Cysylltiadau
Lleoliad
Penbre, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Mae Penbre yn syth cyferbyn y mynediad i’r maes parcio Prif Adeilad y Celfyddydau mewn adeilad coch.
Map
Edrychwch ar fap o’n lleoliad yma.
Map o’r campws
Cliciwch yma i weld map o’r campws i gyd.
Swydd |
Enw |
Ffôn |
E-bost |
---|---|---|---|
Pennaeth |
|||
Dirprwy Ysgrifennydd / Pennaeth Gwasanaethau Llywodraethu |
2413 |
||
Llywodraethu a Rheoli Argyfyngau | |||
Cynorthwywr Llywodraethu | Swydd Wag | ||
Cynorthwyydd Rheoli Digwyddiadau | Lauren Roberts | 3878 | l.roberts@bangor.ac.uk |
Gwasanaethau Gyfreithiol, Cydymffurfiaeth, a Chontractau |
|||
Rheolwr Cyfreithiol a Chydymffurfio | Anita Thomas | 8525 | anita.thomas@bangor.ac.uk |
Cynorthwywr Cyfreithiol a Cydymffurfio |
8530 |
||
Cynorthwyydd Masnacheiddio | Marina Margulis | 8707 | marina.margulis@bangor.ac.uk |
Cwynion, Disgyblaeth ac Apeliadau Myfyrwyr |
|||
Uwch Swyddog Ymddygiad a Chwynion Myfyrwyr |
2508 |
||
Gweithgor Llywodraethu Ymchwil a Moeseg | |||
DIGC Llywodraethu Ymchwil | Robert Rogers | 2095 | r.rogers@bangor.ac.uk |
Pennaeth Gwasanaethau Llywodraethiant |
2413 |
||
Uwch Swyddog Polisi a Llywodraethu Ymchwil | Colin Ridyard | 8861 | mhsa08@bangor.ac.uk |
Gwenan Hine, Dirprwy Ysgrifennydd / Pennaeth Gwasanaethau Llywodraethu
Mae Gwenan yn arwain Gwasanaethau Llywodraethu. Mae ganddi gyfrifoldeb penodol dros lywodraethu a rheoli, llywodraethu gwybodaeth a chydymffurfiaeth, diogelu data, rhyddid gwybodaeth, diogelu, Atal, cyswllt â'r heddlu, rheoli argyfwng a rheoli fframwaith gwasanaethau cyfreithiol y Brifysgol. Mae'n arwain o ran darparu cyngor a chanllawiau ar gydymffurfio â pholisïau a'r gyfraith ar draws y brifysgol, ac yn gweithredu fel Swyddog Diogelu Data, Swyddog Rhyddid Gwybodaeth, Swyddog Diogelu a Rheolwr Argyfwng y Brifysgol.
Lauren Roberts, Cynorthwyydd Rheoli Digwyddiadau
Mae Lauren yn cefnogi Gwenan gyda phob agwedd ar fframwaith rheoli argyfwng y Brifysgol ac mae hefyd yn cefnogi swyddogaethau rheoli digwyddiadau ehangach. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru, ac asiantaethau eraill, a hefyd bod yn Un Pwynt Cyswllt ar gyfer pob ymholiad sy'n ymwneud â gorfodi'r gyfraith gan gynnwys bod yn bwynt cyswllt ar gyfer Swyddog Cymorth Cymunedol Heddlu'r Brifysgol. Mae Lauren hefyd yn cefnogi Gwenan gyda materion diogelu, gan gynnwys cyflawni gofynion y Ddyletswydd PREVENT. Yn ogystal, mae Lauren yn cynorthwyo Steve gydag agweddau ar ei bortffolio, yn enwedig mewn perthynas â chwynion myfyrwyr a materion disgyblu.
Anita Thomas, Rheolwr Cyfreithiol a Chydymffurfio
Mae Anita yn rheoli'r tîm cyfreithiol a chydymffurfio yn y Gwasanaethau Llywodraethu. Mae ganddi gyfrifoldeb penodol am reoli contractau a gwasanaethau cyfreithiol, gan gynnwys datblygu llyfrgell cyngor cyfreithiol. Mae Anita yn rhoi cymorth i Gwenan gyda cheisiadau am gyngor cyfreithiol gan staff. Mae Anita hefyd yn goruchwylio ymateb y Brifysgol i geisiadau am wybodaeth o dan y Deddfau Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth a reolir o ddydd i ddydd gan Lynette. Yn ogystal, mae Anita yn rheoli ymateb y Brifysgol i ddeddfwriaeth marchnata defnyddwyr ac yn rhoi cyngor ac arweiniad i staff ar bob agwedd ar farchnata defnyddwyr.
Lynette Williams, Cynorthwywr Cyfreithiol a Cydymffurfio
Mae Lynette yn darparu cefnogaeth i Gwasanaethau Llywodraethu gyda phob agwedd ar weithgareddau cydymffurfio, ac, yn benodol, mae'n gyfrifol am reoli ceisiadau rhyddid gwybodaeth a diogelu data o ddydd i ddydd. Mae hi'n hefyd rheoli canolfannau cofnodion y Brifysgol. Mae Lynette yn gweithio'n rhan-amser i'r Swyddfa ac mae ar gael ar foreau Llun, Mawrth a Mercher.
Marina Margulis, Cynorthwyydd Masnacheiddio
Mae Marina yn cefnogi Anita i gynnig gwasanaeth rheoli contract ymatebol a hyblyg, yn arbennig o ran contractau masnachol ac ymchwil. Yn benodol, mae Marina yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i ymchwilwyr a staff eraill y brifysgol sydd angen Cytundebau Cyfrinachedd, Cytundebau Ymgynghori, Cytundebau Efrydiaeth, Cytundebau Trosglwyddo Deunyddiau a/neu gontractau eraill sy'n ymwneud â gweithgareddau masnacheiddio, ymchwil, effaith ac arloesedd y brifysgol.
Colin Ridyard, Uwch Swyddog Polisi a Llywodraethu Ymchwil
Mae Colin yn arwain y brifysgol o ran moderneiddio a diweddaru llywodraethu ymchwil a phrosesau moesegol, gan ddarparu cyngor a datblygu arweiniad i golegau ar foeseg, moeseg ymchwil, llywodraethu ymchwil a materion uniondeb. Gan reoli trwyddedau perthnasol i ymchwil y brifysgol mewn perthynas â'r Ddeddf Meinweoedd Dynol a'r Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol), mae Colin hefyd yn gyfrifol am reoli fframwaith polisi corfforaethol y brifysgol a sicrhau bod pob polisi'n cwrdd ag anghenion nodau ac amcanion strategol y brifysgol a bod pob un yn cyd-fynd â Chynllun Strategol y brifysgol. Mae Colin hefyd yn rheoli'r rheoliadau academaidd, codau ymarfer, a threfnau'r brifysgol. Mae'n Ysgrifennydd Pwyllgor Rheoliadau ac Achosion Arbennig y Senedd.
Steve Barnard, Uwch Swyddog Ymddygiad a Chwynion Myfyrwyr
Mae gan Steve gyfrifoldeb penodol dros reoli gweithdrefnau'r Brifysgol ar gyfer disgyblu myfyrwyr, cwynion myfyrwyr, arfer annheg, ffitrwydd / addasrwydd i ymarfer ac apeliadau myfyrwyr. Mae Steve hefyd yn gyfrifol am hyfforddiant a datblygiad mewn perthynas â gweithdrefnau rheoli argyfwng y Brifysgol. Mae Steve hefyd yn ymgynghori ag Undeb y Myfyrwyr ar bob agwedd ar ei bortffolio.