Pamffled Barddoniaeth ar Restr Fer

Mae pamffled o farddoniaeth gan yr Athro Ysgrifennu Creadigol Carol Rumens, a lansiwyd yn Pontio yn y gwanwyn, wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Michael Marks am y pamffled barddoniaeth gorau a gyhoeddwyd rhwng Medi 2017 a Medi 2018.

Cafodd Bezdelki/Small Things ei gyhoeddi er cof am bartner Carol, sef Yuri Drobyshev o Rwsia. Mae'r pamffled yn un o bump ar y rhestr fer a chaiff ei gyhoeddi gan The Emma Press, sydd hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori 'cyhoeddwr pamffledi gorau'. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn cinio yn y Llyfrgell Brydeinig ar 11 Rhagfyr. 

Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2018