Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Newyddion: Mai 2020

Sut gall Awdurdodau Lleol annog dinasyddion i gymryd rhan mewn trawsnewid ynni

Mae pecyn newydd Ynni Glân i bobl Ewrop yr Undeb Ewropeaidd yn arwain y ffordd i ddinasyddion Ewrop fod yn gyd-gynllunwyr ac arweinwyr ar brojectau cynhyrchu ynni, trafnidiaeth a datblygiadau cymdeithasol sy’n adnewyddadwy a chynaliadwy, yn hytrach na bod dan orfodaeth i dderbyn projectau o'r fath.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2020

Bydd morwellt yn elwa o'r newid byd-eang

Dengys ymchwilwyr y bydd morwellt yn elwa o'r cynnydd yn y tymheredd a CO2 yn y cefnforoedd oherwydd bydd eu gallu i gaffael nitrogen yn cynyddu, heb gyfyngu ar eu twf.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2020

Gall coedwigoedd trofannol ymdopi â'r gwres, i ryw raddau

Mae coedwigoedd trofannol yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd newid yn yr hinsawdd, ond mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn Science yn awgrymu y gallant barhau i storio llawer iawn o garbon mewn byd cynhesach, os bydd gwledydd yn cyfyngu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae coedwigoedd trofannol y byd yn storio gwerth chwarter canrif o allyriadau tanwydd ffosil yn eu coed. Mae pobl yn ofni y gall cynhesu byd-eang leihau'r storfa hon os bydd llai o goed yn tyfu neu os bydd mwy o goed yn marw, gan gyflymu newid yn yr hinsawdd.

Roedd Dr Simon Willcock o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor yn un o dîm ymchwil rhyngwladol a fesurodd dros hanner miliwn o goed mewn 813 o goedwigoedd ledled y trofannau i asesu faint o garbon sy'n cael ei storio gan goedwigoedd sy'n tyfu o dan amodau hinsoddol gwahanol heddiw.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2020

Sgwrs am gadwraeth primatiaid

Zoe Melvin, ymchwilydd PhD yn Ysgol y Gwyddorau Naturiol yn cyfweld Dr Tim Davenport, cyfarwyddwr cadwraeth rhywogaethau (Affrica), y Wildlife Conservation Society.

Wrth i gyfres newydd BBC One Primates ddod i ben nos Sul (17 Mai, 8:15 PM BST) mae primatolegwyr o Brifysgol Bangor (@BangorPrimates) yn parhau i drydar eu sylwadau am y gyfres ar Twitter dan yr hashnod #BangorDoesPrimates.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2020

Mae gwyddonwyr Bangor yn troi gwlyptiroedd a gafodd eu niweidio'n storfeydd carbon

Mae tîm o wyddonwyr wedi datblygu dull newydd i helpu corsydd mawn a brofodd niwed ddal mwy o garbon, a rhyddhau llai o'r nwyon tŷ gwydr i'r awyr.

Dywed y grŵp, sydd o dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn y gogledd, y gallai eu gwaith arwain at ddatblygu arferion newydd lle mae adfer mawndiroedd yn y cwestiwn.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2020

Gall microbiomau perfedd iach ddylanwadu ar bysgod a ffermir

Mae'n debyg ein bod i gyd wedi clywed neu ddarllen rhywbeth am sut y gall microbiome perfedd iach effeithio ar ein hiechyd yn gyffredinol. Mae microbiome perfedd yr un mor hanfodol i anifeiliaid a physgod ag yw i bobl.

Mae gennym ficrobiomau mewn gwahanol rannau o'n cyrff, ar ein croen, er enghraifft. 

Mae microbiomau yn cynnwys cymunedau o wahanol ficro-organebau, firysau a germau ac mae'r cymunedau hyn yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd rydym yn gweithredu. Ceir hyd yn oed dystiolaeth i ddangos y gall biome perfedd gwael arwain at salwch neu afiechyd hyd yn oed.

Gan fod tua 45% o'r pysgod rydym yn eu prynu a'u bwyta'n fyd-eang yn dod o ffermydd pysgod, mae deall microbiome perfedd pysgod yn hanfodol i gyflenwi'r galw hwn.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2020

Yr hyn y gall ein carthffosiaeth ei ddatgelu am gyfraddau heintiad Covid-19 yn y gymuned

Yr hyn y gall ein carthffosiaeth ei ddatgelu am gyfraddau heintiad Covid-19 yn y gymuned

Mae gwyddonwyr Prifysgol Bangor yn gweithio gyda Dŵr Cymru ac United Utilities i fonitro lefelau cefndirol y coronafeirws mewn gwahanol ardaloedd.

Mae'r gwyddonwyr wedi dangos, o olrhain y feirws marw sy'n cael ei ollwng o'r corff yn  naturiol, cawn rybudd cynnar ynghylch pryd y gallai rhai ardaloedd fod yn agosáu at anterth nesaf Covid-19, oherwydd gall symptomau gymryd hyd at bythefnos i ddod i'r amlwg, a does dim symptomau ar oddeutu 20% o'r boblogaeth neu fwy.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2020

Lockdown challenges – what evolution tells us about our need for personal space

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Vivien Shaw o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2020

Fideo am Tswnami'n ennill Gwobr Arian y Cyhoeddwyr gan y Gymdeithas Ddaearyddol

Mae fideo addysgol am tswnamis, a wnaed gan Time for Geography ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Dundee, wedi ennill Gwobr  Arian y Cyhoeddwyr 2020 gan y Gymdeithas Ddaearyddol.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2020

Fideo am Tswnami'n ennill Gwobr Arian y Cyhoeddwyr gan y Gymdeithas Ddaearyddol

Mae fideo addysgol am tswnamis, a wnaed gan Time for Geography ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Dundee, wedi ennill Gwobr  Arian y Cyhoeddwyr 2020 gan y Gymdeithas Ddaearyddol.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2020

Lleoliadau o fri gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i dri myfyriwr coedwigaeth disglair o Fangor

Mae tri myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi sicrhau lleoliadau 12 mis gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel rhan o'u cyrsiau gradd BSc Coedwigaeth (gyda lleoliad rhyngosod). Byddant yn cael y cyfle i ddysgu am ddulliau CNC o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. 

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2020