Cynhadledd rhad ac am ddim: CREU A CHYFLEU LLE
Sut mae lle yn cael ei greu trwy ystyried realiti a’r dychymyg?
Bydd sesiynau yn cynnwys trafodaethau ar greu a disgrifio trwy lenyddiaeth, dehongli delweddau o le, dadansoddi naws lle a’r dull y mae’n cael ei gyfleu e.e. brandio a hysbysebu.
Cynhadledd rhyngddisgyblaethol ym maes y Celfyddydau a’r Gwyddorau Daear ar y cyd yw hon. Bydd panel trafod yn cynnwys siaradwyr o feysydd cyfryngau poblogaidd, cynllunio, dehongli a llenyddiaeth yn ystod y dydd.
Y gobaith yw y bydd y gynhadledd hon yn arwain at gyfrol wedi ei chyd-olygu sy’n archwilio hunaniaeth ar sail lle yn ei amrywiol agweddau.
DYDDIAD/AMSER
22ain IONAWR 2016
9:15 - 4.30yp
BLE
Adeilad Thoday, Ffordd Deiniol, Bangor,
LL57 2UW.
LLOGI EICH LLE a derbyn rhagor o fanylion – cysylltwch a:-
Dr. Rhiannon Williams: Rhiannon.williams4@decymru.ac.uk Neu
Dr. Eifiona Thomas Lane: eifiona.thomaslane@bangor.ac.uk
Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel prosiect cydweithredol rhwng
Adran Daearyddiaeth Prifysgol Bangor ac Adran Astudiaethau Cymraeg Byd
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2016