Modiwl HAC-1006:
Sgiliau Hanfodol ar gyfer Llwyddiant Academaidd
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Ms Leona Huey
Amcanion cyffredinol
Nod y modiwl yw meithrin sgiliau academaidd a chyflogadwyedd myfyrwyr. Bydd myfyrwyr yn cael sgiliau a fydd yn eu helpu i gynhyrchu gwaith academaidd da, megis sgiliau ysgrifennu traethodau, sgiliau ymchwil sylfaenol, sgiliau ar gyfer cyflawni chwiliad llenyddiaeth a sgiliau cyflwyno syml ymhlith eraill. Bydd gwella sylfaen sgiliau myfyrwyr hefyd yn helpu i wella cyflogadwyedd myfyrwyr a'u sgiliau mewn gwaith.
Bydd myfyrwyr yn meithrin tair sgil cyflogadwyedd allweddol:
· Cyfathrebu
· Meddwl yn feirniadol
· Rheoli amser
Strategaeth Dysgu ac addysgu: Darlithoedd a seminarau wythnosol. Bydd y darlithoedd yn cael eu cynnig i holl fyfyrwyr y modiwl. Bydd y seminarau yn cael eu dysgu mewn grwpiau bach o fyfyrwyr o ddisgyblaethau penodol yr adran.
Cynnwys cwrs
Gall pynciau gynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt chwaith: - Sut i ysgrifennu traethawd da - Sut i gynnal chwiliad llenyddiaeth - Am beth mae'ch marcwyr yn chwilio? - Beth yw ymarfer annheg? - Gwella fy nghyflogadwyedd - Hanesyddiaeth/defnyddio llenyddiaeth feirniadol - Dulliau o ymdrin ag ymchwil hanesyddol a chymdeithasol - Sut i gydnabod ffynonellau a chyfeirio'n dda - Sut y gall astudio dramor wella fy sgiliau? - Beth i'w wneud pan fydd bywyd yn ymyrryd ag astudio.
Meini Prawf
ardderchog
Meddu ar ddealltwriaeth feirniadol o natur gwybodaeth yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithas. Arddangos sgiliau rheoli amser rhagorol a chyda sgiliau cyfathrebu rhagorol o bob math
trothwy
Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o natur gwybodaeth yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithas. Arddangos sgiliau rheoli amser sylfaenol a chyda sgiliau cyfathrebu sylfaenol o bob math.
da
Meddu ar ddealltwriaeth dda o natur gwybodaeth yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithas. Gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn sawl dull a chyda sgiliau rheoli amser da
Canlyniad dysgu
-
Datblygu dealltwriaeth feirniadol o ffynonellau academaidd
-
Datblygu strategaethau effeithiol i rheoli amser tra'n astudio
-
Deall yr hyn a olygir wrth Gwyddorau Cymdeithas a'r Dyniaethau a'r hyn a olygir wrth ystyried gwybodaeth academaidd yn y meysydd hyn
-
Datblygu sgiliau cyfathrebu effeithiol
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
TRAETHAWD | Traethawd | 50.00 | |
CYFLWYNIAD UNIGOL | Cyflwyniad | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 12 darlith awr o hyd dros y semester |
12 |
Seminar | 12 Seminar awr o hyd dros gyfnod y modiwl |
12 |
Private study | Darllen annibynnol ac ymchwilio. |
176 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 1 (BA/SWW)