Ydych chi'n gwybod beth sydd yn eich bodiau pysgod? Mae yn y genynnau

Mae offer datgelu DNA yn chwyldroi'r ffordd y caiff stociau pysgod byd-eang eu diogelu a'u hadnabod. Mae’n awr yn bosibl adnabod rhywogaeth pysgodyn ar unrhyw adeg o'r rhwyd at gynnyrch briwsion bara yn y rhewgell, ac mae'r offer yma'n ddigon grymus i ddatgelu lle y daliwyd y pysgodyn, neu i ba grŵp o bysgod yr oedd yn perthyn.

Mae pysgod yn brif ffynhonnell fwyd i gymunedau ar draws y byd ac maent yn un o'r bwydydd a fasnechir fwyaf yn y byd. Serch hynny, mae cyfran sylweddol o stociau pysgod wedi cael eu hecsbloetio'n llawn neu eu wedi'u gor-ecsbloetio, mae pysgota anghyfreithlon yn parhau i fod yn broblem remp, ac mae acwafeithrin, er gwaethaf yr angen amdano, yn aml yn annigonol neu'n anghynaladwy.

Mae'r dulliau newydd ar sail geneteg yn dechrau chwarae rhan allweddol wrth ymdrin â'r problemau hyn drwy chwyldroi cadwraeth a rheoli adnoddau naturiol pysgod.

Arweinwyr a mudiadau o bedwar ban byd yn cyfarfod i ddiogelu stociau pysgod gwyllt

Mae gwyddonwyr amlwg o 24 o genhedloedd ymysg y cynrychiolwyr sy'n bresennol mewn symposiwm rhyngwladol o bwys, a gefnogir gan Gymdeithas Pysgodfeydd Ynysoedd Prydain (FSBI), ym Mhrifysgol Bangor, Cymru yr wythnos hon (18-22 Gorffennaf). Bydd y cynrychiolwyr yn Fish, Genes and Genomes: Contributions to Ecology, Evolution and Management yn trafod gwerth yr offer newydd yma ar sail dilyniannu DNA, neu genomeg fel y'i gelwir, i bysgodfeydd ac yn rhannu gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf yn nulliau genomeg mewn pysgodfeydd ac acwafeithrin.

Mae'r datblygiadau hyn wedi cynnig cyfleoedd newydd ac effeithiol i ymdrin â heriau o bwys mewn cynaliadwyedd, rheolaeth, cadwraeth a llywodraethu pysgodfeydd.

Eglura Gary Carvalho, Athro Ecoleg Foleciwlaidd ym Mhrifysgol Bangor a Chynullydd y DU y Symposiwm:

"Mae stociau pysgod môr byd-eang yn parhau i fod gwerth oddeutu US$80-US$85 biliwn yn flynyddol, ond mae cyrff rhyngwladol yn nodi bod llawer o bysgodfeydd eisoes wedi'u darwagio neu mewn dirywiad llym ym mhob rhan o'r byd fwy neu lai. Mae bygythiadau megis newid hinsawdd, gor-bysgota a newidiadau i gynefinoedd, ynghyd â defnydd cynyddol o bysgod gwyllt i gynnal acwafeithrin, yn golygu bod bywoliaethau mewn nifer o gymunedau arfordirol dan fygythiad yn ogystal â diogelwch bwyd yn fyd-eang."

"Mae'r offer newydd yma'n ein galluogi i adnabod poblogaethau pysgod cyfain, drwy eu llofnodion DNA unigol, yn debyg i grwpiau ethnig neu ddaearyddol o fodau dynol, neu i olrhain cynnyrch pysgod yn ôl i'w grŵp poblogaeth. Gymaint yw sensitifrwydd y dulliau genetig newydd ei bod yn awr hyd yn oed yn bosib cymryd bwced o ddŵr o'n cefnforoedd, echdynnu'r DNA, ac adnabod nid yn unig rywogaethau unigol, ond cymuned gyfan, ar sail olion o groen neu gennau, a deunyddiau biolegol eraill a ryddheir yn yr amgylchedd.

Mae DNA amgylcheddol, neu "e-DNA", yn ddull arbennig o gyffrous am ei fod yn caniatáu i wyddonwyr astudio rhannau o gymunedau morol sy'n cynnig bwyd a lloches i lawer o stociau pysgod, yn ogystal â gallu asesu'n gyflym gyflwr iechyd ecosystem, sy'n cyflawni nifer o wasanaethau megis amsugno carbon deuocsid, ailgylchu maetholion, a rhyddhau ocsigen i'r atmosffer."

