Gellir atal colli carbon o gorstiroedd mangrof ac felly arafu newid hinsawdd - medd gwyddonwyr Bangor

Mae mangrofau yn storio symiau enfawr o garbon yn eu pridd. Mae mangrofau yn storio symiau enfawr o garbon yn eu pridd. Mae gwyddonwyr yn honni y gellir rhoi terfyn ar ryddhau symiau peryglus o nwyon tŷ gwydr o gorstiroedd mangrof.

Mae tîm o ymchwilwyr, a arweinir gan Brifysgol Bangor, yn dweud bod ganddynt y potensial i roi terfyn ar ryddhau nwyon sy'n newid hinsawdd, megis carbon deuocsid, rhag cael eu gollwng o gorstiroedd mangrof os ydynt yn cael eu niweidio neu eu torri i lawr.  

Ar hyn o bryd mae mangrofau, sy'n goedwigoedd unigryw a geir ar arfordiroedd o amgylch y cyhydedd, yn storio symiau enfawr o garbon yn eu pridd.

Ofnir y gall datgoedwigo a newid hinsawdd niweidio'r ecosystemau bregus hyn gan achosi i'r carbon hwn gael ei ryddhau - llawer ohono fel carbon deuocsid, sy'n nwy tŷ gwydr adnabyddus.

Daeth  dau o wyddonwyr amlycaf y byd ym maes gwlyptiroedd at ei gilydd i edrych ar y broblem - sef Yr Athro Chris Freeman o Brifysgol Bangor, a'r Athro Bill Mitsch o Florida Gulf Coast University. 

Ymunwyd â'r ymchwilwyr ar y gwaith gan Saraswati, myfyriwr rhyngwladol o'r India sy'n astudio am radd MSc Gwyddor a Chadwraeth Gwlyptiroedd unigryw Prifysgol Bangor, sydd gan oruchwyliaeth Dr Christian Dunn.

Mae'r prosesau naturiol sy'n cadw'r carbon i mewn yn rhai o'r priddoedd mangrof bron yn union yr un fath â'r rhai a geir mewn gwlyptiroedd eraill, megis corsydd a siglennydd Gogledd Cymru.  Mae'r prosesau naturiol sy'n cadw'r carbon i mewn yn rhai o'r priddoedd mangrof bron yn union yr un fath â'r rhai a geir mewn gwlyptiroedd eraill, megis corsydd a siglennydd Gogledd Cymru. Darganfu'r grŵp bod y prosesau naturiol sy'n cadw'r carbon i mewn yn rhai o'r priddoedd mangrof bron yn union yr un fath â'r rhai a geir mewn gwlyptiroedd eraill, megis corsydd a siglennydd Gogledd Cymru. 

Bydd gwybod hyn yn awr yn galluogi'r gwyddonwyr i drosglwyddo degawdau o wybodaeth am briddoedd y cynefinoedd cyfarwydd hyn i'r astudiaeth o fangrofau. 

Mae'r gwaith hwn yn ymwneud ag agweddau ar addasu ein tirweddau a'n hecosystemau i ddal a storio mwy o garbon er mwyn ceisio ymladd yn erbyn newid hinsawdd.

Meddai'r Athro Freeman wrth egluro potensial eu hymchwil:  "Ers cryn amser bellach rydym wedi bod yn arbrofi gyda ffyrdd o gynyddu'r symiau o garbon mewn priddoedd gwlyptir, ond erioed mewn mangrofau."

"Nawr ein bod yn gwybod bod y gweithgareddau a phrosesau microbaidd mewn priddoedd mangrof yn debyg i'r rhai rydym wedi bod yn edrych arnynt, gallwn ddechrau gweithio allan ffyrdd o atal y colli carbon o'r rhain hefyd."

"Mae hyn yn allweddol bwysig, oherwydd er bod mangrofau'n storfeydd carbon eithriadol bwysig maent yn cael eu niweidio'n gyson gan weithgareddau dynol a'r newid yn ein hinsawdd."

"Os yw'r coed a'r planhigion yn cael eu codi o gors fangrof, am ba bynnag reswm, nid yw'n cymryd yn hir i'r pridd roeddent yn tyfu ynddo i bydru - gan ryddhau nwyon tŷ gwydr, megis carbon deuocsid."

"Fodd bynnag, pe baem yn gallu trin y pridd - gan ddefnyddio rhai o'n dulliau y profwyd eu bod yn gweithio - yna gallem atal y golled yma a galluogi'r coed mangrof i aildyfu. Trwy hynny byddem yn rhwystro i filiynau o dunelli o garbon gael ei ryddhau i'r atmosffer."

"Mae'n wych meddwl y gall y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud yng nghorsydd Eryri effeithio ar reoli corsydd mangrof yn Florida ac Indonesia - a bydd yn sicr o olygu y byddwn yn gynhesach wrth wneud ein gwaith maes," ychwanegodd Yr Athro Freeman.

Mae darganfyddiadau'r tîm bellach wedi cael eu cyhoeddi a bydd y gwaith yn parhau; yn y maes yn Florida ac yn labordai Prifysgol Bangor gan fyfyrwyr y radd MSc Gwyddor a Chadwraeth Gwlyptiroedd. 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2016