Mae rhai o bobl dlotaf y byd yn ysgwyddo costau gwarchod coedwigoedd trofannol

Disgrifiad: Y cyd-awdur Rina Mandimbiniaina yn cofnodi data o gyfweliad, a'r teulu'n gwylio : Credyd: O.S. RakotonarivoDisgrifiad: Y cyd-awdur Rina Mandimbiniaina yn cofnodi data o gyfweliad, a'r teulu'n gwylio : Credyd: O.S. RakotonarivoNid ar draul tolodion y byd y mae cyrraedd targedau cadwraeth y byd. Mae honno'n egwyddor sy'n cael ei derbyn yn fyd-eang, ond mae'r astudiaeth gyntaf i gloriannu'r polisi sy'n ceisio digolledu pobl leol am gostau cadwraeth yn dangos, er y bwriadau da, mai'r tlodion sy'n colli allan.

Mae coedwigoedd trofannol yn bwysig i bawb sydd ar y blaned. Nid yn unig y mae coedwigoedd trofannol yn gartref i fioamrywiaeth hynod a phrin (fel lemyriaid Madagascar), maen nhw hefyd yn cadw swmp enfawr o garbon dan glo ac mae hynny'n helpu sefydlogi'r hinsawdd. Hefyd, mae coedwigoedd trofannol yn gartref i gannoedd o filoedd o bobl ac mae'r polisïau cadwraeth rhyngwladol yn gallu effeithio ar eu bywydau hwythau.

Mae sefydliadau fel Banc y Byd sy'n rhoddwyr lluosog wedi dweud yn glir fod angen digolledu'r bobl hynny y mae eu projectau'n cael effaith negyddol arnynt. Mae hynny'n cynnwys y rheiny yr effeithir arnynt gan brosiectau cadwraeth sy'n ceisio arafu'r newid yn yr hinsawdd trwy atal datgoedwigo trofannol (cynllun a elwir yn REDD+ neu Gostwng Allyriadau o Ddatgoedwigo a Diraddiad Coedwigoedd). Am y tro cyntaf erioed, bu ymchwilwyr yn astudio un cynllun digolledu o'r fath yn fanwl a'r farn oedd ei fod yn annigonol. 

Bu ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn y Deyrnas Unedig a Phrifysgol Antananarivo ym Madagascar yn ymchwilio i ardal ddiogel newydd a phroject peilot REDD+ yn fforestydd glaw dwyrain Madagascar sy'n dwyn yr enw Coridor Ankeniheny Zahamena (neu CAZ). Mae'r project cadwraeth hwn yn gwarchod bioamrywiaeth go hynod (gan gynnwys y lemwr Indri-y mwyaf yn y byd), ond y rheswm pennaf dros ddiogelu'r ardal yw'r effaith ar yr hinsawdd; Ffermwyr bach yw'r rhan fwyaf o bobl y CAZ ac mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar amaethyddiaeth fudol. Mae'r cyfyngiadau cadwraeth yn effeithio'n ddirfawr arnyn nhw oherwydd dyma'r unig fywoliaeth sydd ganddyn nhw. : Credyd: M PoudyalFfermwyr bach yw'r rhan fwyaf o bobl y CAZ ac mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar amaethyddiaeth fudol. Mae'r cyfyngiadau cadwraeth yn effeithio'n ddirfawr arnyn nhw oherwydd dyma'r unig fywoliaeth sydd ganddyn nhw. : Credyd: M Poudyalcadw'r carbon ynghlo er mwyn gwarchod rhag y newid yn yr hinsawdd.

Yn eu papur (DOI 10.7717/peerj.5106) mae'r ymchwilwyr yn dangos bod y cyfyngiadau cadwraeth newydd yn costio'n ddrud iawn i'r bobl leol (sef hyd at hyd at 85% o'u hincwm blynyddol). Cynigiwyd iawndal, ar ffurf cymorth i wella amaethyddiaeth, i garfan o bobl. Fodd bynnag, mae'r ymchwil yn amcangyfrif na chafodd yr un ohonynt ei ddigolledu'n llawn.

Mae'r ymchwilwyr yn amcangyfrif bod y project cadwraeth wedi effeithio'n negyddol ar 27,000 o bobl. Mae'r rhain yn bobl eithriadol o dlawd yn ôl pob ffon fesur.

