Y cyfle olaf i fioamrywiaeth Madagascar

Mae'r gwaith coedwigaeth anghyfreithlon mewn ardaloedd gwarchodedig ym Madagascar wedi niweidio safleoedd o bwys byd-eang. : Hawlfraint Toby SmithMae'r gwaith coedwigaeth anghyfreithlon mewn ardaloedd gwarchodedig ym Madagascar wedi niweidio safleoedd o bwys byd-eang. : Hawlfraint Toby SmithMae gwyddonwyr o bedwar ban byd wedi dod ynghyd i nodi'r camau pwysicaf sydd eu hangen ar lywodraeth newydd Madagascar rhag colli rhywogaethau a chynefinoedd unwaith ac am byth.

Ym mis Ionawr, dechreuodd Andag Rajoelina, arlywydd newydd Madagascar, ei gyfnod o bum mlynedd yn y swydd. Mae grŵp o wyddonwyr o Fadagascar, y Deyrnas Unedig, Awstralia, Unol Daleithiau America a'r Ffindir wedi cyhoeddi papur sy'n tynnu sylw at y camau gweithredu y mae angen i'r llywodraeth newydd eu cymryd i wrthdroi dirywiad dybryd bioamrywiaeth a helpu rhoi Madagascar ar drywydd datblygu cynaliadwy.

Dywedodd Jonah Ratsimbazafy, athro anthropoleg a datblygu cynaliadwy ym Mhrifysgol Antananarivo ac un o'r cyd-awduron:

“Mae gan yr Unol Daleithiau Gerflun Liberty, mae gan Ffrainc dŵr Eifel…. I ninnau ym Madagascar, ein bioamrywiaeth (cynnyrch miliynau o flynyddoedd o esblygiad), yw'r dreftadaeth unigryw yr ydym yn adnabyddus amdani ledled y byd. Allwn ni ddim gadael i'r rhyfeddodau naturiol sydd yma, gan gynnwys 100 o wahanol fathau o lemuriaid nad oes mo'u tebyg yn unman arall ar y blaned, ddiflannu. Rhaid gweithredu nawr cyn iddi fynd yn rhy hwyr”.

Mae'r grŵp yn tynnu sylw at y ffaith bod ardaloedd gwarchodedig Madagascar, sydd gyda'r pwysicaf ar gyfer bioamrywiaeth yn y byd i gyd, wedi dioddef yn ofnadwy yn ystod y blynyddoedd diwethaf o gloddio a choedwigo anghyfreithlon, a chasglu rhywogaethau sydd o dan fygythiad ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes. Maent yn pwysleisio Mae'r clirio enbyd ar goedwigoedd sych Madagascar (er mwyn clirio tir ar gyfer cnau daear ac ŷd) yn dileu'r ardaloedd sy'n weddill o'r cynefin prin yma, sy'n gartref i rywogaethau nad oes mo'u tebyg yn unman ar y blaned: hawlfraint Tahina Roland Frederic.Mae'r clirio enbyd ar goedwigoedd sych Madagascar (er mwyn clirio tir ar gyfer cnau daear ac ŷd) yn dileu'r ardaloedd sy'n weddill o'r cynefin prin yma, sy'n gartref i rywogaethau nad oes mo'u tebyg yn unman ar y blaned:Hawlfraint Tahina Roland Frederic.bod yr ansicrwydd sy'n mynd law yn llaw â'r gweithgareddau anghyfreithlon yma'n ddrwg i bobl hefyd yn ogystal â byd natur. Maent yn amlygu'r ffaith nad yw'r anfadwaith yma, a heb dalu dim trethi yn ei sgil, o fudd i'r wlad ac mae'n niweidio'r dreftadaeth naturiol sydd mor bwysig i'r wlad.

Mae'r gwyddonwyr wedi nodi pum maes blaenoriaeth i'r llywodraeth newydd ganolbwyntio arnynt. Y rhestr yw: buddsoddi mewn ardaloedd gwarchodedig, cryfhau deiliadaeth y bobl leol dros adnoddau naturiol, sicrhau bod datblygiadau seilwaith newydd yn cyfyngu ar yr effeithiau ar fioamrywiaeth, mynd i'r afael â throseddau amgylcheddol, a mynd i'r afael ag argyfwng pren tanwydd cynyddol y wlad trwy fuddsoddiad mawr mewn gwaith adfer.

Mae'r tîm yn pwysleisio bod yn rhaid i gadwraeth ddod â budd, nid niwed, yn lleol.

Dywedodd yr Athro Julia Jones o Brifysgol Bangor, Y Deyrnas Unedig, a fu'n gweithio ym Madagascar am bron i 20 mlynedd:

Mae Madagascar yn un o'r gwledydd tlotaf yn y byd. Mae mwy na 40% o blant dan bump oed yn nychlyd oherwydd diffyg bwyd ac mae mwy o bobl yn byw mewn tlodi eithafol na bron unman arall ar y ddaear. Felly mae angen i ymdrechion cadwraethol gyfrannu at ymdrechion y wlad i ddatblygu'n economaidd, nid tynnu oddi wrthynt. Ni ddylent wneud pethau'n waeth i'r tlodion gwledig sy'n aml yn cael eu gwthio i'r cyrion pan gaiff penderfyniadau eu gwneud.”

Mae'r tîm yn sicr y gallai camau yn y pum maes yma wneud gwahaniaeth mawr.

Yr Athro Ratsimbazafy:
“Dyw hi ddim yn rhy hwyr eto i arbed bioamrywiaeth Madagascar, ond mi fydd hi cyn bo hir. Rydym yn galw ar ein llywodraeth, a'r gymuned ryngwladol, i gydweithio i droi'r rhod cyn y bydd yn rhy hwyr. ”

Mae'n bosib y bydd rhywogaethau fel y crwbanod yma sydd mewn perygl difrifol, yn diflannu yn y gwyllt yn ystod y blynyddoedd nesaf os na ddaw terfyn ar y casglu anghyfreithlon. : Hawlfraint Chris Scarffe.Mae'n bosib y bydd rhywogaethau fel y crwbanod yma sydd mewn perygl difrifol, yn diflannu yn y gwyllt yn ystod y blynyddoedd nesaf os na ddaw terfyn ar y casglu anghyfreithlon. : Hawlfraint Chris Scarffe.Ychwanegodd yr Athro Jones:

“Ers ei ethol, mae'r Arlywydd Rajoelina yn sicr wedi rhoi arwyddion cadarnhaol iawn ei fod yn cydnabod pwysigrwydd bioamrywiaeth Madagascar. Fe sicrhawn ni y caiff gopi o'r papur hwn ac y caiff y cynnwys ei rannu'n eang ym Madagascar (a chyda'r darpar roddwyr y bydd angen eu cymorth arnom). Mae ein cyd-awduron, a holl wyddonwyr cadwraeth gweithgar Madagascar a'r byd sy'n ymboeni am Fadagascar, i gyd yn barod i helpu'r arlywydd newydd sicrhau y gall ei gyfnod yn y swydd fod yn drobwynt pwysig Madagascar, a'i bywyd gwyllt.”

Cyhoeddir y papur 'Y cyfle olaf i fioamrywiaeth Madagascar' yn Nature Sustainability ar 29 Ebrill 2019. 

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2019