Gwyddonydd o Fangor i helpu i warchod Bioamrywiaeth ym Môr y Caribî

Ei Ardderchowgrwydd y Llywodraethwr Mr Duncan Taylor o Ynysoedd y Cayman yn gwrando ar Dr John Turner yn siarad yn y lawnsiad.Ei Ardderchowgrwydd y Llywodraethwr Mr Duncan Taylor o Ynysoedd y Cayman yn gwrando ar Dr John Turner yn siarad yn y lawnsiad.Gan gydweithredu â Llywodraeth Ynysoedd y Cayman a’i phartner yn UDA, y Nature Conservancy, mae’r Ysgol Gwyddorau Eigion wedi lansio project gwerth £817,000 i warchod bioamrywiaeth môr Ynysoedd y Cayman, Tiriogaeth Dramor o eiddo’r DU yng nghanol y Caribî.  Bu Ei Ardderchowgrwydd y Llywodraethwr Mr Duncan Taylor o Ynysoedd y Cayman yn cynnal lansiad Menter Darwin er Gwella System Sefydledig ar gyfer Ardal Forol sydd wedi’i Hamddiffyn, yn Nhŷ’r Llywodraeth yn Grand Cayman heddiw (27.10.10).  Mae’r project wedi ennill grant o £274,000 o Fenter Darwin trwy DEFRA, adran Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am bolisi a rheoliadau ar yr amgylchedd, bwyd a materion gwledig.  Mae’r cyllid hwn wedi sbarduno cyllid ychwanegol a chyfraniad ymarferol gan y sefydliadau sy’n cydweithredu.

Nod Menter Darwin yw cael arbenigwyr o’r DU sy’n  berthnasol i fioamrywiaeth i weithio gyda phartneriaid lleol sy’n gyfoethog o ran bioamrywiaeth ond yn dlawd o ran adnoddau ariannol, er mwyn gwarchod amrywiaeth fiolegol.  Mae projectau Darwin yn gydweithredol, yn cael effaith wirioneddol ar y wlad, yn wyddoniaeth uchel ei hansawdd, a gallant fod yn sbardun ar gyfer mentrau eraill, fel sy’n digwydd yn y Cayman.  Maent yn ymdrin â gwella gallu sefydliadol, hyfforddi ar gyfer ymchwil, addysg ac ymwybyddiaeth.  Mae projectau yn helpu gwledydd i gyflawni eu gofynion yn unol â’r 3 phrif gonfensiwn, sef y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, y Confensiwn ar Rywogaethau Mudol Anifeiliaid Gwyllt, a CITES (y Confensiwn ar Fasnach Rhywogaethau mewn Perygl).

Bu Mr Duncan Taylor, Llywodraethwr Ynysoedd y Cayman, yn croesawu gwesteion ac yn pwysleisio’r ffaith fod y rhan helaethaf o fioamrywiaeth y DU i’w chael yn y Tiriogaethau Tramor, a bod amrywiaeth forol Ynysoedd y Cayman yn bwysig ac yn rhywbeth i ryfeddu ato. 

Croy McCoy, ( Uwch Wyddonydd Ymchwil, Adran yr Amgylchedd, Cayman) James Byrne, (Cyfarwyddwr Rhaglen Forol, The Nature Conservancy US) a Dr John Turner (Ysgol Gwyddorau Eigion) yn plymio yn y Cayman. Croy McCoy, ( Uwch Wyddonydd Ymchwil, Adran yr Amgylchedd, Cayman) James Byrne, (Cyfarwyddwr Rhaglen Forol, The Nature Conservancy US) a Dr John Turner (Ysgol Gwyddorau Eigion) yn plymio yn y Cayman. Meddai Dr John Turner, Uwch Ddarlithydd Bioleg Môr yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, ac arweinydd Project Darwin: ‘Yn Nhŷ’r Llywodraeth 2 flynedd yn ôl, yn ystod Fforwm Cadwraeth Tiriogaethau Tramor y DU, y cyhoeddodd Gweinidog y DU ar y pryd dros Fioamrywiaeth, Huw Irranca Davies, fod £1.5 miliwn i’w glustnodi ar gyfer projectau yn y Tiriogaethau Tramor, ac yn y cyfarfod hwnnw y cynlluniodd partneriaid y project o Fangor, Cayman a Nature Conservancy y cais llwyddiannus hwn ar gyfer project Darwin.’

