Cysyniad newydd a all arwain at dechnoleg cyflenwad dŵr ynni-effeithlon

Gall y diwydiant dŵr, eu defnyddwyr a’r amgylchedd elwa o broject ymchwil newydd a fydd yn helpu’r diwydiant i dorri lawr ar ei biliau.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Choleg y Drindod, Dulyn wedi canfod ffordd o ddefnyddio pwysedd y dŵr o fewn y system storio dŵr i greu ynni adnewyddol. Gall yr ynni yna gael ei ddefnyddio gan y diwydiant dŵr a’i werthu i’r grid.

Mae’r ymchwilwyr wedi ennill £500,000 mewn cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd i ymchwilio i dyrbinau pŵer dŵr bach a’u datblygu, y gellir eu cyflwyno o fewn  systemau trin dŵr presennol. Gall y rhain leihau’r ynni sy’n cael ei ddefnyddio wrth gyflenwi dŵr. Bydd hyn yn galluogi i’r diwydiant cyflenwi dŵr leihau ei allyriadau CO2 a lleihau’r costau gweithredu wrth gyflenwi dŵr wedi ei drin.

“Mae’r diwydiant dŵr yn defnyddio ynni’n helaeth. Mae modd i’r project yma helpu i leihau’r effaith amgylcheddol a’r costau sydd ynghlwm â hyn,” esbonia Dr Prysor Williams o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Prifysgol Bangor.

Wrth drin, pwmpio a monitro, mae’r diwydiant dŵr yn defnyddio cryn dipyn o ynni, cost ac yn creu cryn dipyn o allyriadau CO2. Fel rheol mae dŵr glan yn cael ei gyflenwi i gymuned o argae storfa ganolog trwy ddisgyrchiant trwy’r dalgylch ac mae’n rhaid ei ddarparu o fewn bandiau pwysedd boddhaol. Pan fo’r pwysedd llifeiriant dŵr yn ormodol, yna’r arfer yw gosod tanc torri pwysedd (TTP) yn y rhwydwaith, lle mae pwysedd ac ynni cinetig a dichonol yn cael ei golli i’r atmosffer. “Mae’r tanciau torri pwysedd yn gyffredin ac yn cynnig cyfle i adennill yr ynni o’r cyflenwad dŵr drwy system tyrbin Hydro-bŵer, cynhyrchu trydan a gwella cynaladwyedd y rhwydwaith heb amharu ar y gwasanaeth cyflenwi dŵr,” esbonia’r Dr Aonghus McNabola o Goleg y Drindod, Dulyn.

Meddai Rhys Lewis, Rheolwr Gwyddor Proses Dŵr Cymru: “Mae gennym nifer o danciau torri pwysedd sy’n gweddu’r anghenion. Mae adennill ynni yn cyd-fynd yn berffaith efo strategaeth Dŵr Cymru i leihau’i hôl troed carbon ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ar y project cyffrous yma.”

Mae’r cysyniad yn cael ei archwilio o dri safbwynt. Yn gyntaf, mae’r dylunio peirianyddol a dichonolrwydd technegol yn cael ei harchwilio gan Ysgol Peirianneg Coleg y Drindod, Dulyn. Yn ail, mae’r modelau trefniadaeth a busnes yn cael eu harchwilio gan Ysgol Busnes Coleg y Drindod, Dulyn. Yn olaf, mae effeithiau amgylcheddol potensial y dechnoleg, sef yr adnodd ynni a’r arbedion CO2 yn cael eu harchwilio gan Brifysgol Bangor.

Enillodd y project tair blynedd gyllid o dan Raglen Cymru-Iwerddon ERDF (Interreg 4A) gyda £246,000 yn dod i Brifysgol Bangor. Enillodd y project gefnogaeth gan nifer o fudd-ddeiliaid yng Nghymru a’r Iwerddon a fydd yn eistedd ar bwyllgor llywio’r project, sef:

Cyngor Dinas Dulyn, Dŵr Cymru, Dulas Cyf, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2011