Sicrwydd defnyddwyr

Gall defnyddwyr bellach siopa gyda'r hyder o wybod bod y pysgod maent yn eu prynu wedi'u labelu'n gywir a'u pysgota'n gyfrifol.

Mae sicrwydd defnyddwyr ar gynaliadwyedd eu bwyd môr yn hanfodol i'r Cyngor Stiwardiaeth Forol (MSC). Mae label glas yr MSC yn cael ei ddefnyddio'n unig ar gyfer cynhyrchion pysgod a bwyd môr a ellir eu holrhain i bysgodfeydd sy'n cwrdd â meini prawf caeth yr MSC ar gynaliadwyedd. Trwy'r holl gadwyn gyflenwi, rhaid i fusnesau nodi cynhyrchion yn gywir, didoli cynnyrch sydd wedi'i ardystio gan yr MSC oddi wrth gynnyrch nad yw wedi'i ardystio, a chael trefn olrhain mewn lle cyn derbyn ardystiad Cadwyn Cystodaeth yr MSC. Ers 2009, mae'r MSC wedi gweithio gyda labordai annibynnol i gynnal profion DNA ar gannoedd o gynhyrchion o bob cwr o'r byd fel mesur cyflenwol i ddiogelu integredd bwyd môr yr MSC rhag amnewid rhywogaethau posib a cham-labelu. Yn fwyaf diweddar, yn 2015, mewn sampl a gasglwyd ar hap o 257 o gynhyrchion manwerthu â labeli'r MSC o 16 o wledydd dim ond un achos o gam-labelu a ganfuwyd. Yn gyffredinol, nid yw cyfradd cam-labelu cynnyrch yr MSC erioed wedi bod yn uwch nag 1%.

Dywed Jaco Barendse, Rheolwr Integredd ac Olrheiniadwyedd Cynnyrch yr MSC, a fydd yn cyflwyno papur yn y Symposiwm:

"Mae'r defnydd o offer moleciwlaidd fel profion DNA yn ychwanegu lefel ychwanegol o graffu at Safon Cadwyn Cystodiaeth yr MSC. Yn y diwydiant gwasanaeth bwyd, lle mae cyfraddau cam-labelu dros 30% yn gyffredin, rydym yn falch bod profion DNA yn cadarnhau hygrededd cynhyrchion sydd wedi'u labelu gan yr MSC. Mae'r gwaith ymchwil a datblygu parhaus ar dechnegau DNA a chysylltiedig yn hynod o bwysig i'r MSC er mwyn caniatáu monitro integredd cynnyrch mewn mwy o wledydd, ac ar gyfer amrywiaeth ehangach o rywogaethau a chynnyrch."

Integreiddio i bolisi a fframweithiau cyfreithiol

Dwy enghraifft o weithredu'n dwyllodrus yn y sector pysgodfeydd yw gwerthu ffiledau morfleiddiaid isel eu cost fel ffiledau lledod chwithig drud a hawlio bod penfras sydd wedi'i ddal ym Môr y Gogledd yn deillio o Fôr y Baltig.

Amcangyfrifir bod pysgota anghyfreithlon yn werth 10 biliwn o ewros y flwyddyn yn fyd-eang. Mae'r gweithgaredd troseddol hwn yn effeithio'n negyddol ar yr economi byd-eang, yn tarfu ar ecosystemau morol, ac yn niweidio cymunedau pysgodfeydd a defnyddwyr. Heb gydymffurfiad â'r rheolau presennol mae pysgodfeydd cynaliadwy yn amhosib. Gall technolegau moleciwlaidd sy'n seiliedig ar eneteg a genomeg gynnig atebion clir i gwestiynau megis "o ba rywogaethau y daw'r cynnyrch pysgod hwn... lle daliwyd y pysgodyn hwn... a ydyw'n wyllt neu wedi'i ffermio?" Mae'r gallu i ateb y cwestiynau hyn yn ased o bwys i gynlluniau olrheinradwyedd yn ogystal â rheoli a gorfodi'r gyfraith ar bysgodfeydd. Yr hyn sy'n brif her yw trosglwyddo technolegau arloesol o'r fath i arferion pob dydd i gefnogi'r frwydr yn erbyn twyll pysgodfeydd a sicrhau bod defnyddwyr yn cael yr hyn maent yn talu amdano ac yn gwybod beth maent yn ei fwyta.