Cyhoeddodd Gina Ebanks Petrie, Cyfarwyddwr Adran yr Amgylchedd (DoE) yn Llywodraeth Ynysoedd y Cayman, fel a ganlyn:  ‘Yn Ebrill 2011, bydd hi’n 25 mlynedd ers sefydlu System Parciau Môr y Cayman – y pryd hynny, roeddem ymysg y cyntaf i sefydlu system o’r fath, ac rydym yn parhau’n falch iawn ynglŷn â hynny.  Fodd bynnag, mae DoE yn wynebu mwyfwy o sialens i ymateb gydag ymyriadau sy’n amserol ac wedi’u targedu’n briodol yn amgylchedd y môr – nid yw’n hawdd ymdrin â channu cwrel a newid hinsawdd – rhaid inni obeithio bod ein riffiau cwrel mewn cyflwr digon da i ymdopi.  Erbyn hyn, mater o frys yw cynnal asesiad gwyddonol gadarn ar Barciau Môr y Cayman er mwyn gwella’r system fel y gall ymdopi â mwyfwy o faterion o bwys byd-eang a lleol.  Yn gynharach eleni, buom yn ffodus iawn i gydweithio â’r Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor a Nature Conservancy UDA, sef y corff cadwraeth rhyngwladol mwyaf, i gael cyllid trwy Fenter Darwin, a gyllidir gan Lywodraeth y DU.’

Meddai Dr John Turner: ‘Mae gan Ynysoedd y Cayman amgylchedd morol cyfoethog, sy’n elwa ar fwy na dwy ddegawd o gadwraeth benigamp yn y fan a’r lle.  Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn, cafwyd newidiadau byd-eang, rhanbarthol a lleol, sy’n bygwth bioamrywiaeth a bywoliaeth ynys-genhedloedd, ac mae angen i fentrau cadwraeth ymateb i’r sialens hon.  Mae cynnydd yn nhymheredd y môr, cannu cwrel, ac effeithiau eraill newid hinsawdd, megis amledd stormydd, codiad yn lefelau’r môr, ac asideiddio’r moroedd yn fygythiadau byd-eang.  Yn rhanbarthol, mae clefydau ar gwrel a draenogod môr, gorbysgota helaeth, a dirywiad yn ansawdd y dŵr oherwydd llygredd ar y tir wedi gostwng safon y Caribî; yn lleol, mae’r boblogaeth frodorol wedi dyblu, mai nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu bedair gwaith, a datblygiad ar yr arfordir wedi cyflymu.’

Rîff Cwrel yn Ynysoedd y CaymanRîff Cwrel yn Ynysoedd y Cayman‘Rhaid inni sicrhau bod ecosystemau môr megis riffiau cwrel yn parhau â’u gallu i ymadfer o effeithiau mawr.  Os nad yw’r systemau hyn yn ddigon gwydn, ceir colledion economaidd, wrth i eiddo a’r isadeiledd critigol ddod yn anniogel, wrth i nifer y pysgod a ddelir leihau, wrth i rywogaethau a chynefinoedd eraill, megis crwbanod, adar môr, glaswellt môr a mangrofau leihau, ac wrth i incwm o dwristiaeth gael ei golli. ‘

Mae’r Llywodraeth yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd arolygu’r system yr Ardal Forol wedi'i Hamddiffyn, ar ôl 25 mlynedd o newid, er mwyn canfod a yw’r parthau gwarchod yn dal yn  briodol o ran eu harwynebedd, wedi’u lleoli’n briodol, ac mor wydn ag y bo modd.  Ar hyn o bryd, mae parthau sydd wedi’u gwarchod yn llwyr yn gorchuddio rhyw 17% o arwynebedd silff y Cayman, ond derbynnir ar raddfa eang y dylid gwarchod 30% neu fwy o’r cynefinoedd i fod yn effeithiol.  Nid yw’r nod hwn yn bosibl ond gyda gwybodaeth fanwl ynglŷn â’r cynefinoedd, eu defnyddiau, a gweledigaeth glir o’r cyflwr y dymunir ei weld yn y dyfodol.  Amcan project menter Darwin yw darparu tystiolaeth wyddonol o’r effeithiau a gaiff gwarchodfa, asesiad ynglŷn â dewisiadau o ran gwella’r ardal sydd wedi’i  hamddiffyn, dull o gynnwys budd-ddeiliaid ac o ymgynghori â'r cyhoedd, a chynlluniau i hyrwyddo a gweithredu System well ar gyfer Ardal Forol sydd wedi’i Hamddiffyn yn y Cayman.

