Modiwl XAC-3007:
Dwyieithrwydd
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Educational Sciences
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Jessica Clapham
Amcanion cyffredinol
Bwriad y modiwl yw craffu ar y gwahanol fodelau o addysg ddwyieithog ac mae’n canolbwyntio ar natur ac anghenion unigolion dwyieithog mewn cyd-destun addysgol, deallusol a chymdeithasol. Mae’n ymchwilio i amcanion ymchwil i ddwyieithrwydd ac yn gwerthuso adnoddau dwyieithog.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl yn ymwneud â phynciau megis natur dwyieithrwydd, effeithiau dwyieithrwydd ar ddatblygiad gwybyddol person, effeithiau cymdeithasol dwyieithrwydd, cynllunio addysg ddwyieithog, ayb. Bydd yn tynnu ar yr ymchwil rhyngwladol perthnasol a wnaed yn y meysydd hyn. Y bwriad yw edrych ar sefyllfa ddwyieithog Cymru o fewn cyd-destun ehangach.
Cynnwys:
1. Mathau o ddwyieithrwydd.
2. Dwyieithrwydd a deallusrwydd.
3. Rhai o fanteision dwyieithrwydd.
4. Cymhelliant ac ymagweddiad.
5. Dwyieithrwydd a'r gymdeithas.
6. Adfywio ac atgyfodi iaith.
7. Datblygu'n ddwyieithog.
8. Mathau o addysg ddwyieithog.
9. Effeithiolrwydd addysg ddwyieithog.
10. Amrywiol effeithiau gwahanol drefniannau ysgol a dosbarth.
Asesu:
1. Asesinad 3000 o eiriau (50%).
2. Arholiad ysgrifenedig dwy awr (50%).
Meini Prawf
trothwy
Arddangos yn foddhaol y deilliannau dysguda
Y gallu i ddeall a barnu mewn ffordd aeddfed, gan gyfeirio at weithiau ac enghreifftiau perthnasolardderchog
Y gallu i drafod y maes yn feirniadol ac yn ddadansoddol trwy gyfeirio at dystiolaeth ymchwil berthnasol, gydag elfen o wreiddioldebCanlyniad dysgu
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu gwneud y canlynol: 1. ymchwilio i safbwyntiau beirniadol a hanesyddol ar ddwyieithrwydd; 2. gwerthuso’n feirniadol y ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg ac ar gyfer ieithoedd lleiafrifol eraill mewn gwledydd eraill; 3. dangos ymwybyddiaeth feirniadol o’r cysyniad o ddwyieithrwydd ac o’i heffeithiau cadarnhaol a gwerthuso swyddogaeth cymdeithas mewn hyrwyddo dwyieithrwydd; 4. adfyfyrio’n feirniadol ar effaith polisi addysgol ar gynllunio iaith mewn gwledydd eraill.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Total module | 100.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Oriau Dysgu Tybiannol: (a) Amser Cyswllt - e.e. yn y dosbarth, neu waith maes: 22 awr (b) Astudiaeth Breifat – amser darllen, paratoi a gwneud asesiadau: 78 awr Patrwm y Dysgu: Darlithoedd : 18 awr Arall : 4 awr Strategaeth Addysgu: 1. Darlithoedd a seminarau rhyngweithiol: 18 awr (9 @ 2 awr yr wythnos) 2. Cyflwyniadau: 4 awr: 2@2 awr) |
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- C80P: BSc Psychology with Placement Year year 4 (BSC/PSP)