Hydref 2019

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

Gŵyl Hanes y Pedair Gwlad

Lleoliad:
Prifysgol Bangor
Amser:
Dydd Gwener 25 Hydref 2019 – Dydd Sadwrn 26 Hydref 2019

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r haneswyr David Starkey, Lucy Worsley a David Olusoga fydd y siaradwyr gwadd yng Ngŵyl Hanes y Pedair Cenedl ym Mhrifysgol Bangor ar 25-26 Hydref 2019.

Dan arweiniad Ysgol Hanes y Brifysgol, bydd yr ŵyl yn gyfle i edrych yn fanylach ar hanes cyffredin a neilltuol Lloegr, Iwerddon, yr Alban a Chymru. Bydd ysgolheigion profiadol a rhai ar ddechrau eu gyrfa yn dod at ei gilydd i edrych ar hanes diddorol ac amlweddog y maes hwn.

Mae David Starkey CBE yn hanesydd cyfansoddiadol sydd wedi ysgrifennu dros 20 llyfr ac sydd wedi cyflwyno nifer o raglenni ar y teledu ac ar y radio. Lucy Worsley OBE yw Cyd Brif Guradur y Palasau Hanesyddol Brenhinol ac mae hi hefyd yn cyflwyno rhalenni hanes megis The First Georgians: The German Kings Who Made Britain(2014) a Six Wives with Lucy Worsley(2016). Mae David Olusoga OBE yn hanesydd, darlledwr ac yn wneuthurwr ffilmiau sy'n Athro Hanes Cyhoeddus ym Mhrifysgol Manceinion.

Am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau, gweler: pontio.co.uk Mae rhaglen gyflawn yr ŵyl, sydd wedi ei noddi gan Waddol Tom a Raj Parry Jones, i’w weld yn fournations.bangor.ac.uk.