Cyn-fyfyriwr nodedig, Yr Athro John Porter, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Bangor
Mae'r seremonïau graddio ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu llwyddiannau mawr cannoedd o fyfyrwyr bob blwyddyn. Yn ogystal, maent yn gyfle hefyd i gydnabod gorchestion unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig yn eu gwahanol feysydd, drwy gyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddynt.
Braint i'r Athro Morag McDonald, Pennaeth Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, oedd cyflwyno'r Athro John Porter i Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John Hughes, i dderbyn yr anrhydedd honno. Daw'r Athro John Porter yn wreiddiol o Lerpwl a chwblhaodd ei radd BSc mewn Botaneg Amaethyddol yn 1976 a'i PhD mewn Bioleg Planhigion yn 1981 yn yr hyn a oedd bryd hynny'n Goleg Prifysgol Gogledd Cymru. Goruchwyliwyd ei PhD gan y diweddar Athro John Harper FRS CBE, un o alumni mwyaf nodedig Bangor. Erbyn hyn mae'r Athro Porter yn wyddonydd adnabyddus ym maes amaethyddiaeth a newid hinsawdd gan rannu ei amser rhwng Prifysgolion Copenhagen a Greenwich.
Mae'r Athro Porter yn wyddonydd sy'n adnabyddus yn rhyngwladol ym maes cnydau ac ecoleg amaethyddol. Ei brif gyfraniad gwyddonol yw gwaith amlddisgyblaethol ym maes cnydau yn eu hamgylchedd, gyda phwyslais ar newid hinsawdd a gwasanaethau ecosystem. Mae'n fwyaf adnabyddus efallai am ei waith arloesol yn datblygu modelau efelychu cnydau. Lluniodd y model cyntaf o wenith yn y 1980au, gydag amrywiadau pellach yn dangos pwysigrwydd amrywiaeth hinsawdd ar gynhyrchu cnydau. Erbyn hyn mae'r modelau hyn yn rhan ganolog o ymchwil i adnabod mathau newydd o gnydau a all ymdopi ag effeithiau newid hinsawdd, ac ymaddasu iddynt, er budd amaethyddiaeth yn fyd-eang. Ar hyn o bryd mae'n aelod o bwyllgor llywio annibynnol y Consultative Group on International Agricultural Research (y system GG fel y caiff ei galw) ar WENITH. Mae hon yn ymdrech ryngwladol, gydweithredol i gynyddu cynhyrchiant systemau ffermio gwenith, i roi sylw i fygythiad byd-eang afiechydon ac i helpu ffermwyr mewn gwledydd sy'n datblygu i dyfu eu cnydau mewn amodau o sychder cynyddol. Daeth ag Ysgrifenyddiaeth y rhaglen CG ar Newid Hinsawdd, Amaethyddiaeth a Diogelwch Bwyd i Brifysgol Copenhagen, lle mae ymchwil yn ceisio rhoi sylw i her gynyddol cynhesu byd-eang a gostyngiad yn niogelwch bwyd er mwyn helpu ffermwyr tlotaf y byd i ymdopi â phroblemau newid hinsawdd a sicrhau cyflenwadau bwyd digonol yn y dyfodol.
Mae'r Athro Porter wedi gwneud cyfraniadau mawr i Banel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (yr IPCC). Bu'n gweithio ar yr ail, y trydydd a'r pedwerydd asesiad fel adolygydd ar ymchwil amaethyddol, Ewropeaidd a thechnegol gyffredinol. Y gymuned wyddonol sy'n ffurfio'r IPCC oedd cyd-enillydd Gwobr Heddwch Nobel yn 2007. Arweiniodd y gweithgor a ysgrifennodd y bennod hollbwysig ar systemau cynhyrchu bwyd a diogelwch bwyd ar gyfer 5ed Asesiad yr IPCC. Yr adroddiad hwn oedd sylfaen wyddonol y cytundeb COP21, a lofnodwyd ym Mharis yn Rhagfyr 2015. Ym Mawrth 2016 fe'i gwnaed yn Farchog Urdd Teilyngdod Amaethyddol Ffrainc, a roddir i rai sydd wedi gwneud cyfraniadau nodedig i amaethyddiaeth. Sefydlwyd yr Urdd yn 1883 gan Weinyddiaeth Amaeth Ffrainc bryd hynny ac mae'n un o'r anrhydeddau pwysicaf a roddir yn Ffrainc. Fe'i penodwyd hefyd yn Gymrawd yr European Academy of Sciences yn 2015 ac mae'n brif olygydd yr European Journal of Agronomy.
Yn ôl yr IPCC, bydd bygythiad difrifol i gyflenwad bwyd a diogelwch bwyd o fewn y 30 mlynedd nesaf os na weithredir yn ddigonol i roi sylw i newid hinsawdd ac i'r niwed y gall hynny ei achosi i'r system fwyd. Mae ymchwil yr Athro Porter wedi cymryd camau breision i warchod cymunedau mwyaf bregus y byd rhag y bygythiad difrifol hwn.
Ar ôl derbyn ei gymrodoriaeth gan yr Is-ganghellor, anerchodd yr Athro Porter y gynulleidfa o raddedigion, rhieni, aelodau'r orymdaith raddio a gwesteion pwysig eraill. Dywedodd sut y daeth i astudio i Brifysgol Bangor, ar ôl penderfynu nad gwneud gradd mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Bryste oedd y dewis iawn iddo. Roedd yn hynod ddiolchgar am yr ail gyfle a gafodd gan Fangor pan dderbyniwyd ef i wneud y radd BSc mewn Botaneg Amaethyddol. Anogodd raddedigion 2016 i deimlo balchder mawr yn eu cyraeddiadau a phwysodd arnynt i ddefnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau newydd yn ddoeth er budd eraill.
Yr Athro John Porter, Cymrawd er Anrhydedd, gyda'r Athro Morag McDonald ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2016