Mae costau gwirioneddol i gadwraeth fel yr esbonia'r Dr Sarobidy Rakotonarivo, ymchwilydd Malagasy sy'n ymwneud â'r ymchwil, : "Yn aml iawn y rhai sy'n clirio tir ar gyfer amaeth yw'r rhai sydd yn y cyni mwyaf o ran bwyd. Ar ben y costau economaidd o fethu â thyfu bwyd i fwydo'r teulu, mae'r bobl leol hefyd yn dioddef o dan y rheolau sy'n gorfodi cadwraeth. Rwyf wedi clywed am bobl yn cael eu harestio a'u cadw o dan amodau ofnadwy am dyfu pethau ar fraenar y goedwig; tir y maen nhw'n teimlo fod ganddynt hawliau hynafol drosto. Mae carchardai'r wlad yn llefydd annymunol iawn, ac mae hyn yn dangos pa mor enbyd yw hi ar bobl. "

Roedd yr iawndal a gynigiwyd ar ffurf cymorth datblygu amaethyddol. Er bod llawer o bobl yn gwerthfawrogi'r cymorth, doedd dim digon o bobl yn ei dderbyn, ac nid y rhai mwyaf anghenus a oedd yn ei gael chwaith, ac roedd gwerth y cymorth yn isel iawn o'i gymharu â chostau cadwraeth.

Mae bioamrywiaeth coedwigoedd glaw dwyrain Madagascar yn anhygoel. Dyma indri (y lemwr mwyaf ym Madagascar).: Credyd: JPG JonesMae bioamrywiaeth coedwigoedd glaw dwyrain Madagascar yn anhygoel. Dyma indri (y lemwr mwyaf ym Madagascar).: Credyd: JPG JonesMae'r Athro Julia Jones, un o'r ymchwilwyr, yn awgrymu y dylai iawndal priodol, effeithiol fod yn fforddiadwy. "Er bod ein canlyniadau'n dangos nad yw'r polisïau sy'n addo digolledu cymunedau am gost cadwraeth yn cael eu cyflawni, nid mater o lygredd yw hyn. Does dim arian wedi mynd ar goll. Y gwir amdani yw nad yw'r byd ar hyn o bryd yn talu digon i sicrhau bod pobl leol dlawd yn cael eu digolledu'n iawn. Rydym yn dangos, pe bai'r gwledydd cyfoethog yn fodlon talu cost gymdeithasol carbon yn llawn, fe allai iawndal priodol fod yn fforddiadwy. "

Ychwanega'r Athro Jones: "Mae'r canlyniadau yma'n anodd i'w cyflwyno. Rwy'n llwyr grediniol bod gwarchod fforestydd glaw Madagascar yn hynod bwysig (i Fadagascar ac i'r byd) ac rwy'n adnabod llawer o bobl ymroddedig a gweithgar iawn sy'n gweithio ym maes cadwraeth ym Madagascar. Nid yw hyn yn feirniadaeth arnyn nhw. Fodd bynnag, os yw'r gymuned ryngwladol yn tanwario ar wir gost cadwraeth, yna yn y bon mae'r byd cyfoethog yn ei hanfod yn cymryd mantais ar drigolion tlawd y coedwigoedd; ac yn cael y manteision i gyd tra maen nhw'n ysgwyddor gost. "

Seiliwyd y casgliadau ar gyfweliadau manwl gyda sampl o 603 o bobl o sawl cymuned dros gyfnod o fwy na 2 flynedd. Roedd y gwaith maes yn ddwys iawn ac ymwelwyd â'r cartrefi hyd at dair gwaith dros gyfnod yr astudiaeth.

Mae'r ymchwilwyr yn nodi bod cau pobl leol allan o ardaloedd gwarchodedig yn gallu creu problemau eraill. Mae'n amgylcheddol anghyfiawn, ac mae colledion heb eu digolledu'n gallu achosi gwrthdaro rhwng y cadwraethwyr a'r bobl leol. Mae'n rhaid cydweithredu er mwyn rheoli'r ardaloedd gwarchodedig yn iawn yn y tymor hir.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2018