Graddedigion o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn rhoi hyfforddiant gwerthfawr ar wybodaeth amaeth-ecolegol leol yn Ne America.
Cynhaliwyd cwrs hyfforddi'n ddiweddar gan Ganolfan Amaeth-Goedwigaeth y Byd (ICRAF) ar y cyd â Phrifysgol Bangor yn ei swyddfa yn Pucallpa ger Afon Amazon yn Peru, Bwriad y cwrs oedd cyflwyno ei Becyn Cymorth Gwybodaeth Amaeth-ecolegol. Dyma'r cwrs cyntaf o'i fath i gael ei gynnal trwy gyfrwng y Sbaeneg, a chafodd ei hwyluso gan ddau gyn-fyfyriwr o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (ADNODD) Prifysgol Bangor: Alan Heinze ac Emilie Smith Dumont, ill dau wedi graddio o'r rhaglen MSc mewn Amaeth-goedwigaeth. Bu Genevieve Lamond (cysylltai addysgu yn Adnodd) yn eu cefnogi.