Cynhadledd bwysig ynghylch Cynaliadwyedd Môr Iwerddon

Mae cynhadledd bwysig wedi’i chynnal ynghylch rheoli pysgodfeydd ym Môr Iwerddon. Daeth arbenigwyr ac academyddion o Gymru, Iwerddon ac Ewrop ynghyd ar ei chyfer.

Trafodwyd sawl mater yn ystod y 4SeaConference a gynhaliwyd yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno gan gynnwys cynaliadwyedd stociau pysgod cregyn yn y dyfodol ac effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd. Bu’n bosibl cynnal y gynhadledd drwy gymorth gan raglen Drawsffiniol Cymru ac Iwerddon yr UE. 

Daeth arbenigwyr ym maes gwyddoniaeth, cynrychiolwyr o ddiwydiant a defnyddwyr eraill Môr Iwerddon ynghyd yn y gynhadledd er mwyn trafod canllawiau ynghylch addasu a lliniaru ar gyfer rheoli Môr Iwerddon yn y dyfodol a sicrhau defnydd cynaliadwy ohono. Bydd canlyniadau’r gweithdai a gynhaliwyd yn llywio polisïau yn y dyfodol ynghylch Môr Iwerddon.

Dywedodd y Weinidog Adnoddau naturiol a Bwyd, , Alun Davies: 

“Bydd holl ystod yr arbenigedd sydd wedi dod ynghyd ar gyfer y gynhadledd hon o gymorth mawr wrth ddatblygu strategaethau ymarferol ynghylch cynaliadwyedd economaidd a chynaliadwyedd amgylcheddol yr adnodd hollbwysig hwn a rennir. Bydd y cyfraniadau yn allweddol ac yn sail i ddeddfwriaeth yn y dyfodol, polisïau a dulliau rheoli Môr Iwerddon.”

Ymysg siaradwyr y gynhadledd roedd:

•Mr Ian Shepherd – y Comisiwn Ewropeaidd

•Mr Geoffrey O’Sullivan, Sefydliad Morol Iwerddon

•Dr Michael Bell, Prifysgol Heriot-Watt

•Dr Simon Neill, Prifysgol Bangor

•Yr Athro Andrew Rowley, Prifysgol Abertawe

•Dr Matthew Longshaw, Canolfan Wyddonol Pysgodfeydd a Dyframaethu

•Dr Sarah Culloty, Coleg Prifysgol Cork

Trefnwyd y gynhadledd gan SUSFISH sef prosiect cydweithredol tair blynedd sydd wedi canolbwyntio ar gynaliadwyedd Môr Iwerddon.

Caiff ei hariannu gan raglen Trawsffiniol Cymru Iwerddon a’i rheoli gan Gynulliad Rhanbarthol De a Dwyrain Iwerddon (SERA) mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen yn ariannu cyfanswm o 41 o brosiectau ac mae’n derbyn tua £40m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ar hyn o bryd er mwyn datblygu gweithgareddau ar y cyd a fydd yn hybu twf economaidd a sgiliau a hefyd yn diogelu’r amgylchedd ar ddwy ochr Môr Iwerddon.

Mae Prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Cork ac Abertawe ynghyd ag arbenigwyr o feysydd amrywiol iawn ynghlwm wrth y prosiect SUSFISH.

Dywedodd Dr Shelagh Malham, Cyfarwyddwr Prosiect ym Mhrifysgol Bangor:

“Trwy gefnogi’r prosiect SUSFISH mae rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Cymru ac Iwerddon wedi pwysleisio pwysigrwydd cydweithio ar draws Môr Iwerddon er mwyn ceisio datrys problem newid yn yr hinsawdd sy’n gyffredin i bawb. Dengys canlyniadau’r prosiect fod disgwyl i’r newid yn yr hinsawdd newid cerrynt y môr a’r man y caiff larfau pysgod cregyn eu cludo. Ymddengys fod newidiadau mewn tymheredd ac asideiddio yn cael effaith lefel isel ar organebau a gallai eu clefydau effeithio ar botensial economaidd Môr Iwerddon. Bydd modd creu canllawiau ynghylch rheoli yn y dyfodol yn sgil y gynhadledd er mwyn sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol a chynaliadwyedd economaidd Môr Iwerddon.”

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2013