Noson Agored Nyrsio
17 Rhagfyr 2026
Ydych chi'n ystyried gyrfa mewn Nyrsio? Gallai eich dyfodol ddechrau fis Mawrth!
Ymunwch â ni yn ein Noson Agored Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Bangor a darganfyddwch sut y gallwch gymryd y cam cyntaf tuag at yrfa werth chweil ym maes gofal iechyd.
P'un a ydych yn ystyried newid gyrfa, dychwelyd i addysg neu'n archwilio eich opsiynau, dyma gyfle i ddysgu mwy am astudio Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Bangor, gyda lleoedd ar gael ar gyfer mis Mawrth 2027.
Yn ystod y sesiwn, cewch gyfle i:
- Ddarganfod mwy am ein gradd Nyrsio Oedolion a beth i'w ddisgwyl o'r cwrs.
- Dysgu am leoliadau clinigol a'r profiad ymarferol y byddwch yn ei ennill.
- Cael gwybodaeth am y gofynion mynediad, y broses ymgeisio a'r cyllid sydd ar gael.
- Cwrdd ag aelodau o'n tîm Nyrsio a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Beth bynnag fo'ch sefyllfa, rydym yma i'ch helpu i archwilio eich camau nesaf.
Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle a darganfod i ble y gallai gyrfa mewn Nyrsio fynd â chi.