Gallai dealltwriaeth newydd o wenwyn nadredd esgor ar feddyginiaethau gwrthwenwyn mwy effeithiol

Echis coloratus (y 'painted sawl-scaled viper), un o'r rhywogaethau a ddefnyddiwyd yn yr ymchwil. Echis coloratus (y 'painted sawl-scaled viper), un o'r rhywogaethau a ddefnyddiwyd yn yr ymchwil. Gallai ymchwil newydd, sydd yn gwrthbrofi'r ddamcaniaeth bod gwenwyn wedi esblygu unwaith yn unig mewn ymlusgiaid, arwain hefyd at driniaethau meddygol newydd i wrthweithio effaith brathiadau gan nadredd.

Cafodd “rhagdybiaeth Toxicofera”, sef bod gwenwyn wedi esblygu unwaith yn unig a bod y mwyafrif o rywogaethau ymlusgiaid sydd yn fyw heddiw wedi disgyn o ragflaenydd gwenwynig cyffredin, ei chyflwyno am y tro cyntaf bron i ddegawd yn ôl.  Ar y pryd roedd hwn yn syniad chwyldroadol oherwydd y gred draddodiadol oedd bod sawl tarddiad i wenyn nadredd.  Er bod rhagdybiaeth Toxicofera wedi cael ei derbyn yn eang, ni chafodd ei rhoi ar brawf tan yn awr.

Defnyddiodd ymchwilwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Bangor dechnoleg dilyniant DNA flaengar i astudio mynegiant genynnau yn y gwenwyn a'r chwarennau poer, yn ogystal â nifer o feinweoedd corff eraill o amrywiaeth o ymlusgiaid gwenwynig ac anwenwynig i roi prawf ar ragdybiaeth Toxicofera. Mewn erthygl yn rhifyn mis Rhagfyr o'r cyfnodolyn Toxicon (doi:10.1016/j.toxicon.2014.10.004), ysgrifennodd myfyriwr PhD o Fangor,  Adam Hargreaves a'i oruchwyliwr Dr. John Mulley, ynghyd â chydweithwyr yn Sefydliad Sanger Ymddiriedolaeth Wellcome ac Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, nad yw rhagdybiaeth Toxicofera'n cael ei chefnogi gan y data newydd hyn. Oherwydd hyn mae gwyddonwyr wedi ailafael yn y rhagdybiaeth wreiddiol, sef bod gwenwyn wedi esblygu ddwywaith o leiaf mewn ymlusgiaid.  

Adam Hargreaves, myfyriwr PhD o Fangor, a wnaeth yr ymchwil. Adam Hargreaves, myfyriwr PhD o Fangor, a wnaeth yr ymchwil. "Mae gennym ddiddordeb mawr yn esblygiad gwenwyn. Y farn gyffredin oedd bod gwenwyn wedi esblygu unwaith yn unig yn gynnar yn esblygiad ymlusgiaid", eglura Adam Hargreaves. "Ond pan ddechreuwyd edrych ar y data, ni welwyd unrhyw dystiolaeth i gefnogi hyn.  Yn lle hynny mae'n edrych fel pe bai llawer o enynnau a ddefnyddir i gefnogi rhagdybiaeth Toxicofera'n enynnau cynnal a chadw arferol, ac nad ydynt yn docsinau. Gan gymryd hynny i ystyriaeth, y casgliad anorfod yw bod gwenwyn wedi esblygu fwy nag unwaith mewn ymlusgiaid, a bod astudiaethau blaenorol wedi dod i gasgliadau anghywir.

Mae gan hyn oblygiadau sylweddol o ran deall esblygiad gwenwyn, a hefyd o ran cynllunio triniaethau meddygol newydd i wrthweithio brathiad nadredd.

Mae Dr John Mulley yn egluro "Wrth ddod i'r casgliad nad yw llawer iawn o'r tocsinau dan sylw yn rhan o'r gwenwyn mewn gwirionedd, mae'n golygu bod gwenwyn nadredd yn llawer symlach nag a awgrymwyd o'r blaen, a bod y rhan fwyaf o gymhlethdod gwenwyn wedi ei gyfyngu i ychydig o deuluoedd genynnau'n unig.  Mae'n ymddangos yn debygol felly y gallwn ddatblygu triniaethau gwrthwenwyn mwy effeithiol sy'n canolbwyntio ar wrthweithio effeithiau'r teuluoedd hyn yn unig.  Yn fwy sylfaenol, mae'r ymchwil newydd hon yn dangos grym technolegau dilyniant DNA uwch i daflu goleuni newydd ar hen gwestiynau, ac yn herio rhagdybiaethau traddodiadol ynghylch esblygiad gwenwyn mewn ymlusgiaid."

Cefnogwyd yr ymchwil gan y Gymdeithas Frenhinol, Ymddiriedolaeth Wellcome a Chynghrair y Biowyddorau, yr Amgylchedd ac Amaethyddiaeth rhwng Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth, a chynhaliwyd dadansoddiadau gan ddefnyddio seilwaith HPC (High Performance Computing) Cymru. 

Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2014