Mae aelod staff Prifysgol Bangor wedi llwyddo i orffen marathon 152 milltir yn niffeithwch y Sahara.

Mae aelod staff Prifysgol Bangor wedi llwyddo i orffen “y ras galetaf ar droed ar wyneb y ddaear” yn niffeithwch y Sahara fis Ebrill.

Mae Alan Edwards, o Gaernarfon, Pennaeth y Gwasanaethau i Fyfyrwyr Rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor, newydd gyrraedd yn ôl o Foroco lle gorffennodd y Marathon Des Sables 150 milltir. Croesodd y llinell derfyn yn safle 198 allan o 849 o gystadleuwyr. Yn gamp eithriadol, roedd yn safle 74 yn ei gategori oedran, a chododd bron i £4,000 ar gyfer Mencap.

Meddai Alan, sy’n wreiddiol o’r Bala: “Roedd gorffen y ras yn deimlad mor wych ac yn emosiynol iawn. Ar ôl dwy flynedd o baratoi a hyfforddi, roedd yn teimlo’n rhyfedd iawn gorffen yr holl beth ac roedd cael y fedal o amgylch fy ngwddw ar y llinell derfyn yn brofiad bythgofiadwy.

“Y rhan galetaf oedd rhedeg y darn 52 milltir. Doeddwn i erioed wedi rhedeg y fath bellter o’r blaen, ac mi aeth y tymheredd i fyny i 48 gradd y diwrnod hwnnw. Mi wnes i wir stryffaglio ar ôl cyrraedd y pwynt 40 milltir, ond llwyddais i gario ymlaen…er i mi bron iawn â rhoi’r ffidil yn y to!

“Yn ystod y ras gyfan, y peth anoddaf oedd rhedeg mewn tywod a achosodd swigod - mi aeth y ras drwy’r twyni tywod uchaf ym Moroco. Roedd hi hefyd yn anodd rheoli beth i’w fwyta a’i yfed.”

Drwy gydol y ras, roedd raid i Alan fod yn hollol hunan-gynhaliol am y 6 niwrnod cyfan, a oedd yn golygu cario popeth roedd arno’i angen mewn sach teithio. Roedd yn cario bwyd, diod, offer coginio, stwff cysgu, dillad a chit cymorth cyntaf (a oedd yn cynnwys pwmp gwrthwenwyn rhag ofn iddo gael ei frathu gan sgorpion neu neidr!)

Yr unig gymorth a dderbyniodd y rhedwyr oedd gosod pabell ar ddiwedd bob diwrnod, ac roedd yna wasanaethau meddygol brys wrth law hefyd rhag ofn.

Ychwanegodd Alan: “Roedd yn llawer iawn anoddach nag yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl, ond yn brofiad llawer iawn gwell na wnes i ei ddisgwyl hefyd. Mi wnes i ffrindiau ac roedd cystadleuwyr yn cefnogi’r naill a’r llall. Roedd yn brofiad y byddai’n ei gofio am byth, a’r peth mwyaf a ddysgais oedd bod gen i’r pŵer meddyliol i roi fy hun drwy rywbeth a oedd yn artaith ar brydiau.

“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried rhedeg y ras hon fyddai ‘Peidiwch â’i Wneud’! Na…o ddifri, hyfforddwch a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhedeg o leiaf 40 milltir y tro. Ar ôl hynny, cymerwch bob milltir fesul un a pheidiwch â meddwl am y ras yn ei chyfanrwydd (152 milltir) neu mi all y cyfan fynd yn ormod i chi’n feddyliol! Mae’n hanfodol hefyd eich bod chi’n cael digon o gyngor am yr hyn i’w fwyta.

Gyda’i ferch, Cara yn ddim ond 4 mis oed, doedd cael hyd i amser i hyfforddi ddim bob amser yn hawdd, ac mae Alan yn awr yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda’i deulu. O ran unrhyw sialensiau yn y dyfodol, ychwanegodd: “Rydw i wedi addo i’m gwraig, Bethan, nad ydw i’n mynd i wneud unrhyw beth mor eithafol am ychydig…..ond mae yna ras yn yr Alpau fis Awst 2012 (101 milltir mewn 46 awr) yr ydw i’n eithaf awyddus i’w gwneud!”

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2011