Gwyddonwyr Prifysgol Bangor yn ymddangos ar raglen Countryfile

Ellie Harrison, un o  gyflwynwyr  rhaglen Countryfile  efo swyddog Ymchwil Steven Newstead a Dr Andrew Davies o Brifysgol Bangor.Ellie Harrison, un o gyflwynwyr rhaglen Countryfile efo swyddog Ymchwil Steven Newstead a Dr Andrew Davies o Brifysgol Bangor.Wrth sôn am riffiau mae'n bosibl iawn y bydd eich meddwl yn crwydro i foroedd trofannol gleision a'r Barriff Mawr enwog yn Awstralia.  Ond mae riffiau i'w cael mewn amrywiaeth o leoliadau - ac nid ydynt i gyd wedi'u gwneud o gwrel chwaith.

Mae riffiau wedi'u ffurfio gan anifeiliaid byw i'w cael ar y glannau rhwng llanw a thrai mewn gwahanol fannau o amgylch arfordir gwledydd Prydain.  Gall y riffiau a gaiff eu creu gan y llyngyren ddiliau fod yn hynod hardd, gydag amrywiaeth o siapiau a ffurfiau rhyfeddol. Ond, gwaetha'r modd, mae'r riffiau hyn yn fregus dros ben a gall chwilotwyr ar draethau eu niweidio'n hawdd.

Mae rhaglen Countryfile y BBC (19.00 BBC1 Dydd  Sul 16 Mehefin) yn ymweld â thîm o wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor sydd y rhai cyntaf mae'n fwy na thebyg i dyfu rîff ddiliau yn y labordy.  Gwneir y gwaith yma er mwyn deall sut a pham mae riffiau'n lleihau a dirywio ac i ddatblygu ffyrdd o helpu i drwsio riffiau sydd wedi'u niweidio.  Mae'r riffiau eu hunain yn bwysig iawn gan y gallant amddiffyn yr arfordir i ryw raddau; maent yn cynyddu bioamrywiaeth yr ardal a rhoi lloches i rywogaethau eraill. 

Fel hyn yr eglurodd Andrew Davis, sy'n arwain yr ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau’r Eigion:  "Gall y llyngyren ddiliau ddiflannu o safle bron yn gyfan gwbl, ac yna ailymddangos ac adfywio.   Rydym wedi bod yn magu llyngyr diliau ifanc yn y labordy yn y gobaith o ddeall sut mae'r rîff yn tyfu o'r camau cychwynnol i'r riffiau mawr rydym yn eu gweld heddiw."

 Riffiau y llyngyren ddiliau  ar draeth Llanddulas Beach, Sir Conwy,  y mae gwyddonwyr o’r Ysgol Gwyddorau Eigion yn defnyddio yn eu hymchwil. Riffiau y llyngyren ddiliau ar draeth Llanddulas Beach, Sir Conwy, y mae gwyddonwyr o’r Ysgol Gwyddorau Eigion yn defnyddio yn eu hymchwil.Ychwanegodd: "Mae’r llyngyren ddiliau'n sensitif iawn i newid a gellir niweidio'r rîff yn hawdd. Gall rhywun yn cerdded drostynt yn ddiarwybod achosi niwed sylweddol i'r riffiau ac, mewn mannau glan môr poblogaidd, gall y riffiau gael trafferth i gyd-fyw â gweithgareddau dynol." 

Ychwanegodd Steven Newstead, swyddog ymchwil ar y project:  "Trwy weithio gyda Countryfile rydym yn gobeithio tynnu sylw pobl at harddwch, bregusrwydd a phwysigrwydd y creaduriaid yma a'u cartrefi o diwbiau cywrain.  

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2013