Bodaod tinwyn a grugieir coch: Canfod tir cyffredin mewn gwrthdaro parhaus

Bu gwrthdaro ers degawdau rhwng cadwraethwyr sy'n gweithio dros warchod niferoedd y bodaod tinwyn a'r rheiny sy'n gwneud bywoliaeth o saethu grugieir coch yn fasnachol yn ucheldiroedd Lloegr, a hynny heb arwydd o gymod. Gan dynnu ar waith a wnaed ym maes seicoleg, mae astudiaeth newydd a gyhoeddir heddiw yn y cyfnodolyn People and Nature yn ymchwilio i'r gwerthoedd sylfaenol sydd gan saethwyr a chadwraethwyr sy'n ei gwneud hi mor anodd i ddod o hyd i atebion ar y cyd.

Mae astudiaethau ecolegol dros y 30 mlynedd ddiwethaf wedi dangos y gall bodaod tinwyn ac adar ysglyfaethus eraill leihau niferoedd y grugieir i'r fath raddau bod perygl i saethu grugieir fynd yn anhyfyw yn economaidd. O ganlyniad, caiff bodaod tinwyn eu lladd yn anghyfreithlon ar weunydd grugieir, er eu bod wedi'u diogelu o dan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig ers 1952.

Cynhaliodd ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Aberdeen arolwg o amrediad o sefydliadau sy'n cynrychioli buddiannau chwaraeon maes (h.y. hela, saethu, pysgota) a chadwraeth natur yn Lloegr i asesu eu gwerthoedd a'u hagweddau tuag at fodaod tinwyn, saethu grugieir ac ymyriadau rheoli posibl.

Dywedodd Dr Freya St John o Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol: "Gwnaethom ganfod fod gan bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon maes a'r rheiny sy'n ymwneud â chadwraeth adar safbwyntiau sydd fwy neu lai’n gwbl groes i’w gilydd ynglŷn â pherthynas dyn â natur, sy'n golygu ei bod hi'n anodd iawn i ni ddod o hyd i atebion ar y cyd."

"Er bod cytundeb cyffredinol ynghylch y dystiolaeth am y berthynas ecolegol rhwng bodaod tinwyn a grugieir, mae llawer llai o gytundeb ynglŷn â'r dull gorau o'u rheoli."

Canfuwyd bod aelodau sefydliadau saethu, yn wahanol i bobl sy'n gysylltiedig â grwpiau cadwraeth, yn credu mewn meistrolaeth ddynol dros natur ac yn blaenoriaethu lles dynol dros hawliau bywyd gwyllt. Mynegodd y grŵp hwn gefnogaeth i wahanol ddulliau o reolaeth, gan gynnwys rheoli nytheidiau drwy symud wyau neu adar ifanc o’u nythod, eu magu mewn caethiwed a'u rhyddhau yn ôl i'r gwyllt yn nythgywion. Ond mewn cyferbyniad â hynny, nid oedd yr unigolion oedd yn gysylltiedig â grwpiau cadwraeth yn cefnogi rheoli nytheidiau. Fodd bynnag, yn debyg i'r bobl hynny â chysylltiad â chwaraeon maes, roeddynt yn mynegi cefnogaeth i fonitro parhaus ar y boblogaeth bodaod tinwyn, gwarchod eu clwydau gaeaf, gwell gwybodaeth a gorfodaeth, a bwydo bodaod tinwyn yn ddargyfeiriol er mwyn lleihau eu hysglyfaethu ar rugieir.

Roedd y canlyniadau'n dangos mai bwydo dargyfeiriol oedd yn cael ei ffafrio fwyaf a hynny a gafodd y consensws mwyaf ymhlith y grwpiau a arolygwyd. Hyd yma, dyma'r unig dechneg reoli sydd wedi'i threialu a'i chanfod yn effeithiol i leihau nifer y cywion grugieir a gânt eu bwyta gan fodaon tinwyn. Er gwaethaf hyn, nid yw bwydo o'r fath wedi cael ei fabwysiadu'n eang ar weunydd grugieir.

Dywedodd yr Athro Steve Redpath o Brifysgol Aberdeen, a fydd yn cyflwyno canfyddiadau'r astudiaeth yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Ecolegol Prydain: "Mae ein gwaith yn amlygu bod hwn yn wrthdaro rhwng pobl â safbwyntiau gwahanol iawn am reoli cefn gwlad a'i fywyd gwyllt."

Ar hyn o bryd nid oes proses o ddeialog ffurfiol ar waith i gynorthwyo â rheoli'r gwrthdaro hwn rhwng budd-ddeiliaid. Tynnodd sefydliadau cadwraeth yn ôl o drafodaethau blaenorol, yn rhannol oherwydd bod bodaod tinwyn yn dal i gael eu lladd yn anghyfreithlon a'u bod bron iawn wedi diflannu fel rhywogaeth fridio yn Lloegr.

"Mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd mudiadau cadwraeth yn barod i ddychwelyd i'r bwrdd trafod oni bai fod lladd bodaod tinwyn yn anghyfreithlon yn dod i ben", ychwanegodd Redpath. "Er mwyn lleihau effaith bodaod tinwyn ar rugieir, mae rheoli nytheidiau wedi cael ei gynnig fel opsiwn, ond fel y gwelwn o’r astudiaeth hon, mae'n ddadleuol iawn. Mae ymyrraeth ymarferol o'r fath yn gas gan rai, yn arbennig tra bo bodaod tinwyn yn dal i gael eu lladd yn anghyfreithlon."

Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2018