Bydd cynllunio ymlaen llaw yn dy helpu i wneud y mwyaf o'r Diwrnod Agored. Dyma atebion i gwestiynau cyffredin i dy helpu i baratoi ar gyfer dy ymweliad. Gobeithiwn y byddi'n mwynhau ein campws hardd ac yn cael Diwrnod Agored gwych ym Mhrifysgol Bangor!
Cwestiynau Cyffredinol
Mae Diwrnod Agored Prifysgol Bangor yn cynnwys:
- Sgyrsiau am y pynciau rydym yn eu cynnig a’r profiad o astudio ym Mangor
- Cyfleoedd i gwrdd â staff academaidd a myfyrwyr presennol
- Teithiau o amgylch y campws a’r llety
- Gwybodaeth am gymorth i fyfyrwyr, cyllid a gyrfaoedd.
Penderfyna ymlaen llaw pa weithgareddau a sgyrsiau i'w mynychu. Mae sgyrsiau pwnc yn cael eu cynnal trwy gydol y dydd, felly bydd cyfle i fynd i fwy nag un cyflwyniad pwnc o ddiddordeb.
Fel arfer, mae Diwrnodau Agored yn rhedeg rhwng 9.00am a 4.00pm, gyda sesiynau yn cael eu cynnal ar wahanol adegau. Edrychwch ar y rhaglen ymlaen llaw er mwyn gwneud y gorau o’ch ymweliad.
Bydd, mae ein Diwrnodau Agored yn boblogaidd ac yn denu niferoedd mawr. Gall rhai sesiynau gyrraedd eu capasiti, felly dewch yn gynnar a byddwch yn hyblyg gyda'ch cynlluniau.
Er bod rhan fwyaf o adeiladau’r Brifysgol o fewn pellter cerdded i’r prif adeilad lle byddwch yn cofrestru ar ôl cyrraedd, byddwch yn synnu faint o waith cerdded byddwch yn ei wneud yn ystod diwrnod agored felly gwisgwch esgidiau cyffyrddus y byddwch yn hapus i gerdded ynddynt trwy’r dydd. Ni allwn addo tywydd braf chwaith - felly dewch â chôt neu siaced gyda chi.
Os nad ydych yn gallu mynychu unrhyw un o'r Dyddiau Agored am unrhyw reswm ac yr hoffech drefnu ymweliad unigol â’r Brifysgol, anfonwch e-bost at diwrnodagored@bangor.ac.uk
Sgyrsiau a Theithiau
Bydd, yn ystod y Diwrnod Agored, bydd cyfle i fynychu Sgyrsiau Pwnc, gan roi cyfle i ddysgu mwy am gyrsiau a adrannau penodol. Edrychwch ar raglen y Diwrnod Agored am fanylion llawn y Sgyrsiau Pwnc er mwyn cynllunio ymlaen llaw a gwneud y gorau o’ch ymweliad.
Paid â phoeni! Byddi yn cael dy gyfeirio at sesiwn arall fel Sgwrs yr Is-Ganghellor, cyflwyniad ar Lety, neu un o'n teithiau campws. Mae llawer o weithgareddau yn cael eu hailadrodd trwy gydol y dydd.
Oes, gall mynychu cyflwyniad pwnc yn y prynhawn fod yn dawelach, gan roi mwy o amser i chi ofyn cwestiynau a siarad â staff a myfyrwyr.
Bydd, bydd Teithiau o'r Campws a Llety yn rhedeg yn ystod y dydd, gan eich galluogi i weld y llety yn y ddau bentref myfyrwyr a dysgu mwy am fyw ym Mangor. Sylwch fod yr ymweliadau â phentref myfyrwyr Ffriddoedd a phentref myfyrwyr Y Santes Fair yn deithiau ar wahân.
Neuadd Arddangos
Cynhelir yr arddangosfa yn Neuadd Prichard-Jones (PJ Hall, Prif Adeilad). Mae'n dod â'r holl wasanaethau cefnogol at ei gilydd mewn un lle.
Bydd modd cael mwy o wybodaeth am am y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr, am y cyfleusterau chwaraeon, a chlybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr. Bydd staff a myfyrwyr ar gael i ateb eich cwestiynau.
Llysgenhadon Myfyrwyr
Yn bendant! Bydd myfyrwyr sy'n astudio yma yn hapus i rannu eu profiadau ac ateb dy gwestiynau. Bydd Llysgenhadon Myfyrwyr hefyd mewn digwyddiadau cyffredinol fel y Teithiau Llety, ac fe allan nhw siarad â chi am fyw ac astudio ym Mangor.
Ar y Campws
Bydd yr holl leoliadau allweddol wed yn rhaglen y Diwrnod Agored. Os nad wyt yn siŵr ble i fynd, bydd staff a myfyrwyr ar gael i dy helpu.
Awgrymiadau ar gyfer y Diwrnod Agored
Oes, dyma dri awgrymiad ar gyfer y Diwrnod Agored:
- Peidiwch â thorri eich ymweliad yn fyr – ceisiwch weld cymaint ag y gallwch.
- Cymerwch nodiadau a lluniau ar eich ffôn i helpu i gofio manylion yn ddiweddarach.
- Byddwch yn hyblyg ac yn agored i archwilio sesiynau a meysydd gwahanol.