Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn grant hyfforddiant doethurol gwerth £5 miliwn gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i sefydlu Rhaglen Hyfforddiant Doethurol Rhythmau Bywyd Leverhulme. Dros y tair blynedd nesaf, bydd y Brifysgol yn recriwtio 30 o Ysgolheigion Doethurol i astudio sut mae rhythmau biolegol yn llywodraethu bywyd ar y Ddaear a sut mae newid amgylcheddol a achosir gan bobl yn effeithio ar y rhythmau hyn o ran iechyd ecosystemau a bywyd dynol a chymdeithasau.
Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hirhoedlog o ran ymchwil i rythmau a ddechreuodd yn yr 1960au gyda'r Athro Ernest Naylor OBE, sef y person cyntaf i ddarganfod sut mae anifeiliaid morol yn defnyddio clociau corff dyddiol a’r llanw i gydlynu eu bywyd. Mae'r etifeddiaeth honno'n parhau hyd heddiw gydag ymchwilwyr ar draws y Brifysgol yn astudio rhythmau biolegol o nifer o safbwyntiau, gydag ymchwilwyr mewn gwyddorau naturiol ac amgylcheddol a gwyddorau’r eigion yn canolbwyntio ar sut mae anifeiliaid a phlanhigion yn addasu i rythmau'r blaned, o amrywiad dyddiol yng ngolau dydd a'r llanw, i newidiadau tymhorol mewn tymheredd a glawiad, a sut y gall y newidiadau cyflym i’r amgylchedd a achosir gan bobl fygwth y patrymau hirsefydlog hyn.
Ar yr un pryd, mae ymchwilwyr sy'n gweithio ar draws gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff, seicoleg a'r dyniaethau’n archwilio'r berthynas ddynol â rhythm ac amser trwy archwilio'r niche rhythmig ddynol, gan archwilio sut rydym ni, fel rhywogaeth, wedi ysgaru ein hunain oddi wrth rythmau naturiol y blaned, ond yn parhau i fod yn ddibynnol arnynt mewn sawl ffordd annisgwyl a phwysig mewn perthynas â’n hiechyd a’n llesiant.
Caiff Rhaglen Hyfforddiant Doethurol Rhythmau Bywyd Leverhulme ei harwain gan y cyd-gyfarwyddwyr Dr Amy Ellison a Dr Alex Georgiev o’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Trwy eu diddordebau yn swyddogaeth clociau biolegol anifeiliaid dyfrol a'u parasitiaid (Ellison) a'r ffordd y mae tymhorau'n effeithio ar sawl agwedd ar ymddygiad ac ecoleg primatiaid gwyllt yn y trofannau (Georgiev), gwnaethant sylweddoli bod astudiaeth rhythmau wedi bod yn dameidiog iawn yn hanesyddol ar draws gwahanol ddisgyblaethau.
Dywedodd Dr Amy Ellison a Dr Alex Georgiev, “Mae’r cyfle i ddod ag arbenigedd amrywiol staff o bob cwr o’r Brifysgol ynghyd i astudio’r patrymau biolegol sylfaenol hyn a sut maent yn rhyngweithio â newid amgylcheddol parhaus yn fenter hynod gyffrous.” Mae gallu mynd i'r afael â chwestiynau sydd mor sylfaenol bwysig i fywyd ar y ddaear, ac archwilio organebau gwyllt yn ogystal â dynoliaeth a'r 'niche rythmig' unigryw rydym wedi'i chreu i ni'n hunain wrth ddefnyddio goleuadau artiffisial a systemau gwresogi dan do, sydd wedi achosi sifft yn ein dibyniaeth ar rythmau dyddiol a thymhorol naturiol, yn her ddybryd ond yn un sy’n cynnig cyfleoedd mawr o ran darganfyddiadau newydd."
Mae rhaglen Ymddiriedolaeth Leverhulme yn rhoi pwyslais cryf ar recriwtio'r ymgeiswyr gorau i ymgymryd â hyfforddiant doethurol. Wrth wraidd yr ymrwymiad hwnnw mae'r nod o gynyddu amrywiaeth a chynrychiolaeth ymhlith ei hysgolheigion. Ochr yn ochr â'r mynediad uniongyrchol i'r rhaglen PhD (24 lle), bydd hyd at chwech o ysgolheigion sydd wedi eu lleoli yn y Deyrnas Unedig o gefndiroedd incwm isel a/neu ethnig du yn cael eu dewis i gwblhau gradd meistr yn y lle cyntaf cyn symud ymlaen i'r rhaglen PhD. Bydd y rhaglen Rhythmau Bywyd hefyd yn recriwtio hyd at 10 ymgeisydd rhyngwladol, gan gynnwys o wledydd lle mae staff Prifysgol Bangor yn gwneud ymchwil, gan gefnogi ymrwymiad y Brifysgol i ddatblygu rhagoriaeth a chydweithio gwyddonol byd-eang.
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, sef y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil, "Mae Rhaglen Hyfforddiant Doethurol Rhythmau Bywyd Leverhulme yn ymgorffori ethos ac uchelgais gweithio rhyngddisgyblaethol, ymchwil awyr las, ac effaith gymdeithasol sydd wrth wraidd Prifysgol Bangor. Mae'n adeiladu ar ein cryfderau ymchwil presennol, yn ogystal â datblygu gweledigaeth newydd hollbwysig sy'n manteisio ar synergeddau sydd heb eu cydnabod o'r blaen ar draws ein Hysgolion. Mae uno ymchwilwyr o amgylch yr ymdrech ryngddisgyblaethol o astudio rhythmau biolegol yn darparu sgaffald newydd i gyflymu gweledigaeth y Brifysgol o ran ymchwil ac effaith."
Bydd Rhaglen Hyfforddiant Doethurol Rhythmau Bywyd Leverhulme yn recriwtio 8 ysgolhaig PhD a 3 myfyriwr MSc (a fydd, ar ôl cwblhau'r cwrs meistr yn llwyddiannus, yn trosglwyddo i'r rhaglen PhD) i ddechrau ym mis Hydref 2027. Cymerwch gip ar brojectau a hysbysebir ym mis Tachwedd 2026 ar wefan y rhaglen: https://www.bangor.ac.uk/cy/rhythms