Cynhyrchu eigionegwyr blaenllaw ers mwy na 45 mlynedd

Pan oedd Tîm rygbi Cymru yn ei anterth, fe gychwynnwyd ‘myth’ am y ffatri yn y cymoedd oedd yn cynhyrchu’r chwaraewyr  (yr ‘Outside Half Factory’ bondigrybwyll), wedi’i chuddio yn nyfnderoedd y cymoedd. Y pen arall i’r wlad, mae llwyddiant sy’n parhau hyd heddiw, sefydliad sy’n cynhyrchu eigionegwyr blaenllaw ar gyfer byd real iawn ers 45 mlynedd.

Manon Francis a Iestyn WoolwayManon Francis a Iestyn WoolwayMae’r MSc mewn Cefnforeg Ffisegol Gymhwysol yn Ysgol Gwyddorau Eigion  Prifysgol Bangor yn llenwi bwlch sgiliau cydnabyddedig yn sector amgylchedd y DU, gan gynhyrchu eigionegwyr sydd, ymysg sgiliau eraill, yn fedrus o ran modelu cyfrifiadurol ac sy’n hollol rifog. (Yn ôl adolygiad gan y Cyngor Ymchwil ar y 15 sgil sydd eu hangen fwyaf yn y sector amgylcheddol, mae gallu i ymwneud â modelu cyfrifiadurol ar ben y rhestr, a rhifedd yn bedwerydd).

Mae’r cwrs MSc yn unigryw, gan iddo dderbyn cyllid gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol yn ddi-dor ers ei gychwyn, dros 45 mlynedd yn ôl.

“Mae’r cwrs yn troi’r goreuon o blith ffisegwyr a mathemategwyr yn eigionegwyr ffisegol, gan eu cyflwyno i ffiseg y cefnfor a systemau hinsawdd. Mae tri deg pump y cant o’n myfyrwyr yn cael hyd i swyddi yn y sector preifat neu gyhoeddus a’u hanner wedyn yn mynd ymlaen i astudio ar gyfer doethuriaethau,” esbonia Dr Tom Rippeth, cyfarwyddwr y cwrs a Darllenydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.

Mae’r graddedigion yn darparu sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant ynni adnewyddol, y diwydiant olew, ac ym maes cynllunio rhag perygl. Mae galw am sgiliau a swyddi i’w llenwi yn y sectorau hyn.

Mae graddedigion o’r cwrs yn gweithio mewn swyddi allweddol o fewn diwydiant a’r sector gyhoeddus yn y DU ac o amgylch y byd. Maent yn cynnwys Pennaeth presennol y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol ac aelod o’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC).

Mae myfyrwyr diweddar ar y cwrs wedi cyflawni gwaith ymchwil sydd wedi cael effaith sylweddol, ac sydd wedi ei ddisgrifio mewn cylchgronau o bwys a chan y wasg genedlaethol. Mae'r rhain yn cynnwys astudiaeth sy’n dangos bod cynnydd yn lefel y môr wedi arwain at gynnydd yng ngallu’r môr i amsugno carbon deuocsid, gwaith sy’n dangos sut y gall ffermydd llanw effeithio ar waddod ar wely’r môr, a gwaith ar welyau Cregyn Gleision Afon Menai a gyfrannodd at dystysgrif i bysgodfa cregyn gleision Afon Menai gan y Cyngor Stiwardiaeth Forol – sy’n darparu cyfwerth â 50% o bysgodfa cregyn gleision y DU.

Meddai Sophie Ward, sy’n hanu o Ruthun, ac a gwblhaodd yr MSc yn 2010: “Mae fy mhroject MSc wedi arwain yn dwt at fy mhroject doethuriaeth o ran y sgiliau rwyf wedi’u dysgu.” Roedd project MSc a phroject doethuriaeth Sophie’n dibynnu ar fodelu rhifyddol o gynnydd yn lefel y môr. Mae hi bellach yn ymchwilio ynni adnewyddol morol.

Yn ogystal â sgiliau rhifyddol ac eigioneg, mae’r cwrs hefyd yn canolbwyntio ar sgiliau trosglwyddadwy, fel ysgrifennu traethodau, sydd yn hanfodol ar gyfer gyrfa mewn gwyddoniaeth. “Roedd y MSc yn ddwys ond yn drwyadl,” ychwanegai Sophie Ward.

Meddai myfyrwraig bresennol, Manon Francis o Langefni:

“Mae’n wych medru astudio cwrs mor flaengar ar lefel fyd-eang, nad yw ond chwarter awr yn y car o ’nghartref, Mae’r cwrs yn ddiddorol, er ei fod yn waith caled ar brydiau! Rwy’n gobeithio gwneud mwy o ymchwil, ac mae gen i ddiddordeb mewn cylchrediad y cefnforoedd. Mae hwn yn faes pwysig o wyddoniaeth a all gael oblygiadau enfawr ar y blaned ac ar ddynoliaeth.”

Mae Iestyn Woolway o Borthmadog, sy’n dilyn y cwrs ar hyn o bryd, â’i fryd ar fynd i’r Arctig gyda’i waith, am ei fod yn ymddiddori ers tro yn y rhan honno o’r byd. Mae’n gobeithio dilyn doethuriaeth mewn un o ddwy brifysgol flaenllaw yn America y mae wedi gwneud cais iddynt.

Meddai Iestyn, “Mae cymaint o gyfleoedd gyrfaol yn y maes yma – gallaf ddilyn llwybr sy’n edrych ar newid hinsawdd yn yr Arctig a sut mae hynny’n effeithio ar y blaned. Ond mae newid hinsawdd hefyd yn cael effaith fawr ar yr Arctig ac mae’n cynnig nifer o gyfleoedd – fel gweithio fel ymgynghorydd i un o’r cwmnïau olew mawrion, mae cymaint o gronfeydd olew ar gael yn y rhanbarth.”

Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011