Ar ôl cyrraedd
- Y peth cyntaf fydd rhaid i chi ei wneud ar ôl cyrraedd Prif Adeilad y Brifysgol yw mynd i’r 'ardal fewngofnodi', sydd mewn pabell fawr tu allan i'r prif adeilad ar Ffordd y Coleg. Bydd staff a myfyrwyr ar gampws y gwyddorau ar Ffordd Deiniol yn eich cyfeirio at y bysiau parcio a chludo - neu gallwch gerdded trwy adeilad Pontio ac i fyny'r bryn i'r prif adeilad.
- Pan fydd y meysydd parcio ar gampws y gwyddorau ar Ffordd Deiniol yn llawn - neu os byddwch yn cyrraedd ar ôl 10.30am - ewch yn syth i'r prif adeilad ar Ffordd y Coleg lle gwnaiff aelodau staff eich cyfeirio at y lleoedd parcio ceir sydd ar gael.
- Ar ôl cyrraedd y prif adeilad ar Ffordd y Coleg, ewch i’r 'ardal fewngofnodi' yn y babell fawr. Bydd staff yno i'ch cyfarch a'ch cyfeirio at ran nesaf eich diwrnod.
- Ar ôl i chi fewngofnodi gyda staff yn y babell fawr, os byddwch yn ansicr ynglŷn â ble i fynd neu beth i'w wneud nesaf, gofynnwch i unrhyw un fydd naill ai’n gwisgo crys-t Bangor piws (myfyrwyr) neu grys-t gwyrddlas Bangor (aelodau staff).
- Byddwn yn darparu fersiwn brintiedig o'r rhaglen i chi i’w defnyddio trwy gydol y dydd.
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG