Gall caffael preifat a chyhoeddus da gyfrannu at greu buddion lluosog

Gall polisïau caffael wedi eu hysgrifennu’n ofalus fod yn gymorth i awdurdodau lleol gyflawni amcanion megis sicrhau arbedion a chefnogi busnesau lleol, yn ôl yr Athro Dermot Cahill, Cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael a Phennaeth Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor.

Oherwydd bod caffael mor hanfodol i bob math o gwmnïau a sefydliadau, yn cynnwys busnesau bach a chanolig, cyrff cyhoeddus a sefydliadau rhyngwladol, mae Ysgol y Gyfraith, sydd â phroject ymchwil o bwys rhyngwladol yn y maes, yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau ar y pwnc.

Yn ôl yr Athro Cahill: "Yn y sefyllfa economaidd sydd ohoni, mae cyrff cyhoeddus yn defnyddio caffael cyhoeddus fel ffordd o arbed arian oherwydd eu bod, yn naturiol, yn awyddus i dorri costau wrth i’w hincwm leihau.   Ond mae hyn yn aml yn digwydd ar draul amcanion eraill.   Er enghraifft, mae gan gynghorau sir unedau sy’n hyrwyddo datblygiad economaidd ar y naill law, ond ar y llaw arall, mae’n rhaid i gynghorau gaffael nwyddau a gwasanaethau i gael gwell gwerth am arian. Mae hyn yn aml yn golygu eu bod yn strwythuro contractau mewn ffordd sy’n lleihau’r dreth cyngor sy’n ddyledus iddynt, ac felly maent yn lleihau eu hincwm yn ddiarwybod iddynt.  Mae dirwasgiad ar hyn o bryd. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yn y gynhadledd yw gweld sut y gallwn sicrhau gwerth am arian a hybu arloesi trwy strwythuro contractau mewn modd sy'n cydymffurfio â'r gyfraith ac sy’n caniatáu i gyflenwyr cynaliadwy barhau i fodoli a rhoi rheswm iddynt gynnig nwyddau a gwasanaethau arloesol i'r sector cyhoeddus.”

 Meddai’r Athro Cahill: "Mae'n hanfodol bod prynwyr a chyflenwyr i’r sector cyhoeddus yn deall sut y gall arferion caffael cyhoeddus hyrwyddo a mygu arloesi mewn diwydiant ym Mhrydain. Er enghraifft, mae gan lawer o sefydliadau werthoedd corfforaethol "gwyrdd", ond maent yn ceisio cyflawni amcanion sy’n groes i hynny yn eu harferion prynu.  Gall hyn gael effaith andwyol ar gwmnïau arloesol ym Mhrydain ac Iwerddon sydd eisiau cynnig nwyddau a gwasanaethau ecogyfeillgar i'r sector cyhoeddus.   Gall ystyriaethau tebyg godi hefyd yng nghyd-destun cyfraith caffael gyhoeddus, lle mae cyflenwyr yn aml yn credu bod ganddynt hawliau, lle nad oes ganddynt hawliau, mewn gwirionedd. Ar y llaw arall, weithiau mae prynwyr cyhoeddus yn ceisio amddiffyn arferion caffael cyhoeddus nad ydynt yn gefnogol i fusnesau bach a chanolig trwy honni bod cyfraith caffael yr Undeb Ewropeaidd yn eu hatal rhag gweithredu mewn modd mwy cefnogol tuag at fusnesau bach a chanolig. Yn aml, y gwrthwyneb sy'n wir. Mae hyd yn oed Whitehall yn dechrau deffro ac yn cael blas ar ei ffisig ei hun, chwedl Francis Maude (Gweinidog y Cabinet a’r Tâl-feistr Cyffredinol).

Yn yr un araith, aeth Maude ymlaen i gadarnhau bod Whitehall wedi "dechrau gwneud pethau’n decach i fusnesau bach a chanolig, ond gallwn wneud llawer mwy. Dywedodd [busnesau bach a chanolig] wrthym mai contractau oedd un o'r rhwystrau mwyaf i sicrhau busnes, ac rydym yn cytuno â hynny. Nid oes rhaid i gontractau'r llywodraeth fod mor fawr a chymhleth, ac ni ddylent fod, ychwaith".

 "O ystyried mai ni yw un o'r canolfannau mwyaf blaenllaw ym maes cyfraith caffael gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig" meddai'r Athro Cahill "rydym yn falch iawn o allu cynnig cyfres o seminarau arbenigol ar gaffael cyhoeddus, adolygiad barnwrol, a chaffael cyhoeddus a thryloywder fel rhan o'r rhaglen yn ystod yr wythnos gaffael.  Bydd cyfreithwyr a bargyfreithwyr blaenllaw o Iwerddon a'r Deyrnas Unedig, yn ogystal ag arbenigwyr cyfreithiol o wledydd eraill megis Sbaen a Phortiwgal yn bresennol i rannu eu cyngor a’u profiad wrth ddehongli cyfreithiau caffael yr Undeb Ewropeaidd.

 Un cwmni sydd eisoes yn ymwneud â thîm 'Ennill wrth Dendro' Prifysgol Bangor yw Gelli Civil Engineering sydd wedi cael budd o wasanaeth adolygu tendrau Bangor. Dywedodd Rebecca Budski, cyfarwyddwr Gelli Civil Engineering: "Roeddem yn betrus am gael rhywun o’r tu allan i adolygu’r dogfennau tendro roeddem wedi eu cyflwyno i gyngor lleol ar y cychwyn, ond mae’r canlyniadau wedi bod gwerth chweil. Mae'r broses wedi ein helpu i nodi ein gwendidau ac adeiladu ar y feirniadaeth gadarnhaol rydym wedi ei chael i baratoi at ein tendr nesaf.  Bydd hyn o fudd i ni ac i'r cyngor ".

Ychwanegodd Rebecca Budski y byddai'r cwmni yn bresennol yn y digwyddiadau yn ystod yr wythnos gaffael.

Yn ystod yr wythnos gaffael (27-30 Mawrth ym Mhrifysgol Bangor) bydd Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael (ICP) Ysgol y Gyfraith a'r tîm 'Ennill Wrth Dendro' yn dod ag amrywiaeth o arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol ynghyd i gyflwyno cyfres o seminarau, y mwyafrif ohonynt am ddim, ar nifer o feysydd caffael cyhoeddus er budd caffaelwyr cyhoeddus a busnesau bach a chanolig sydd eisiau gwerthu nwyddau a gwasanaethau i'r sector cyhoeddus.  Cynhelir yr wythnos gaffael rhwng 27-30 Mawrth.

Mae’r rhain yn cynnwys: Hyfforddiant caffael i gyflenwyr (27 Mawrth), Strategaethau i gadwynau cyflenwi’r sector preifat:  cyfleoedd a phartneriaethau (28 Mawrth), Caffael arloesol:  arloesi, syniadau a chamau gweithredu (29 Mawrth) a Chaffael cyhoeddus:  safbwyntiau rhyngwladol a rhanbarthol (30 Mawrth).

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2012