Dyma amcanion y project: (1) Pwyso a mesur pa mor wydn yw riffiau ar hyn o bryd o gwmpas y cyfan o dair ynys y Cayman; (2) Pwyso a mesur sut y gall ardaloedd wedi'u hamddiffyn adlewyrchu cynefinoedd orau, defnyddio mapiau ar gynefinoedd a grëwyd yn ystod project blaenorol gan Fenter Darwin – yn Ivan’s Wake; (3) Mesur yr effaith a gaiff gwarchodfa ar barthau sydd wedi’u hamddiffyn, a’u gallu i arllwys pysgod ac organebau ifainc i ardaloedd sydd heb eu gwarchod; (4) Mesur yr effaith a gaiff pysgota oriau hamdden, proffesiynol ac anghyfreithlon; (5)Defnyddio’r data gwyddonol hyn ochr yn ochr ag offer cynllunio blaengar Ardal Forol wedi’i Hamddiffyn er mwyn llunio dewisiadau ar gyfer gwell system Ardal Forol wedi’i Hamddiffyn, yn cynnwys budd-ddeiliaid ac ymgynghoriad llawn â’r  cyhoedd.

Gwarchod bioamrywiaeth, pobl, eiddo ac arfordiroedd, gwella defnydd cynaliadwy gan frodorion ac ymwelwyr, a thrwy hynny datblygu’r economi – dyna fydd buddion tymor hir riffiau gwydn.   Mae’r project yn amserol, wrth i Ynysoedd y Cayman sy’n prysur ddatblygu lunio Mesur Cadwraeth Genedlaethol, ac ar adeg y mae blaenoriaethau’n newid yn sgil angen cynyddol i ymateb i faterion sy’n ymwneud â newid hinsawdd.  Bydd y project yn dangos y gall System Ardal Forol y Cayman wedi’i Hamddiffyn ymaddasu i bwysau newydd, a pharhau’n fodel gwych ar gyfer y Caribî ar raddfa ehangach.   

Pysgodyn tiriogaethol mawr ar rîff oddi ar ynysoedd CaymanPysgodyn tiriogaethol mawr ar rîff oddi ar Ynysoedd y CaymanMeddai James Byrne, Cyfarwyddwr y Rhaglen Forol, y Nature Conservancy: ‘Mae gan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol amcanion pwysig a oedd i fod i gael eu gwireddu eleni, ond a gollir.  Yr wythnos hon, cyfarfu’r Confensiwn yn Nagoya, Japán, i edrych ar ba mor llwyddiannus a fu wrth warchod bioamrywiaeth ar raddfa fyd-eang. Mae arweinwyr o ranbarth y Caribî wedi cytuno i fynd y tu hwnt i’r amcanion gwarchod o 10% a bennwyd gan y Confensiwn, ac wedi creu’r ‘Caribbean Challenge’ i herio ei gilydd i fynd y tu hwnt i’r amcanion er mwyn gwarchod bioamrywiaeth yn fwy ac i gael effaith barhaus.  Mae Ynysoedd y Cayman yn flaengar, am iddynt sefydlu system ardal berthnasol ar gyfer y presennol a’r dyfodol. Dyma'r lle y mae projectau Darwin yn ffitio.’

Meddai Jennifer Ahearn, Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Iechyd, amgylchedd, Ieuenctid, Chwaraeon a Diwylliant:  ‘Nid ydym bod amser rhoi’r ystyriaeth haeddiannol i’r effaith ar amgylchedd y môr, felly rydym yn gobeithio y bydd yn project hwn yn gymorth i adfer y pwysigrwydd hwnnw.  Ar ran y Gweinidog a’r Weinyddiaeth, rydym yn llongyfarch DoE a’u partneriaid am symud y project hwn ymlaen, ac rydym yn edrych ymlaen yn awchus at weld ei ganlyniadau yn y dyfodol.’

Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2010