Gwyddonwyr Bangor yn gofyn am gymorth i ganfod cnydau eiddew

Eiddew mewn ffrwythEiddew mewn ffrwythMae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn cynnal dwy raglen ymchwil arloesol yn edrych ar wahanol ddefnyddiau ar gyfer eiddew brodorol ac yn gofyn am gymorth gan y cyhoedd wrth ddod o hyd i eiddew  sy’n ffrwytho ac sydd mewn mannau sy’n hawdd ei hel.

Meddai Dave Preskett o Brifysgol Bangor: "Rydym eisio gwybod am leoliadau lle mae’r eiddew yn tyfu ar waliau neu strwythurau eraill fertigol ac sydd dan gnydau trwm o ffrwythau. Dylai'r ffrwythau fod yn hongian mewn clystyrau maint pêl golff, lliw porffor (mae gwyrdd tywyll neu caci yn nodi nad ydynt yn gwbl aeddfed) ac o leiaf un metr sgwâr o ran arwynebedd ac y gellir eu hel yn hawdd heb ddringo. Os oes llawer o grwpiau bach yn yr un ardal gallai hyn hefyd fod yn ddefnyddiol. Byddai derbyn cod post a disgrifiad byr i ddod o hyd i'r safle yn ddefnyddiol os nad yw cyfeirnod grid / GPS cyfesurynnau ac o bosibl lluniau os yn bosibl. Rydym yn medru hel cnydau o fewn pellter o 50 milltir o Fangor, ond byddai cnydau mawrion ymhellach i ffwrdd werth eu hystyried. Rydym angen help y cyhoedd i ddod o hyd i'r planhigion gan nad ydynt eto'n cael eu tyfu’n fasnachol."

Gofynnir i unrhyw un sydd yn ymwybodol o glystyrau tebyg o eiddew ar eu tir neu mewn gwrychoedd ac sy’n fodlon rhannu’r wybodaeth gysylltu â d.preskett @ bangor.ac.uk â'r manylion a nodir uchod, a bydd y gwyddonwyr yn dod i gysylltiad.

Mae’r gwyddonwyr ym Mangor yn gweithio ar brosiect 5 mlynedd £20m o'r enw BEACON (www.beaconwales.org), ynghyd â phartneriaid ym mhrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe, er mwyn sefydlu Canolfan Ragoriaeth mewn Bioburo yng Nghymru.

EiddewEiddewGolyga bioburo cymryd deunydd planhigion a defnyddio cyfres o brosesau mecanyddol, biolegol a chemegol ar gyfer eu trosi mewn i ystod eang o gynhyrchion masnachol pwysig. Mae'r rhain yn cynnwys deunydd fferyllol, tanwydd cludiant, ffynonellau ynni, cemegau a ffibrau sy'n cael eu defnyddio mewn deunyddiau biogyfansoddion ar gyfer y diwydiant adeiladu. Mae'r cysyniad bioburo yn cyfateb i burfeydd petrolewm heddiw, sy'n cynhyrchu tanwydd a chynhyrchion o olew crai, ond mae'n wahanol trwy ddefnyddio biomas fel deunydd cychwyn, sy'n adnewyddadwy  ac yn llawer mwy amgylcheddol.

Bydd BEACON  yn hwb i'r economi werdd drwy helpu busnesau yng Ngogledd Cymru, Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, drwy ddatblygu prosesau er mwyn trosi cnydau a dyfir yn lleol i amrywiaeth eang o gynhyrchion masnachol.

Mae ganddynt ddiddordeb mewn eiddew, ymhlith planhigion eraill, am nifer o resymau.

Mae ffrwythau eiddew yn cynnwys tua 30% o olew llysiau sydd â chyfres o werth uchel o asidau brasterog anghyffredin y maent wedi cael patent ar gyfer y broses echdynnu a phuro. Gellir eu defnyddio mewn colur, cynnyrch gofal personol a nutraceuticals sy'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd gyda chonsortiwm o bartneriaid gan gynnwys busnesau bach a chanolig Cymru a chwmnïau rhyngwladol sydd wedi’u lleoli yn y DU.

Mae ffrwythau hefyd yn cynnwys tua 25% o grŵp o gemegau a elwir yn saponins sydd o strwythur unffurf. Mae ymchwilwyr Bangor wedi dangos bod y rhain yn effeithiol iawn wrth reoli, malltod tatws, gwlithod, cen, tarwden y traed (athlete’s foot), leishmania a candida gan ddefnyddio crynodiadau isel ac mae’n cymharu’n ffafriol yn erbyn cynhyrchion sy'n bodoli eisoes. Ymysg defnyddiau eraill sy’n cael eu harchwilio gyda phartneriaid academaidd a diwydiannol yw ei ddefnydd ar gyfer rheoli laminitis mewn ceffylau, rheoli aroglau mewn gwellt ar gyfer anifeiliaid a leihau allyriadau methan o wartheg. Mae saponin tebyg yn bresennol yn y dail, ond mewn crynodiadau is o lawer, a heb yr asidau brasterog.

I ychwanegu at y gymysgedd o gydrannau, mae cynnwys protein o 20% yn golygu fod  potensial i ddefnyddio’r ffrwythau fel deunydd mewn gweithrediad bioburo, a ddatblygwyd yng Nghymru.

"Mae gennym ddiddordeb mewn datblygu cynhyrchion newydd yn seiliedig ar adnoddau cynaliadwy; ac mewn sefydlu cadwyn gyflenwi Cymraeg o brosesu drwy fiomas hyd at gynnyrch terfynol. Bydd hyn yn darparu cyfleoedd cyflogaeth yng nghefn gwlad," meddai Adam Charlton o'r Ganolfan Biogyfansoddion, Prifysgol Bangor.

Mae eiddew yn tyfu’n arbennig o dda yng ngorllewin Cymru ac mae ganddo rôl ecolegol bwysig wrth ddarparu ffynhonnell o neithdar yn hwyr ar gyfer peillwyr cyn dechrau'r gaeaf gan ei fod yn blodeuo yn yr hydref  ac mae ar gael i’w gynaeafu am gyfnod hir o fis Ionawr hyd at ddiwedd Mai neu hyd yn oed ddechrau mis Mehefin. Dim ond nifer cyfyngedig o adar sy’n bwyta’r ffrwythau yn y misoedd cyntaf (yn bennaf o rywogaethau o'r teulu bronfraith a cholomennod) felly mae hwn yn cynaeafu lefel isel a thrawiad isel o ran effaith.


Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2012