Mae Medal Bobi Jones yn cael ei dyfarnu i unigolyn 19-25 mlwydd oed sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu’r iaith, yr effaith mae dysgu’r Gymraeg wedi ei gael ar eu bywydau, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.
Mae Katie yn wreiddiol o Nottingham ac fe symudodd i Fangor yn 2020 i astudio seicoleg yn y Brifysgol. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2023 ar ôl ymuno â’r heddlu. Mae hi’n Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) ac yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn Nyffryn Nantlle.
Mae hi wedi newid cyfrwng iaith ei bywyd yn llwyr mewn amser byr, ac yn awyddus i helpu dysgwyr eraill ar eu taith.
Dywedodd Katie, “Dwi’n teimlo’n gryf y dylai unrhyw un sy’n gweithio mewn ardal Gymraeg efo’r cyhoedd ddangos parch drwy ymdrechu i siarad Cymraeg gyda nhw.
“Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fynychu cwrs yn Nant Gwrtheyrn ac i ddysgu Cymraeg drwy fy ngwaith. Dwi’n mwynhau canu yn y Gymraeg gyda Chôr Heddlu Gogledd Cymru. Hoffwn fagu plant sy'n rhugl yn y Gymraeg un diwrnod ac efallai ysgrifennu colofn yn y Gymraeg yn fy mhapur bro lleol.”
Cefnogir y seremoni gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, fel rhan o ddathliadau’r Urdd i siaradwyr newydd y Gymraeg.
Canmolodd y beirniaid, Eirian Wyn Conlon a Francesca Sciarrillo, sydd hefyd yn gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Bangor, bob ymgeisydd, gan ddisgrifio “phob un yn ysbrydoliaeth”.
Yn sôn am ei phrofiadau yn y Brifysgol, dywedodd Katie, “Roedd fy amser ym Mhrifysgol Bangor ychydig yn wahanol oherwydd mi wnes i ddechrau yn ystod y pandemig. Roedd rhan fwyaf o fy mlwyddyn gyntaf ar lein, ond dwi’n teimlo’n lwcus achos roedd ein carfan ni yn agos iawn. Mi wnes i fwynhau bod yn rhan o’r teulu Seicoleg.
“Dwi’n defnyddio seicoleg bob dydd yn fy ngwaith. Dwi’n delio gyda pobl hefo problemau iechyd meddwl, wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a thrawma. Mae astudio seicoleg wedi helpu fi i ddeall pam mae pobl yn ymddwyn mewn ffyrdd penodol. Dwi hefyd yn defnyddio’r sgiliau ‘nes i ddysgu yn y modiwl Cwnsela yn aml.”
Noddwyd y ddefod gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol sydd hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol i ddysgwyr ar hyd y Maes heddiw, ar ddiwrnod dathlu dysgwyr yr Urdd.
Rhoddir Medal Bobi Jones gan Aelwyd / Capel Cildwrn a rhoddir Medal y Dysgwyr gan Bwyllgor Cronfa Eisteddfod Genedlaethol 1957.