Caiff hyn ei gyflawni'n ddelfrydol trwy sicrhau bod polisi a fframweithiau cyfreithiol yn cyfeirio at dechnolegau o'r fath.

Dywedodd Jann Martinsohn, o Ganolfan Ymchwil ar y Cyd y Comisiwn Ewropeaidd, ac aelod o bwyllgor ymgynghorol y symposiwm:

“Mae'n arwyddocaol fod Rheoliad Rheoli (CE) 1224/2009 Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd yn cyfeirio yn Erthygl 13 yn benodol at ddadansoddiad genetig i gefnogi olrheinadwyedd. Mae'r cynnig i gyfeirio at eneteg yn Rheoleiddiad Rheoli'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn deillio'n ôl at y cydweithrediad a'r ddeialog ardderchog rhwng y Comisiwn Ewropeaidd, budd-ddeiliaid a gwyddonwyr, a hefyd at gyfraniad Prifysgol Bangor. Yn y cyfamser mae'r nifer o enghreifftiau lle mae dadansoddiad DNA yn cefnogi rheolaeth pysgodfeydd yn cynyddu ac yn ddiamau bydd symposiwm yr FSBI yn gwneud cyfraniad helaeth at wella trosglwyddiad technoleg ymhellach."

Monitro a rheoli poblogaethau pysgod gwyllt

Mae gwyddonwyr bellach yn gallu symud tu hwnt i adnabod rhywogaethau at asesu eu tarddle yn y cefnfor. Mae hyn yn bwysig o ran rheoli poblogaethau pysgod mewn rhanbarthau lleol, yn hytrach na'r rhywogaeth yn ei chyfanrwydd. Er enghraifft, trwy olrhain penfras yn ôl i'w mannau claddu wyau mae'n bosib dweud p'un ai fod pysgodyn yn dod o Fôr y Baltig, Môr y Gogledd neu Wlad yr Iâ; mater sy'n effeithio ar gynaliadwyedd pysgodfeydd a hawliau pysgota.

Yn fwy diweddar, mae'r un technegau yn dechrau cael eu cymhwyso at olrhain pysgod sydd wedi dianc o brojectau acwafeithrin mewn project Ewropeaidd o'r enw Aquatrace.

Fel yr eglura Dr Rob Ogden o Rwydwaith Fforensig Bywyd Gwyllt TRACE:

"Gall defnyddio proffilio DNA ar bysgod i'n hysbysu a yw pysgodyn unigol o'r gwyllt neu o ffarm bysgota, ein cynorthwyo i ddeall graddfa'r ffoaduriaid ac asesu eu heffaith ar boblogaethau naturiol. Mae Aquatrace yn defnyddio dadansoddiad genom o ferfogiaid môr, draenogiaid y môr, lledod Thor, eogiaid a brithyll brown i werthuso risg ffoaduriaid a darparu offer DNA i'w hadnabod.”

Mae asesu maint poblogaeth yn gyflym trwy ddefnyddio dulliau geneteg yn cael ei brofi ar gyfer rhywogaethau siarcod a chathod môr er mwyn dylanwadu'n uniongyrchol ar benderfyniadau polisi. Amcangyfrifir bod hyd at chwarter y grŵp rhywogaeth dan fygythiad yn fyd-eang. Gan fod diffyg data ac asesiadau hanesyddol yn peri her i bysgodfeydd bychain a rhai sydd wedi'u sefydlu'n ddiweddar, mae monitro e-DNA yn cynnig ateb effeithiol.

Mae'r dull yn cael ei ddefnyddio i amcangyfrif y boblogaeth siarcod llewpart (Stegastoma fasciatum) yn nwyrain Awstralia ac wedi profi'n gywir yn erbyn dulliau confensiynol, a chanfuwyd hynny hefyd am siarcod gwyn (Carcharias carchardon) yn Ne Affrica. Mae Jenny Ovenden o Brifysgol Queensland, Awstralia, siaradwr yn y Symposiwm, yn defnyddio amcangyfrifon genetig i asesu statws pysgodfeydd siarcod bar tywod (Carcharhinus plumbeus) a siarcod tywyll (C. obscurus) yn nwyrain Awstralia ac i gynorthwyo gyda chadwraeth cathod môr manta (Manta alfredi) yn rhanbarth Awstralasia.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2016