgoedwigo, bioamrywiaeth, adfer ar ôl trychineb, diogelwch bwyd, amddiffyn rhag llifogydd, cylchu maetholion, lles dynol, cadwraeth a swyddogaeth.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.