Cynnig dull newydd integredig o wneud ymchwil er mwyn datblygu sychdiroedd y byd


Mae dros 40% o arwynebedd tir y byd yn sychdir. Mae sychdiroedd yn gartref i 2.5 biliwn o bobl - bron i draean o boblogaeth y byd. Mae pobl mewn rhanbarthau sych yn gorfod ymdopi â diraddio amgylcheddol difrifol ac amrywioldeb cynyddol yn yr hinsawdd ac mae cyfraddau twf y boblogaeth sydd ymysg yr uchaf yn y byd yn gwaethygu'r sefyllfa. Mae papur sy'n torri tir newydd trwy gyflwyno dull newydd systemau integredig o wneud ymchwil amaethyddol yn y sychdiroedd wedi cael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Food Security yn ddiweddar (18.11.13).

Mae hyn yn newyddion da i 400 miliwn o bobl yn y byd sy'n datblygu sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth tir sych am eu bywoliaeth.  Ond beth sy'n wahanol?

I ddechrau mae'r awduron yn gwahaniaethu rhwng cartrefi lle mae asedau'n brin, a'u bywoliaethau'n fregus, a'r cartrefi hynny sydd ag asedau cryfach. Yn achos y grŵp cyntaf, y flaenoriaeth yw eu gwneud yn llai bregus ac yn fwy gwydn. Mae'r ail grŵp ar y llaw arall mewn lle da i elwa o amaethu dwysach cynaliadwy, fyddai'n canolbwyntio ar wella cynhyrchiant fesul uned o dir a dŵr.

“Mewn gwirionedd ceir cartrefi ar hyd y continwwm o wydnwch a chynhyrchiant isel i wydnwch a chynhyrchiant uchel" meddai Dr Fergus Sinclair, o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor ac un o awduron y papur, " ond rhaid i bobl fregus groesi trothwy cyn y gallant fuddsoddi mewn cynhyrchu mwy, yn hytrach na'u hamddiffyn eu hunain rhag y math o sefyllfa drychinebus a chwalodd fywydau tua 10 miliwn o bobl yn y sychdwr yn Nwyrain Affrica dim ond ychydig o fisoedd yn ôl."

Mae'r papur newydd hwn yn cynnig dull ymchwil ar gyfer datblygu sy'n cyfuno gweithredu llorweddol a fertigol ar hyd yr holl lwybrau effaith. Mae cyfuno llorweddol yn golygu gweithio ar draws sectorau dŵr, ynni, amaeth ac amgylchedd, tra bo cyfuno fertigol yn cyfeirio at weithio ar draws graddfeydd o'r cae a'r fferm i'r dirwedd a'r rhanbarth, sydd yn aml wedi eu cysylltu gan fecanweithiau traws-raddfa megis marchnadoedd sy'n cysylltu ffermwyr mewn ardaloedd sych yn Affrica â defnyddwyr yng Nghymru.

"I deuluoedd gwledig" meddai Sinclair 'mae cysylltiad agos iawn rhwng bwyd, dŵr ac ynni ond yn aml maent yn cael eu rheoli gan sefydliadau gwahanol yn lleol ac yn genedlaethol. Mewn ardaledd sych, mae rhyngweithio pwysig yn digwydd ar draws graddfeydd. Er enghraifft mae bugeiliaid yn symud eu da ar draws tirweddau lle mae pobl eraill yn tyfu cnydau."

Mae'n dyst i'r ymrwymiad i integreiddio bod y papur wedi ei ysgrifennu gan ugain o wyddonwyr ar draws canolfannau tir sych, amaeth-goedwigaeth, cnydau, bioamrywiaeth, da byw a rheoli dŵr y CGIAR (partneriaeth fyd-eang sy'n uno cyrff sy'n ymwneud ag ymchwil i greu sicrwydd bwyd yn y dyfodol) a'u partneriaid datblygu.

"Er mwyn sicrhau cynaliadwyedd," meddai Sinclair "nid yn unig mae angen i ni gynhyrchu mwy o fwyd ond rhaid gwneud hynny mewn ffordd sy'n gydnaws ag amddiffyn yr amgylchedd. Mewn sawl ardal yn sychdiroedd y byd mae'r tir wedi diraddio ac mae angen adfer y tir hwn ar fyrder fel y bydd yn cynhyrchu mwy, ac yn amddiffyn ardaloedd sy'n allweddol i fioamrywiaeth. Mae'r gofynion hyn yn cyfuno gweithredoedd o dan gytundebau'r Cenhedloedd Unedig i wrthweithio diffeithdiro (UNCCD) ac ar amrywiaeth biolegol (CBD).

Mae'r awduron yn mynd y tu hwnt i ddyfalu ac yn seilio eu cynnig ar gyfer ymchwil i systemau integredig ar brofiad o bedair astudiaeth achos sy'n darparu prawf o gysyniad. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu yswiriant da byw ar sail mynegai yn Kenya; gwella systemau coed-cnydau-da byw mewn modd integredig yn y Mashreq a'r Maghreb; datblygu amaeth yn yr Andes; a datblygu gwahanfeydd dŵr mewn dull integredig yn Ne Asia. Mae'r enghreifftiau hyn, ar draws pedwar cyfandir, yn darlunio pwysigrwydd cynnal agrobioamrywiaeth er mwyn sicrhau sylfaen gynhyrchu wydn a nifer o ffyrdd o ennill bywoliaeth. “Ond un mater allweddol", meddai Sinclair, "yw gallu cael effaith ar raddfeydd mawr fel bod nifer fawr o bobl yn elwa ar draws sawl hectar o dir sych. Nid yw hyn yn hawdd ac mae'n gofyn am ganolbwyntio o'r newydd ar addasu ymyriadau'n lleol er mwyn ymdopi ag amrywiaeth mewn cyd-destun ar draws parthau ar raddfa fawr." (Gweler clip fideo).

Mae'r awduron yn gosod eu menter newydd yng nghyd-destun datblygu systemau a dulliau ymchwil cyfranogol mewn amaeth dros yr hanner canrif ddiwethaf, ac yn pwysleisio pwysigrwydd ffurfiau newydd ar bartneriaeth ymysg ymchwilwyr, asiantaethau datblygu, systemau ymestyn, actorion marchnad, gwneuthurwyr polisi a'r sector breifat, i gyflawni eu haddewid o amaeth mwy gwydn a chynhyrchiol ar dir sych. Bydd mesurau sydd wedi eu hanelu'n benodol at ferched a phobl ifanc yn arbennig o bwysig o gofio bod y boblogaeth mewn ardaloedd sych yn cynyddu'n gyflym.

Mae'r erthygl ar gael yn rhad ac am ddim i bawb o dan gytundeb mynediad agored ac fe'i datblygwyd o dan ofal Rhaglen Ymchwil CGIAR ar Systemau Tir Sych o dan arweiniad ICARDA, a lansiwyd yn swyddogol yn Amman, Gwlad yr Iorddonen, ym mis Mai eleni.

 

Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2013