Pennaeth Ysgol y Gyfraith yn arwain trafodaeth yng nghynhadledd y Sefydliad Materion Cymreig ar wella caffael cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â'r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt AC, Llywodraeth Cymru, Caerdydd, 5 Tachwedd 2012.

Trafododd yr Athro Cahill adroddiad John McClelland ar wneud y defnydd gorau posib o arian ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru yn y Sefydliad Materion Cymreig ar 5 Tachwedd 2012.  Prif gasgliadau adroddiad rhagorol John McClelland yw nad yw polisïau caffael Llywodraeth Cymru yn cael eu derbyn na'u gweithredu'n llawn gan nifer sylweddol o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisïau ardderchog ym maes caffael cyhoeddus.  Mae McClelland yn credu'n gryf nad yw'r broses o weithredu'r polisïau o ddydd i ddydd yn foddhaol er bod y polisïau eu hunain yn gadarn.  Mae'r adroddiad yn argymell y dylai mabwysiadu polisïau caffael Llywodraeth Cymru fod yn ofyniad cyfreithiol.  Trafododd yr Athro Cahill hefyd argymhelliad McClelland y dylid ei wneud yn ofynnol i brif weithredwr pob corff cyhoeddus yng Nghymru ddangos yn flynyddol i ba raddau y maent wedi dilyn polisïau Llywodraeth Cymru, ac os nad ydynt wedi dilyn y polisïau, egluro pam.  Roedd yr Athro Cahill yn cytuno â'r argymhelliad hwn a dywedodd y byddai'n arwain at fwy o atebolrwydd a thryloywder ac y byddai'n fodd o nodi sefydliadau nad ydynt yn glynu wrth bolisïau Llywodraeth Cymru er mwyn cymryd camau i unioni hynny.

Yr hyn sydd o ddiddordeb arbennig yn Adroddiad McClelland yw ei ganfyddiad bod y gymhareb staff i wariant caffael yn "wan" neu'n "wan iawn" yn nifer sylweddol o awdurdodau llywodraeth leol yng Nghymru (15 o 22).  Mae hyn yn arwyddocaol yn ôl McClelland oherwydd bod yr awdurdodau lleol sy'n neilltuo llai o adnoddau dynol i waith caffael yn gwario llai o arian yng Nghymru na'r awdurdodau sy'n neilltuo mwy o adnoddau dynol i waith caffael.  Gwariodd y naw awdurdod llywodraeth leol gyda'r perfformiad gwaelaf yn y cyd-destun hwn £820m y flwyddyn, swm aruthrol o arian, ac eto cafodd cyfran sylweddol o'r arian hwnnw ei wario y tu allan i Gymru.  O'r naw awdurdod hynny, ymddengys bod pedwar awdurdod lleol wedi gwario 15% neu lai o'u gwariant caffael yn eu hardal leol, ac mae hyn yn peri pryder sylweddol, oherwydd ymddengys bod cysylltiad rhwng caffael a gallu i weithredu gwan a gwariant isel yng Nghymru.

Cyfeiriodd John McClelland at adroddiad ar rwystrau i gyfleoedd caffael y mae'r Athro Cahill yn gyd-awdur arno, gan ddweud  “it provides not only a completely comprehensive analysis of the issues, but also, its recommendations constitute a solid action plan to address the problems of access to public sector business, and the conduct of pre-qualification questionnaires and tenders”. ⁠  ⁠Roedd McClelland hefyd o'r farn y dylid gweithredu'r adroddiad ar rwystrau i gyfleoedd caffael yn llawn er mwyn gallu mynd i'r afael â mwyafrif y pryderon a glywodd gan gyflenwyr wrth baratoi ei adroddiad. ⁠ 

Trafododd yr Athro Cahill hefyd argymhelliad John McClelland i orfodi pob corff a ariannir i fabwysiadu polisïau caffael Llywodraeth Cymru, ac y dylai hynny gynnwys sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach.  Mae'r argymhelliad hwn gan McClelland yn un o bwys mawr, ac ym marn yr Athro Cahill, byddai'n newid gweledigaeth caffael cyhoeddus ac yn cael effaith mawr ar y gymdeithas yng Nghymru. 

Cymeradwyodd yr Athro Cahill hefyd argymhelliad McClelland y dylid cael cysylltiad rhwng datblygiad economaidd a chefnogaeth i gyflenwyr, ac y dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau hynny. 

Argymhellodd McClelland bethau diddorol iawn ym maes e-gaffael, gan argymhell er bod galw mawr i uwchraddio llwyfannau e-gaffael yng Nghymru na ddylid buddsoddi'n sylweddol mewn llwyfannau newydd os na ellir bodloni dau faen prawf, sef bod gan lwyfannau newydd y gallu i gynhyrchu gwybodaeth reoli gywir a bod cyrff yn y sector cyhoeddus yn ymroi i ddefnyddio'r llwyfannau newydd.  Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd bod cryn dipyn o dystiolaeth sy'n dangos nad yw'r llwyfannau sydd eisoes ar gael yn cael eu defnyddio digon gan y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae hyn yn codi cwestiynau difrifol am dryloywder cyfleoedd caffael, yn ogystal â gwerth gwneud buddsoddiad mawr mewn llwyfannau newydd.

Yn olaf, mae adroddiad McClelland yn edrych ar swyddogaeth Gwerth Cymru - adran o Lywodraeth Cymru sydd â'r gwaith o foderneiddio caffael yng Nghymru.  Roedd McClelland yn ganmoliaethus iawn am Werth Cymru yn ei adroddiad, gan nodi bod ei waith ar bolisi yn flaengar ac wedi torri tir newydd yn aml a bod y polisïau a ddatblygwyd gan Werth Cymru yn addas i fynd i'r afael ag anghenion Cymru.  Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi digon er mwyn
galluogi Gwerth Cymru i oruchwylio gweithredu'r polisïau ac, o ganlyniad, mae cael y sector cyhoeddus yng Nghymru i fabwysiadu a defnyddio polisïau caffael Gwerth Cymru yn parhau i fod yn broblem fawr.  Er mwyn pwysleisio hyn, crybwyllodd yr Athro Cahill ganfyddiadau McClelland sy'n dangos mai dim ond dyrnaid o gyrff sector cyhoeddus Cymru sy'n defnyddio amryw o bolisïau Gwerth Cymru.   Roedd yr Athro Cahill yn cytuno â chasgliad McClelland sy'n datgan bod Cymru wedi datblygu polisïau caffael rhagorol, ond bod eu gweithredu'r broblem.   Argymhellodd McClelland bod rhaid buddsoddi er mwyn i'r gwaith o oruchwylio'r broses weithredu weithio ac yn ychwanegol at hynny, nododd nad yw rhai budd-ddeiliaid yn deall na'n derbyn y ffaith bod angen gweithredu'r polisïau hyn, a bod rhaid felly ymyrryd trwy bennu rheolau i orfodi hynny. 

 

Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2012