Newyddion Diweddaraf

Prifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad llwyddiannus i gyn-fyfyrwyr ym mhedwaredd Gyngres Coedamaeth y Byd ym Montpellier, Ffrainc

Ddydd Llun 20 Mai 2019, gyda chefnogaeth y Ganolfan Addysg Ryngwladol, cynhaliwyd digwyddiad ym mhedwaredd Gyngres Coedamaeth y Byd ym Montpellier, Ffrainc gan staff yr Ysgol Gwyddorau Naturiol. Mae gan Brifysgol Bangor nifer fawr o fyfyrwyr rhyngwladol a bydd yn gwneud pob ymdrech i gadw mewn cysylltiad â chyn-fyfyrwyr ble bynnag yn y byd y bônt. Cyfarfu staff, cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr yng ngwesty'r Oceania i rannu hanesion, rhwydweithio a dysgu am ddatblygiadau diweddar ym Mhrifysgol Bangor a thu hwnt.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2019

Coedwigwyr Bangor ym Mhalas Buckingham

Mynychodd dau o goedwigwyr Prifysgol Bangor, Sarah Ellis a James Walmsley, Barti Gardd Brenhinol ar dir Palas Buckingham yn ddiweddar, o ganlyniad i'w gwaith gyda'r elusen fechan, Woodland Heritage. Treuliodd y coedwigwyr lawer o'u prynhawn yn archwilio'r gerddi helaeth, sy’n safle 40-erw yng nghanol Llundain a chartref i gasgliad trawiadol o goed specimen. Cawsant hefyd gipolwg ar aelodau'r teulu Brenhinol, gan gynnwys y Frenhines a’r Tywysog Harry.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2019

Dychwelliad y Ddraig

Ffrindiau'n trefnu gŵyl i godi arian i gefnogi darlithydd a gafodd anaf i'r ymennydd ac i'r Ardd Fotaneg sydd mor hoff ganddi.

Ar y 8fed o Fehefin, bydd gerddi botaneg Prifysgol Bangor yn Nhreborth yn llawn cerddoriaeth wych ar dair llwyfan, bwyd llysieuol blasus, plant yn crwydro'r coetiroedd a'r dolydd hynafol, teuluoedd yn dysgu drymio a dawnsio gyda'i gilydd, a llawer mwy. Mae'r cyfan yn cael ei drefnu gan ffrindiau a chydweithwyr Dr Sophie Williams, cyn ddarlithydd o Brifysgol Bangor a gontractiodd lid yr ymennydd Japaneaidd tra oedd hi ar waith maes yn Tsieina yn 2015.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2019

Arbenigedd Bangor yn helpu ennill Gwobr Aur yn Chelsea

Treuliodd Curadur Gardd Fotaneg y Briofysgol, Natalie Chivers, yr wythnos ddiwethaf hyd at ei phenelinoedd mewn pridd yn rhan o dîm dylunio cynllun plannu Gardd Montessori St Nicholas yn Sioe Flodau Chelsea.  Treuliodd Natalie yr wythnos yn plannu pob blodyn a ddewiswyd yn ofalus iawn ar gyfer yr Ardd a enillodd Wobr Aur enwog Chelsea.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019