Cloddfa archeolegol yn agor i'r cyhoedd ar gyfer Gŵyl Archaeoleg Prydain

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ymweld â chloddfa archeolegol Meillionydd ger Rhiw dros y penwythnos, i weld  beth sydd wedi ei darganfod gan yr archeolegwyr myfyrwyr a gwirfoddolwyr.Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ymweld â chloddfa archeolegol Meillionydd ger Rhiw dros y penwythnos, i weld beth sydd wedi ei darganfod gan yr archeolegwyr myfyrwyr a gwirfoddolwyr.Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i ymweld â chloddfa archeolegol sy'n unigryw i ogledd orllewin Cymru, ger Rhiw ym Mhen Llŷn y penwythnos hwn (15-16 Gorffennaf).

Mae archeolegwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn cloddio ‘Project Meillionydd’ (http://meillionydd.bangor.ac.uk/index.php.cyer 2010, dan arweiniad yr Athro Raimund Karl, Dr Kate Waddington a Katharina Möller o Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Bangor, ac maent yn cymryd rhan yng Ngŵyl Archaeoleg Cyngor Archaeoleg Prydain (www.archaeologyfestival.org.uk).

Fel rhan o benwythnos o ddyddiau agored, bydd ymwelwyr yn gallu ymuno ag un o’r teithiau o amgylch y safle (yn Saesneg neu Gymraeg) a gweld rhai o'r eitemau a ddarganfuwyd eleni ac mewn blynyddoedd blaenorol. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan yr ŵyl (http://www.archaeologyfestival.org.uk/events/2736) ac ar dudalen Facebook y project.  

Disgrifir Meillionydd fel lloc cylch dwbl o’r Oes Efydd Hwyr/Oes yr Haearn ac mae'n fath o anheddiad sy'n unigryw i ogledd orllewin Cymru.  Gwyddys am naw anheddiad arall o'r fath ym Mhen Llŷn ac am ddau yn Ynys Môn.

Mae’r cloddio yn ei wythfed tymor erbyn hyn ac mae'r gwaith wedi datgelu gwybodaeth ddiddorol am y gorffennol, er enghraifft, eleni darganfuwyd slag o’r broses cynhyrchu gwydr ar y safle, sy'n awgrymu bod y gleiniau gwydr a ddarganfuwyd yn ystod gwaith cloddio blaenorol wedi eu creu ar y safle. Mae'r gwaith y tymor hwn yn canolbwyntio ar ogledd ddwyrain y safle. Mae’r clawdd allanol ac olion o dai crwn eisoes i’w gweld yn glir.

Meddai'r archeolegydd Katharina Möller:

"Mae dyddio radiocarbon wedi dangos bod pobl wedi bod yn byw neu'n gweithio ar y safle am oddeutu 500 mlynedd, o'r 8fed ganrif CC hyd at y 3ydd ganrif CC. Yn ystod y cyfnod hwn, newidiodd yr anheddiad ym Meillionydd o fod yn safle heb ei amgáu i un â lloc pren.  Ymhen amser, adeiladwyd dau glawdd o bridd a cherrig yn lle'r lloc pren. Tua’r un amser, codwyd tai crwn o gerrig yn lle’r tai pren. Rhwng popeth, mae’r gwaith ar y safle wedi datgelu o leiaf wyth cyfnod adeiladu ac amryw o is-gyfnodau.”

Yn ogystal â’r nodweddion archeolegol sydd mewn cyflwr da, megis y tai crwn, mae’r tîm o archeolegwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr, sy'n dod o bob cwr o’r byd, wedi darganfod eitemau megis gleiniau gwydr addurnedig, darn o freichled muchudd a throellennau cogail wedi eu haddurno.

“Mae'r safle yn gyffrous iawn o ran ymchwil, ond mae Meillionydd hefyd yn rhoi cyfle gwych i fyfyrwyr ddechrau ar yrfa broffesiynol mewn archaeoleg maes, gan y caiff y project ei ddefnyddio hefyd i hyfforddi myfyrwyr a gwirfoddolwyr,” meddai Nebu George, myfyriwr Prifysgol Bangor sy'n aelod o dîm Meillionydd ers tro bellach.

“Mae’r safle’n nodweddiadol am ei natur amlddiwylliannol gan fod yma fyfyrwyr a gwirfoddolwyr o Brifysgol Bangor a phrifysgolion eraill ym Mhrydain, Prifysgol Fiena, a gwirfoddolwyr o America, Awstralia, Awstria, Brasil, Hwngari, yr Iseldiroedd, Sweden, a’r Swistir. Mae nifer o fyfyrwyr hefyd wedi defnyddio'r profiad a gawsant ym Meillionydd i ddechrau ar yrfa ym maes archaeoleg fasnachol."

 

Mae'r teithiau'n digwydd rhwng 10.00-4.00

Cyfesurynnau Google:52.829729,-4.641886

Cyfarwyddiadau o Bwllheli: cymerwch y A499  tuag at Lanbedrog. Dilynwch y B4413 to Aberdaron  nes i chi gyrraedd Botwnnog. Trowch i'r chwith mewn i lon fechan, wrth gapel ar gychwyn y pentref a dilynwch y lôn nes i chi gyrraedd y safle. Bydd y safle ar eich de.

 

 

 

 

 

e

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2017