Gwobr yn Bar Uno yn ystod Serendipity!

Roedd y digwyddiad Serendipitiy 2 diweddar yng Nghanolfan Chwaraeon Maes Glas yn llwyddiant mawr, a bu i un myfyriwr adael gyda gwobr gwerth chweil!

Chelsie McCluskey (dde) a'i ffrind yn mwynhau pryd o fwyd yn Bar UnoChelsie McCluskey (dde) a'i ffrind yn mwynhau pryd o fwyd yn Bar UnoDrwy gofrestru ar dudalen Facebook Bar Uno, dewiswyd enw Chelsie McCluskey ‘allan o het’ ac enillodd bryd am ddim i 2 yn Bar Uno. Roedd Chelsie, sy’n fyfyriwr Bioleg y Môr ar ei blwyddyn gyntaf, wrth ei bodd o gael ennill y wobr ac mae’n edrych ymlaen at fwyta yno gyda’i ffrindiau.  Fel myfyriwr ar Safle Ffriddoedd, mae Chelsie’n cyfaddef iddi fod yn ymwelydd eithaf rheolaidd â Bar Uno ac mae’n mwynhau’r dewisiadau ar y fwydlen newydd.

Meddai Chelsie "Dwi wir yn mwynhau’r amrywiaeth o brydau ar y fwydlen newydd. Mae’r prisiau’n deg iawn i fyfyrwyr ac mae’n cynnig amrywiaeth eang o snaciau a phrydau cartref iach.  Roedd y cynigion yn ystod Serendipity yn arbennig o dda, a dwi’n edrych ymlaen at ddigwyddiadau arbennig yn y dyfodol!"

Gellwch weld bwydlenni newydd Bar Uno a Bwyd@Bangor ar-lein.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2011