UWBmis & Agresso
O'r 4ydd o Ionawr 2011, bydd gwybodaeth reoli Adnoddau Dynol a'r Gyflogres ar gael trwy Agresso Self-Service (agresso.bangor.ac.uk). Dyma'r wybodaeth sy'n cael ei darparu trwy UWBmis ar hyn o bryd.
Mae Rheolwyr Coleg a Phenaethiaid Gwasanaeth eisoes wedi derbyn cais i roi gwybod pa aelodau o staff fydd angen cyrchu'r adroddiadau hyn. Os oes rheswm clir gennych dros gael mynediad i'r data Adnoddau Dynol a/neu'r Gyflogres ac os nad ydych wedi eich cynnwys ar y rhestr yn barod, bydd angen i chi gyflwyno cais drwy Reolwr Hyn.
Bydd neges ychwanegol yn cael ei hanfon yn fuan at y defnyddwyr hynny sydd wedi cael mynediad i'r adroddiadau yn rhoi arweiniad cryno ar sut i'w defnyddio.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2011