Newyddion: Ebrill 2019

Eog llai atyniadol

Mae ymchwil newydd yn dangos bod eogiaid a ffermir yn llai atyniadol i'r fenyw nag eogiaid gwyllt. Y rheswm am hyn yw bod y bachau sydd o dan eu gên neu 'kype', sy'n nodwedd rywiol eilaidd, yn llai. Gellir cymharu'r nodwedd hon â chyrn carw.

Mae'r canfyddiad newydd hwn a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn gwyddoniaeth Royal Society Open Science a adolygir gan gymheiriaid, yn awgrymu bod eogiaid a fegir ar fferm yn llai deniadol yn rhywiol na'u brodyr gwyllt. Er mai dim ond ers y 1970au y maent wedi cael eu magu mewn caethiwed, maent eisoes yn gwyro oddi wrth yr eog gwyllt o fewn dim ond 12 cenhedlaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2019

Y cyfle olaf i fioamrywiaeth Madagascar

Mae gwyddonwyr o bedwar ban byd wedi dod ynghyd i nodi'r camau pwysicaf sydd eu hangen ar lywodraeth newydd Madagascar rhag colli rhywogaethau a chynefinoedd unwaith ac am byth.

Ym mis Ionawr, dechreuodd Andag Rajoelina, arlywydd newydd Madagascar, ei gyfnod o bum mlynedd yn y swydd. Mae grŵp o wyddonwyr o Fadagascar, y Deyrnas Unedig, Awstralia, Unol Daleithiau America a'r Ffindir wedi cyhoeddi papur sy'n tynnu sylw at y camau gweithredu y mae angen i'r llywodraeth newydd eu cymryd i wrthdroi dirywiad dybryd bioamrywiaeth a helpu rhoi Madagascar ar drywydd datblygu cynaliadwy.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2019

Diogelu ein hadnoddau naturiol - sut y mae’r rhai sy’n gyfrifol yn penderfynu?

Mae gweithgareddau dynol yn fygythiad cynyddol i’r elfennau hynny yr ydym yn dibynnu arnynt  am ein goroesiad, o ddŵr glân o goedwigoedd, at  sicrhau goroesiad  y pryfaid sy’n peillio ein cnydau.

Mae gwyddonwyr yn galw’r agweddau naturiol yr ydym yn ddibynnol arnynt yn ‘wasanaethau’r ecosystem’  am mae nifer gynyddol o lywodraethau yn symud eu polisïau amgylcheddol i gymryd y gwasanaethau ecosystem hanfodol hyn i ystyriaeth.

Mae gwyddonwyr yn rhuthro i greu modelau sydd yn medru rhagweld argaeledd y gwasanaethau hyn, sydd weithiau’n bethau mor elfennol â dŵr, neu dir ar gyfer pori anifeiliaid neu dyfu cnydau, a’r galw amdanynt.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2019

DNA analysis finds that type of grass pollen, not total count, could be important for allergy sufferers

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Simon Creer a Dr Georgina Brennan o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol neu ein datganiad Cymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2019

Ystlumod yn defnyddio'r machlud i fudo

Gallai ystlumod sy'n pwyso dim mwy na 6 gram, sy'n mudo dros fil o filltiroedd o'r Baltig i Brydain, fod yn allweddol i ddatgelu sut mae mamaliaid sy'n mudo yn dod o hyd i'w ffordd.

Rydym yn gwybod mwy am sut mae adar ac ymlusgiaid a physgod yn dod o hyd i'w ffordd nag ydym am famaliaid fel morfilod neu gnwod, ond caiff un rhan o'r cwestiwn ei ateb yn rhifyn diweddaraf Current Biology.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2019

Adnabod y paill sy’n cosi’r trwyn

Mae’n bosib fod gwyddonwyr gam yn nes at gynnig rhagolygon paill mwy manwl gywir i’r bobl hynny sy’n dioddef o asthma neu glwy’r gwair - tua  25% o boblogaeth y Deyrnas Unedig. Dyma’r  canlyniadau cyntaf i ddeillio o broject mawr tair blynedd i ddadansoddi paill glaswellt yn yr aer.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2019

Adnabod y paill sy’n cosi’r trwyn

Mae’n bosib fod gwyddonwyr gam yn nes at gynnig rhagolygon paill mwy manwl gywir i’r bobl hynny sy’n dioddef o asthma neu glwy’r gwair - tua  25% o boblogaeth y Deyrnas Unedig. Dyma’r  canlyniadau cyntaf i ddeillio o broject mawr tair blynedd i ddadansoddi paill glaswellt yn yr aer.

Mae canlyniadau’r flwyddyn gyntaf, a gyhoeddir yn Nature Ecology & Evolution, wedi dangos nad   ‘llwyth’ y paill gwair yn yr aer un unig all fod yn gyfrifol am y ‘dyddiau drwg’ hynny i ddioddefwyr asthma a chlwy’r gwair. Gallai’r dyddiau hynny pan fo pobl yn dioddef mwy o byliau asthma neu glwy’r gwair mwy dwys fod yn gysylltiedig â rhyddhau paill o rywogaethau glaswellt penodol. 

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2019

Our Planet is billed as an Attenborough documentary with a difference but it shies away from uncomfortable truths

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Julia Jones o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2019

Tywysog Cymru yn tynnu sylw at enghraifft wych o'r arfer gorau mewn rheoli cynaliadwy yn y gwaith o ehangu ardaloedd morol gwarchodedig Ynysoedd y Cayman

Mae Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad â'r Nature Conservancy wedi cynorthwyo Adran yr Amgylchedd i ehangu system parciau morol Ynysoedd y Cayman, sef Tiriogaeth Dramor Brydeinig yn y Caribî, drwy brojectau a ariennir gan Fenter Dawrin, DEFRA*. 

Cafodd y gwaith o ehangu parciau morol presennol Ynysoedd y Cayman ei gymeradwyo gan y Cabinet a'i gyhoeddi yn ystod ymweliad Tywysog Cymru ar 28 Mawrth.  Nododd Gweinidog yr Amgylchedd y byddai'r "Ehangu hwn yn diogelu ein stociau morol lleol, yn ogystal â’r rhwydwaith hollbwysig y riffiau cwrel sy'n amgylchynu ein hynysoedd, a hynny am genedlaethau."

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2019

Ymchwil myfyrwyr ar ficroblastigau mewn dŵr croyw yn y newyddion

Mae ymchwil a gyflawnwyd gan fyfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, ar y cyd â Chyfeillion y Ddaear (Friends of the Earth) wedi ennill sylw’r cyfryngau rhyngwladol.

Comisiynwyd Prifysgol Bangor gan y mudiad amgylcheddol i fesur faint o blastig a microblastig sydd yn afonydd a llynnoedd Prydain, a chafodd eu canfyddiadau eu hadrodd yn y cyfryngau print a darlledu ledled Prydain a thu hwnt.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2019