Digwyddiad cymdeithasol Prifysgol Bangor yn Zambia i gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol
Yn ddiweddar, bu i Dr Fergus Sinclair, Uwch Ddarlithydd mewn Amaeth-goedwigaeth yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (ADNODD) ym Mhrifysgol Bangor ac Arweinydd Parth y Gwyddorau yn y World Agroforestry Centre (ICRAF), gynnal parti coctel ar gyfer alumni a myfyrwyr presennol Prifysgol Bangor yn ardal Copperbelt yn Zambia. Cynhaliwyd y digwyddiad ar 29 Awst yn yr Africanza Lodge & Restaurant yn Kitwe. Roedd y digwyddiad nid yn unig yn aduniad difyr, ond bu iddo hefyd arwain at drafodaethau buddiol ynghylch ymchwil projectau a chydweithio yn y dyfodol.
Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys Donald Zulu ac Emelda Hachoofwe, dau gyn-fyfyriwr MSc Amaeth-goedwigaeth o 2008 a 2012, sydd yn awr ill dau yn ddarlithwyr yn yr Ysgol Adnoddau Naturiol ym Mhrifysgol Copperbelt. Hefyd yn bresennol yr oedd Herrick Mwewa sydd wrthi'n astudio ar gyfer gradd dysgu o bellter MSc mewn Coedwigaeth Drofannol yn ADNODD, gan weithio'r un pryd fel swyddog hyfforddi yng Ngholeg Coedwigaeth Zambia. Roedd Dr Gillian Kabwe yno, sef cyn-fyfyriwr BSc mewn Coedwigaeth o 1997, sy'n ddarlithydd yn yr Ysgol Adnoddau Naturiol ym Mhrifysgol Copperbelt, ac sydd yn awr yn Gydlynydd project (Developing Value Chain Innovation Platforms to improve Food Security in eastern and southern Africa – VIP4FS) sy'n cael ei weithredu yn rhanbarth Solwezi, North-western Province gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Australian Centre for International Agricultural Research (ACIAR) ac ICRAF. Mae gan Brifysgol Copperbelt femorandwm dealltwriaeth gyda ICRAF, ac y mae'r project hwn yn cael ei weithredu dan y mandad hwnnw. Croesawyd Dr John Kangwa, Swyddog Datblygu Staff Prifysgol Copperbelt, i'r digwyddiad fel cydlynydd ar gyfer hyfforddiant yn y Brifysgol; yn cynnwys rheoli ysgoloriaethau a chysylltu cymrodyr datblygu staff gyda phrifysgolion.
Dywedodd Dr Fergus Sinclair “Eleni, bu i ni ailgysylltu â chymaint o'n cyn-fyfyrwyr ar draws y byd, ac mae wedi bod yn galonogol eu gweld yn parhau i ymchwilio ac addysgu yn y meysydd pwnc y bu iddynt eu hastudio gyda ni ym Mangor.”
Dr Fergus Sinclair gyda chydweithwyr a chyn-fyfyrwyr yn Zambia. Awst 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2015