Canfod yr hormon sy'n gyfrifol am daith ymfudo anhygoel Cranc Coch Ynys y Nadolig

Un o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol ar y ddaear o anifeiliaid yn mudo yw taith cranc coch Ynys y Nadolig , Gecarcoidea natalis. Bob blwyddyn ar ddechrau tymor y glaw trwm, ddiwedd Tachwedd neu ddechrau Rhagfyr, bydd degau o filoedd o'r crancod (sy'n frodorol i'r ynys hon) yn dechrau ar daith gerdded sawl cilometr trwy goedwig glaw Ynys y Nadolig, ynys fechan yng nghefnfor India ger Java, gan gyrraedd y môr o'r diwedd lle maent yn paru ac yn silio.

Mae cyllid sylweddol gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol wedi galluogi Prifysgolion Bangor a Bryste i gynnal project ymchwil tair blynedd i ymchwilio i fecanwaith y mudo anhygoel hwn sy'n 'newid byd' llwyr i'r crancod.
Mae'r project, sydd bellach yn tynnu i'w derfyn, wedi datgelu gwybodaeth eithriadol o ddiddorol am swyddogaeth hormon yn nhaith flynyddol y cranc.

Dewiswyd y cranc coch gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor er mwyn astudio hormon na wyddys fawr ddim amdano, ac oedd yn eu tyb hwy'n gyfrifol am y newid trawiadol yn ymddygiad y cranc.

"Mae'r mudo yn gofyn am egni eithriadol, gan fod yn rhaid i'r crancod gerdded nifer o gilometrau dros ychydig ddyddiau. Yn ystod cyfnodau eraill, mae'r crancod yn weddol segur ac yn aros yn eu tyllau ar lawr y goedwig glaw, gan ddod i'r golwg am gyfnod byr yn unig pan fydd y wawr yn torri, i fwydo. Mae'r newid ymddygiad yn adlewyrchu newid sylfaenol yn statws metabolaidd yr anifail" eglura'r endocrinolegydd, yr Athro Simon Webster, o Brifysgol Bangor.

Mae'r gwyddonwyr wedi profi bod yr hormon cramennog hyperglycaemig yn ganolog i'r mudo. Profwyd bellach ei fod yn allweddol bwysig am ei fod yn galluogi'r crancod i wneud y defnydd mwyaf effeithlon o'r egni sydd wedi ei gadw yn y cyhyrau (glycogen), a'i drosi'n glwcos i roi nerth iddynt i fudo.

Rhan gyntaf gwaith yr Athro Simon Webster a'i ymchwilydd Mrinalini yn Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol oedd datblygu dulliau imiwnocemegol sensitif iawn i fesur y lefelau dychrynllyd o fach (dim ond ychydig gannoedd o filoedd o foleciwlau) o hormon hyperglycaemig yng ngwaed y crancod. Roedd y dull hwn 100 gwaith yn fwy sensitif na dulliau blaenorol ac roedd angen tynnu beth oedd yn cyfateb i ddiferion gwaed o'r crancod i'w profi.

"Yna aethom i Ynys y Nadolig i weithio yn y goedwig glaw, yn y tymhorau sych a gwlyb, yn cymryd samplau gwaed o'r crancod yn ystod y dydd a'r nos, a chael ein bwyta'n fyw gan fosgitos, a monitro ymddygiad y crancod yn eu hamgylchedd naturiol.

"Beth oedd yn dipyn o syndod oedd bod lefelau'r hormon hyperglycaemig yn is mewn crancod pan oeddent yn mudo na phan oeddent yn segur yn ystod y tymor sych. Daeth goleuni ar y dryswch ar ôl i ni roi chwistrelliad o glwcos i grancod ac yna eu hannog i redeg a cherdded. Yn ystod y tymor sych, gwelwyd bod y crancod, ar ôl gorfod symud, yn rhyddhau llawer iawn o hormon, o fewn dau funud, pa un oeddent wedi cael chwistrelliad ai peidio. Ond yn y tymor gwlyb, roedd chwistrelliad o glwcos yn eu hatal rhag cynhyrchu unrhyw hormon oedd yn ddibynnol ar ymarfer - yn dangos iddynt gael eu rheoli gan ddolen adborth negyddol. Roedd yn amlwg mai'r lefelau glwcos oedd yn rheoli faint o'r hormon oedd yn cael ei ryddhau'r adeg hon. Mae hyn yn gwneud synnwyr oherwydd mae'n sicrhau pan fydd y crancod ar symud, bod y glwcos yn cael ei ryddhau o'r storfa dim ond pan fydd lefel y glwcos yn isel, ac felly'n gwneud defnydd darbodus o storfa werthfawr y cranc o glycogen, a sicrhau trwy hynny y gallant gyrraedd pen y daith.

Roedd ein harbrofion yn bwysig hefyd i niwroendocrinolegwyr infertebrat gan eu bod yn dangos pa mor ddynamig yw prosesau rhyddhau hormonau -- mae hormon hyperglycaemig yn cael ei ddiraddio yn y gwaed mewn ychydig o funudau'n unig, felly rhaid i'r hormon gael ei ryddhau ar yr union adeg gywir, fel arall byddai'n gwbl ddiwerth fel negesydd cemegol!"
Dilynwch y linci i BangorTV i ganfod mwy..

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Awst 2010