Newyddion: Chwefror 2021
Gall adar 'ddarllen' llofnod magnetig y ddaear yn ddigon da i ddod yn ôl ar y llwybr cywir
Mae gwylwyr adar yn gwirioni pan fydd aderyn mudol 'prin' yn dod i olwg tir ar ôl cael ei chwythu oddi ar ei lwybr arferol wrth fudo. Ond maent yn brin am reswm; mae mwyafrif yr adar sydd wedi teithio ar hyd y ffordd o'r blaen yn gallu cywiro eu hunain a chyrraedd pen eu taith.
Yn awr, mae ymchwil newydd gan dîm rhyngwladol yn dangos am y tro cyntaf sut mae adar sy'n mynd oddi ar eu llwybr yn gallu dod o hyd i'r ffordd yn ôl i'w llwybr mudol ac mae'n rhoi cipolwg i ni ar sut maent yn cyflawni'r gamp hon.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2021
Arolwg agwedd ddim yn argoeli'n dda i deithwyr awyr.
Mae canllawiau a pholisïau cyfredol llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annhebygol o atal lledaeniad SARS-COVID-19 i mewn i'r Deyrnas Unedig yn ôl canlyniadau arolwg o ddealltwriaeth pobl o symptomau COVID-19, a'u hagweddau a'u hymddygiad tebygol mewn perthynas â theithio mewn awyrennau yn ystod y pandemig.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2021