Person holds a moulded paper cup

Prifysgol Bangor yn gweithio ar botel wisgi bapur eco-ymwybodol

Gallai defnyddwyr fod yn arllwys wisgi allan o botel bapur cyn bo hir, gyda phroject pecynnu cynaliadwy bron â chael ei gwblhau ym Mhrifysgol Bangor.

Mae wedi bod yn fantais ac yn bleser pur gweithio ochr yn ochr â'r unigolion talentog yng Nghanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor.

“Mae eu gwybodaeth a’u profiad ym maes asesu diwedd oes deunyddiau wedi dod yn estyniad anhepgor o’n tîm yma yn Pulpex.

Scott Winston,  Prif Weithredwr, Pulpex

Sean Baxter, technegydd deunyddiau o Brifysgol Bangor, yn ystod y broses o brofi gwaith y Ganolfan Biogyfansoddion gyda chonsortiwm pecynnu gwyrdd byd-eang Pulpex i ddylunio potel bapur at ddefnydd cwsmeriaid

Ychwanegodd Rob: “Mae hwn yn gam enfawr ymlaen ac rydym yn gyffrous i barhau i weithio ymhellach gyda diwydiant i rannu ein harbenigedd ym maes bio-gyfansoddion a phecynnu cynaliadwy, fel y gall diwydiant fynd ymlaen i ddatblygu atebion addas a chynaliadwy sy'n lleihau'r defnydd o blastig yn fyd-eang.

I ddarganfod mwy am Pulpex, ewch i www.pulpex.com, ac i gael rhagor o wybodaeth am ganolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor, ewch i www.biocomposites.bangor.ac.uk.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?