Modiwl HCG-2011:
Dehongli'r Gorffennol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Gareth Davis
Amcanion cyffredinol
Bwriad y cwrs craidd hwn yw cyflwyno syniadau rhai o'r ffigurau amlycaf a mwyaf dylanwadol mewn hanesyddiaeth fodern a meithrin dealltwriaeth feirniadol o'r amryfal ffyrdd o ddehongli'r gorffennol. Trafodir gwreiddiau hanesyddiaeth fodern yn y 19eg ganrif, cyn mynd ymlaen i ystyried cyfraniad meddylwyr ac ysgolion neilltuol yn yr ugeinfed ganrif, cyfnod a welodd luosogi damcaniaethau ynghylch hanes a dehongliadau o'r gorffennol.
Gan mai cwrs wedi'i lunio'n benodol ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yw hwn, darperir deunyddiau Cymraeg i gyd fynd â'r darlithoedd a'r seminarau a neulltuir peth amser i drafod dehongliadau modern o hanes Cymru.
Cynnwys cwrs
Er y byddir yn rhoi peth sylw i rai o haneswyr mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg – fel Ranke, Macaulay a Marx – bydd pwyslais y cwrs ar hanesyddiaeth yr ugeinfed ganrif. Canolbwyntir gan hynny ar feddylwyr a thueddiadau allweddol ym maes hanesyddiaeth yn ystod y ganrif ddiwethaf gan astudio enghreifftiau penodol o gynnyrch y meddylwyr a’r ysgolion dan sylw. Ymysg y pynciau a astudir bydd Ysgol yr Annales, Hanesyddiaeth Farcsaidd, Hanes Merched, Hanes Llafar, a her syniadaeth ôl-strwythurol ac ôl-fodern. Neulltuir yn ogystal ddwy ddarlith i drafod agweddau ar Hanesyddiaeth Cymru yn y cyfnod diweddar.
Meini Prawf
ardderchog
Bydd myfyrwyr ardderchog (70au ac uwch) yn dangos y cyflawniad cadarn hwn ar draws y meini prawf yn ogystal â dyfnder gwybodaeth a/neu gywreinrwydd dadansoddiad arbennig o drawiadol.
trothwy
Bydd myfyrwyr trothwy (40au isel) yn dangos gwybodaeth sylfaenol am o leiaf rannau o'r maes perthnasol, ac yn gwneud ymdrechion rhannol lwyddiannus o leiaf i gyflwyno dadl sy'n ymwybodol o ddehongliadau hanesyddol gwahanol.
da
Bydd myfyrwyr da (60au) yn gallu dangos lefel gadarn o gyflawniad ym mhob un o'r meini prawf a restrir yn y paragraff blaenorol.
Canlyniad dysgu
-
Gwybodaeth am ddatblygiad hanesyddiaeth yng ngorllewin Ewrop, gan gynnwys Cymru, yn y 19eg a'r 20fed ganrif.
-
Gwybodaeth fanylach o agweddau penodol ar y pwnc hwnnw, wedi'i seilio ar restr o bynciau traethawd gradd.
-
Meithrin ymwybyddiaeth o ddulliau ac `ysgolion¿ gwahanol o ddehongli'r gorffennol, a'r gallu i wahaniaethu'n feirniadol rhyngddynt.
-
Meithrin ymwybyddiaeth o sut y dehonglir y gorffennol ar gyfer y cyhoedd, yn arbennig yng Nghymru.
-
Y gallu i gyflwyno dadleuon clir a threfnus ynglyn ag agweddau penodol ar y pwnc mewn dau draethawd gradd. Dylai'r traethodau ganolbwyntio ar ateb y cwestiynau a osodir, gan seilio'u dadleuon ar dystiolaeth benodol gyda chyfeiriadau llawn a llyfryddiaeth; dylent ddangos ymwybyddiaeth feirniadol o ddehongliadau hanesyddol, a chydymffurfio â'r fformat a amlinellir yng nghanllawiau Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg ar gyfer traethodau gradd.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd 1- 3'500 o eiriau | 50.00 | ||
Portffolio - 3000-4000 o eiriau | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
10 x darlith 1 awr |
||
10 x seminar 1 awr |